Treialon Rainhill
Roedd Treialon Rainhill yn gystadleuaeth a drefnwyd rhwng 6 a 14 Hydref 1829, i brofi dadl George Stephenson mai locomotifau fyddai'r ffordd orau o bweru Rheilffordd Lerpwl a Manceinion a oedd bron â'i chwblhau ar y pryd. Cynigiwyd deg locomotif, gyda phump ohonynt yn gallu cystadlu, yn mynd ar hyd trac gwastad yn Rainhill, Swydd Gaerhirfryn (Glannau Merswy bellach).
Enghraifft o'r canlynol | cystadleuaeth |
---|---|
Dyddiad | Hydref 1829 |
Lleoliad | Rainhill |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y cystadleuaeth
golyguRoedd yn rhaid i bob peiriant deithio cwrs o filltir a thri chwarter (2.8 km) bob ffordd, gan gynnwys un rhan o wyth o filltir (200m) ym mhob pen ar gyfer codi'r cyflymder ac ar gyfer stopio'r trên. Felly byddai'r peiriant, gyda'i lwyth, yn teithio milltir a hanner (2.4 km) bob ffordd ar gyflymder uchaf.
Roedd yn rhaid i'r peiriannau gyflawni deg taith, a fyddai'n gyfartal i siwrnai o 35 milltir (56 km), sef y pellter o Lerpwl i Fanceinion, ac roedd yn rhaid i 30 milltir (48 km) o'r rhain fod ar gyflymder llawn. Roedd yn rhaid i'r cyflymder cyfartalog fod o leiaf 10 milltir yr awr (16 km/awr).
Ar ôl hynny, gallai'r peiriannau ail-lenwi â thanwydd a gwneud deg taith ychwanegol, i efelychu'r daith yn ôl.
Y cystadleuwyr
golyguCyflwynwyd deg locomotif yn swyddogol ar gyfer y treialon, ond ar y diwrnod y dechreuodd y gystadleuaeth dim ond pump oedd ar gael, sef
- Cycloped, locomotif gan Thomas Shaw Brandreth a yrrwyd gan geffylau
- Novelty, locomotif gan John Ericsson a John Braithwaite
- Perseverance, locomotif gan Timothy Burstall
- Rocket, locomotif a ddyluniwyd gan George a Robert Stephenson; a adeiladwyd gan Robert Stephenson a'i Gwmni.
- Sans Pareil, locomotif gan Timothy Hackworth
-
Cycloped Brandreth
-
Novelty Ericsson a Braithwaite
-
Perseverance Burstall
-
Rocket Stephenson
-
Sans Pareil Hackworth
Yr enillydd
golyguLocomotif Stephenson, Rocket, oedd yn fuddugol, gan mai dyma'r unig locomotif a oedd yn gallu cwblhau'r treialon. Derbyniodd cyfarwyddwyr Rheilffordd Lerpwl a Manceinion y dylai locomotifau weithredu gwasanaethau ar eu lein newydd, ac enillodd George Stephenson a'i fab Robert gytundeb i gynhyrchu locomotifau ar gyfer y rheilffordd.
Llyfryddiaeth
golygu- Anthony Dawson, The Rainhill Trials (Stroud: Amberley Publishing, 2018)