Tver

dinas yn Rwsia

Dinas yng nghanolbarth Rwsia Ewropeaidd yw Tver (Rwsieg Тверь / Tver'), canolfan weinyddol oblast Tver. Mae'n borthladd ar ran uchaf Afon Volga, lle mae Afon Tvertsa yn ymuno â hi. Fe'i lleolir 167 km i'r gogledd-orllewin i Moscfa, a 485 km i'r de-ddwyrain i St Petersburg ar brif ffyrdd a'r rheilffordd rhwng y ddwy. Sylfaenwyd tywysogaeth rymus yn y ddinas yn yr Oesoedd Canol. Ailenwyd y ddinas fel Kalinin (ar ôl y chwyldroadwr Mikhail Kalinin) ym 1931, ond dychwelodd i'w henw gwreiddiol ym 1990. Ei phoblogaeth yw 408,903 (Cyfrifiad 2002).

Tver
Mathtref neu ddinas, dinas fawr, okrug ddinesig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Tvertsa Edit this on Wikidata
Poblogaeth424,969 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1135 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlexey Ogonkov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bergamo, Osnabrück, Besançon, Veliko Tarnovo, Khmelnytskyi, Wcrain, Veliko Tarnovo, Kaposvár, Buffalo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Tver Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd152.22 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr135 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Volga Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.857828°N 35.921928°E Edit this on Wikidata
Cod post170000–179999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlexey Ogonkov Edit this on Wikidata
Map

Mae Tver yn ddinas hanesyddol. Yn y 13g a dechrau'r 14g, fe dyfodd fel canolfan fasnachol, a daeth tywysogaeth Tver i fod ymysg tywysogaethau grymusaf yr ardal. Difethwyd rhannau helaeth o'r ddinas mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth y Mongoliaid ym 1327, a dechreuodd ei dylanwad leihau o hyn ymlaen. Un o ddinesyddion enwocaf Tver oedd Afanasy Nikitin, marsiandwr o'r ddinas a fordwyodd i India a de-ddwyrain Asia o 1466 hyd 1477 ac a ysgrifennodd ddisgrifiad o'i daith. Meddiannwyd y ddinas gan luoedd tywysogaeth fawr Moscfa o dan Ifan III ym 1485. Collodd ei hannibyniaeth o hyn ymlaen, gan ddod yn rhan o wladwriaeth ganolog Rwsia oedd yn ffurfio o gwmpas Moscfa.

  NODES