Vernon Hartshorn
Roedd Vernon Hartshorn (1 Ionawr 1872 – 13 Mawrth 1931) yn undebwr llafur, a gwleidydd Cymreig, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ogwr o 1918 hyd ei farwolaeth ym 1931.[1]
Vernon Hartshorn | |
---|---|
Ganwyd | 1872 Crosskeys |
Bu farw | 13 Mawrth 1931 Maesteg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Arglwydd y Sêl Gyfrin |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd personol
golyguGanwyd Hartshorn yn Crosskeys yn fab i Theophilus Hartshorn, glöwr, a Helen (née Gregory) ei wraig.[2]
Priododd Mary Matilda, merch Edward Winsor, glöwr o Wlad yr Haf. Bu iddynt dau fab a merch.[3]
Glöwr ac undebwr
golyguAr ôl addysg elfennol dechreuodd Hartshorn gweithio fel bachgen mewn pwll glo yn Rhisga cyn symud i weithio fel clerc yn swyddfa cwmni glo yn nociau Caerdydd am gyfnod. Dychwelodd i Risga i weithio fel glöwr eto. Cafodd ei ethol gan ei gydweithwyr yn bwyswr (un oedd yn gwirio pwysau'r glo a gloddiwyd ar ran y gweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyflog teg am eu gwaith).[4]
Ym 1901 etholwyd ef yn asiant glowyr ar gyfer ardal Maesteg Ffederasiwn Glowyr De Cymru[5][6] ac i gyngor gweithredol cenedlaethol Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr ym 1911. Roedd Harshorn yn un o nifer o radicaliaid ifanc a oedd wedi dadleoli ffigurau mwy sefydledig y Ffederasiwn, yn dilyn streic y Cambrian 1910-11. Cymerodd ran flaenllaw yn y streic isafswm cyflog ym 1912.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethwyd Hartshorn ar Bwyllgor Trefnu'r Fasnach Glo, Pwyllgor Ymgynghori'r Rheolwr Glo a Phwyllgor Rhag Aflonyddwch Diwydiannol de Cymru. Cafodd ei urddo'n OBE am ei wasanaeth ym 1918.
Cynorthwyodd streic y glowyr, 1920, ond ymddiswyddodd o bwyllgorau rheoli'r Ffederasiwn Cymreig a'r Ffederasiwn Prydeinig ar ôl y streic oherwydd anghydfod parthed tactegau a defnyddiwyd yn ystod y streic. Dychwelodd i'r ddau bwyllgor rhwng 1922 a 1924, wedi ei ethol yn llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru.
Gyrfa wleidyddol
golyguRoedd Hartshorn yn un o sylfaenwyr y Blaid Lafur Annibynnol yng Nghymru. Yn nwy Etholiad Cyffredinol 1910, safodd fel ymgeisydd yr ILP ar gyfer etholaeth Ganol Morgannwg ond bu'n aflwyddiannus. Yn Etholiad Cyffredinol 1918 cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod y Blaid Lafur i etholaeth newydd Ogwr, gan dal y sedd hyd ei farwolaeth ym 1931.
Ym 1923 etholwyd Hartshorn yn gadeirydd grŵp seneddol y Blaid Llafur Cymreig. Yng ngweinyddiaeth Lafur gyntaf 1924 fe'i penodwyd i'r cabinet i swydd y Postfeistr Cyffredinol ac fe'i dyrchafwyd i'r Cyfrin Gyngor. Ym 1927 penodwyd ef i Gomisiwn Statudol India i ymchwilio i'r anghydfod oedd yn codi oherwydd ymgyrchoedd Gandhi.[2]
Yn 1930 fe'i penodwyd yn arglwydd y cyfrin sêl[1] gyda chyfrifoldeb arbennig am bolisi'r llywodraeth ar gyflogaeth.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Hill Crest, Maesteg,[3] yn 58 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn mynwent Eglwys Sant Cynwyd Llangynwyd.[7]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol | Olynydd: Ted Williams |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (2007, December 01). Hartshorn, Rt Hon. Vernon, (1872–13 March 1931), Lord Privy Seal since 1930; MP (Lab.), Ogmore Division of Glamorganshire since Dec. 1918. Who's Who & Who Was Who; adalwyd 13 Chwefror 2019
- ↑ 2.0 2.1 Richards, T., (1953). HARTSHORN, VERNON (1872 - 1931), arweinydd Llafur, aelod seneddol, aelod o'r ‘Cabinet’, Y Bywgraffiadur Cymreig; adferwyd 13 Chwefror 2019
- ↑ 3.0 3.1 Cook, W. (2004, September 23), "Hartshorn, Vernon (1872–1931), trade union leader and politician", Oxford Dictionary of National Biography; adalwyd 13 Chwefror 2019
- ↑ Sparticus educational Members of Parliament 1920-1960 - Vernon Hartshorn; adalwyd 13 Chwefror 2019
- ↑ "South Wales Coal Trade - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 20 Awst 1901. Cyrchwyd 13 Chwefror 2019.
- ↑ "PWYLLGOR GWEINYDDOL Y GLOWYR - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 31 Hydref 1901. Cyrchwyd 13 Chwefror 2019.
- ↑ Find a Grave - Vernon Hartshorn; adalwyd 13 Chwefror 2019