Victoria Beckham
Mae Victoria Beckham (ganed 17 Ebrill 1974) yn gantores, awdur, actores, model a phersonoliaeth cyfryngau a fu gynt yn aelod o'r grŵp pop merched The Spice Girls. Mae hi'n briod â'r pêl-droediwr David Beckham ers 1999 ac yn byw yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddynt dri mab. Erbyn 2009, amcangyfrifir fod gan y Beckhams gyfoeth o £125 miliwn.
Victoria Beckham | |
---|---|
Ganwyd | Victoria Caroline Adams 17 Ebrill 1974 Harlow |
Label recordio | 19 Recordings, Virgin Records, Telstar |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor, dylunydd ffasiwn, blogiwr, entrepreneur, canwr-gyfansoddwr, model |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B |
Priod | David Beckham |
Plant | Brooklyn Beckham, Romeo Beckham, Cruz Beckham, Harper Beckham |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | https://www.victoriabeckham.com/ |
Yn ystod tŵf poblogrwydd y Spice Girls yn ystod y 1990au, rhoddwyd y ffugenw Posh Spice arnim ffugenw a grëwyd yn wreiddiol gan y cylchgrawn pop Saesneg Top of the Pops yn eu rhifyn mis Gorffennaf 1996. Ers i'r grŵp wahanu, mae Beckham wedi ceisio creu gyrfa i'w hun ym myd cerddoriaeth pop, lle cafodd pedair sengl yn 10 Uchaf y Deyrnas Unedig. Aeth ei sengl gyntaf "Out of Your Mind", i rif dau yn Siart Senglau'r Deyrnas Unedig a dyma yw ei safle uchaf yn y siart fel artist unigol hyd yn hyn. Yn ystod ei gyrfa gerddorol ar ei phen ei hun, mae hi wedi arwyddo cytundebau gyda Virgin Records a Telstar Records.
Cafodd Beckham mwy o lwyddiant fel eicon ffasiwn rhyngwladol. Mae ganddi yrfa ym myd ffasiwn, am iddi gynllunio ei math ei hun o jîns ar gyfer Rock & Republic ac yn ddiweddarach ei brand ei hun o denim sef "dVb Style". Rhyddhaodd Beckham ei math ei hun o sbectolau haul a phersawr hefyd, o'r enw Intimately Beckham, a gafodd ei ryddhau yn y Deyrnas Unedig ac yn yr Unol Daleithiau. Mae hefyd wedi rhyddhau ystod i fagiau llaw a gemwaith mewn cydweithrediad â chwmni yn Japan, Samantha Thavasa. Yn ogystal â hyn, cyhoeddodd dau lyfr poblogaidd gydag un ohonynt yn hunangofiant a'r llall yn ganllaw i fyd ffasiwn.
Ym myd y teledu, cafodd Beckham bump rhaglen ddogfen a rhaglen realiti swyddogol amdani, yn cynnwys "Being Victoria Beckham" a "The Real Beckhams". Ei rhaglen ddogfen mwyaf diweddar oedd "Victoria Beckham: Coming to America" a adroddodd yr hanes am y cyfnod pan symudodd ei theulu i'r Unol Daleithiau yn 2007. Ers hynny, gwnaeth ymddangosiad cameo ar y gyfres deledu Americanaidd Ugly Betty, a bu'n feirniad ar Project Runway yn ogystal â "Germany's Next Topmodel".
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2008-12-30 yn y Peiriant Wayback