William S. Burroughs

awdur Americanaidd, rhan o'r Beat Generation (1914–1997)

Roedd William Seward Burroughs (San Luis, Misuri, Unol Daleithiau, 5 Chwefror 1914Kansas, 2 Awst 1997) yn llenor arbrofol ac arloesol, nofelydd, beirniad cymdeithasol ac yn un o brif ffigyrau'r mudiad 'Beat' y 1950au. Parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd, arlunwyr a cherddorion heddiw.[2]

William S. Burroughs
FfugenwWilly a William Lee Edit this on Wikidata
Ganwyd5 Chwefror 1914 Edit this on Wikidata
St. Louis Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1997 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lawrence Edit this on Wikidata
Label recordioESP-Disk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, arlunydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, rhyddieithwr, ffotograffydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1989 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Naropa Edit this on Wikidata
Adnabyddus amJunkie, Nova Express, Cities of the Red Night, The Place of Dead Roads, Naked Lunch Edit this on Wikidata
Arddullgwyddonias, dychan, dystopian literature, hunangofiant Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLouis-Ferdinand Céline, Jean-Paul Sartre Edit this on Wikidata
MudiadCenhedlaeth y Bitniciaid Edit this on Wikidata
TadMortimer P. Burroughs Edit this on Wikidata
PriodJoan Vollmer Edit this on Wikidata
PlantWilliam S. Burroughs Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/au‎chevalier des Arts et des Lettres, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://realitystudio.org/ Edit this on Wikidata
llofnod
Burroughs a David Woodard gyda Brion Gysin Dreamachine, tua 1997[1]:98–101
Poster i ffilm ddogfen am fywyd Burroughs

Mae ei waith yn cynnwys elfen hunan bywgraffiadol cryf, yn adlewyrch ei ymdrechion parhaus i ehangu ymwybyddiaeth ac yn dogfenni ei ddefnydd o (ac weithiau bod yn gaeth i) amrywiaeth eang o gyffuriau. Mae budredd, gwallgofrwydd, hiwmor du, swrealaeth, eironi, parodi a sylwebaeth o 'fywyd isel' yn elfennau amlwg o'i nofelau.

Yn ôl y bywgraffydd Barry Miles thema ganolig gwaith Burroughs yw:

Yr angen i gwestiynu pob dim. Hyd yn oed cwestiynu iaith ein hun, am fod iaith yn ymgorffori cyfres benodol o werthoedd y dylid eu harchwilio. Dadansoddwch bob dim sydd yn eich rheoli i weld sut mae'n sefyll - ac efallai fe wnewch chi ddarganfod bod angen i'w newydd. Credodd Burroughs fod yr unig ffordd i newid cymdeithas yw ei herio trwy gambahafio - i dorri'r rheolau - fel arall mae cymdeithas yn aros yn yr unfan.[3]

Bywyd cynnar

golygu

Fe ganwyd Burroughs i deulu cyfoethog, ei daid yn ddyfeisiwr peiriant cyfrif a arweiniodd i sefydlu’r Burroughs Adding Machines Corporation.

Fe'i anfonwyd i ysgol fonedd i feibion y cyfoethog yn Los Alamos, New Mexico where the spindly sons of the rich could be transformed into manly specimens.[4] Cadwodd ddyddiaduron cudd yn ddogfenni ei atyniad erotig i rai o'r bechgyn eraill.[5] Rhai blynyddoedd wedyn fe ddefnyddiwyd Los Alamos fel lleoliad ar gyfer arbrofion ffrwydro [6] i greu'r bom atomig cyntaf.

Astudiodd ym Mhrifysgol Harvard gan golli ei wyryfdod i butain fenywaidd ond hefyd yn ymweld â chlybiau hoyw dirgel Efrog Newydd. Yn dilyn Harvard teithiodd i Ewrop, gan briodi'r Iddewes Ilse Klapper yn Awstria ym 1937, er mwyn ei chynorthwyo i ffoi rhag y Natsïadd.

Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd fe lwyddodd i osgoi gwasanaeth milwrol: trefnodd ei fam i seiciatrydd a oedd yn gyfaill i'r teulu tystio bod Burroughs wedi dioddef problemau meddyliol. Am gyfnod bu'n gweithio fel 'exterminator' (lladdwr pryfed a chwilod).

Ym 1946 ysgarodd â Klapper a phriodd â Joan Vollmer gan gael plentyn gyda hi. Rhannodd y cwpl fflat gyda Jack Kerouac a'i wraig. Yn ystod y cyfnod hwn roedd Burroughs yn gaeth i forffin gan werthu heroin i dalu am ei gyflenwad. Bu Joan yn gaeth i Banzedrine (math o anffetamin).

Saethu ei wraig

golygu

Ym 1951, er mwyn osgoi awdurdodau'r Unol Daleithiau dihangodd y cwpl i Fecsico. Dan ddylanwad alcohol a chyffuriau chwaraeodd y cwpl 'gêm William Tell' - gyda Joan yn rhoi gwydr ar ei phen i Burroughs ei saethu gyda phistol. Methodd Burroughs y gwydr gan ladd ei wraig. Llwgrwobrwyodd y Mecsicaniaid er mwyn osgoi'r canlyniadau ac fe ddychwelodd i'r Unol Daleithiau[7]

Er gwaethaf y digwyddiad erchyll a’r effaith arno, ni chollodd Burroughs byth ei ddiddordeb mewn saethau, gan cadw gynnau hyd ei oes.

Dechreuodd ysgrifennu cyn saethu ei wraig, ond bu'r effaith y digwyddiad yn gryn ysgogiad iddo i ysgrifennu.[8]

Ym 1953 llwyddodd ei ffrind Allen Ginsberg ennill diddordeb cwmni cyhoeddi ac fe ymddangosodd lyfr cyntaf Burroughs - Junkie: Confessions of an Unredeemed Drug Addict.[3]

Tangiers a Naked Lunch

golygu

Hefyd ym 1953 gan ddibynnu ar arian ei deulu teithiodd i Tangier, Moroco, wedi'i sbarduno gan ffuglen Paul Bowles. Hefyd, roedd Tangier yn adnabyddus ar y pryd fel lle a oedd yn hawdd cael gafael ar gyffuriau ac i ddynion hoyw Americaniad a Saesneg cyfarfod â bechgyn lleol.

Pan oedd yn Tangier yn 1954 dechreuodd waith ar ei lyfr enwocaf Naked Lunch ac ym 1957 teithiodd Kerouac a Ginsberg i Tangier i'w gynorthwyo i olygu, teipio a gosod y gwaith.[3]

Pan gyhoeddwyd Naked Lunch yn 1959 bu'n rhaid ymladd achos o dan gyfreithiau Sodomiaeth yn yr Unol Daleithiau rhag i'r llyfr cael ei atal rhag ei werthu.

Arddull lenyddol a cut up

golygu

Ystyrir ei gyhoeddiadau cyntaf yn ganolig i symudiad y "Cenhedlaeth Beat", hynny yw, y grŵp o ddeallusion ac artistiaid a ddiffiniodd a siapiodd isddiwylliant llenyddol Saesneg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Bu Burroughs yn cadw cwmni ysgrifenwyr Allen Ginsberg, Gregory Corso, Jack Kerouac a Herbert Huncke.

Cafodd berthynas ag Allen Ginsberg ac wedyn bu'n cynnal cyfeillgarwch hir. Cyhoeddwyd detholiad o'u gohebiaeth ysgrifenedig yn y llyfr The Yage Letters. Ysgrifennwyd y llythyron gan Burroughs wrth iddo deithio drwy de America yn chwilio am gyffur Yage oedd fod i alluogi telepathi.[9]

Er eu bod yn trin pynciau a oedd yn radicalaidd i lenyddiaeth y cyfnod, mae gweithiau cyntaf Burroughs fel Junky (1953) neu Queer (ysgrifennwyd 1951-3; cyhoeddwyd 1985) yn defnyddio arddull cymharol draddodiadol a llinellol.

Yn ddiweddarach cydweithiodd Burroughs â Brion Gysin i boblogeiddio techneg lenyddol y 'cut-up' a ddefnyddiodd i ysgrifennu'r Naked Lunch (1959), The Soft Machine (1961/66), The Ticket That Exploded (1962/67), a Nova Express (1964). Torrwyd tudalennau ysgrifenedig i ddarnau gyda siswrn ac yna fe ludiwyd rhai o'r darnau ynghyd ar hap fel collage i greu naratif gwbl wahanol.

O ddiwedd y 1960au hyd ganol y 1970au bu'n dal i arbrofi gan ychwanegu mwy o gynnwys gwleidyddol ac yn mentro i faes ffilm a recordio sain. Yr unig nofel sylweddol a ygrifennodd yn y cyfnod hwn oedd The Wild Boys (1971) ond ysgrifennodd ddwsinau o erthyglau a straeon byrion, rhai mewn cydweithrediad â Brion Gysin.

O ddiwedd y 1970au hyd ganol y 1980 mae Burroughs yn creu mytholeg gymhleth yn Cities of the Red Night (1981), The Place of Dead Roads (1981) a The Western Lands (1987).

Iaith yn firws

golygu

Trwy gydol ei yrfa llenyddol ymdrechodd Burroughs i godi uwchben cyfyngiadau iaith a’r modd maent yn gormesi amgyffred gwrthrychol.

Yn dilyn ei ddefnydd o 'cut ups' datblygodd Burroughs ei theori bod iaith yn firws. Yn ôl Burroughs mae geiriau'n cael mynediad i'r unigolyn o'r tu allan ac yn cyd-fyw o fewn corff y gwesteiwr - yn rheoli gweithredodd ac ymddygiad yr unigolion heintiedig. Wrth i'r unigolion cyfathrebu mae'r firws yn cael ei drosglwyddo i unigolion eraill ac felly yn cyplysu ei hun yn ddi-ben-draw.

My general theory since 1971 has been that the word is literally a virus, and that it has not been recognized as such because it has achieved a state of relatively stable symbiosis with its human host; that is to say, the word virus (the Other Half) has established itself so firmly as an accepted part of the human organism that it can now sneer at gangster viruses like smallpox and turn them in to the Pasteur Institute. [10]

Henaint

golygu

Er iddo gymryd symiau sylweddol o gyffuriau roedd gan Burroughs feddwl hynod o eglur a miniog trwy gydol ei fywyd hir ac bu fyw tan 83oed.

Bu farw, yn ei gartref yn Lawrence, Kansas, wedi trawiad calon ym 1997.[11]

Llyfryddiaeth

golygu

Nofelau a ffuglen hir eraill

golygu
  • Junkie (hefyd Junky) (1953)
  • Queer (ysgrifennwyd 1951-3; cyhoeddwyd 1985)
  • Naked Lunch (1959)
  • The Nova Trilogy (1961-67)
    • The Soft Machine (1961/66)
    • The Ticket That Exploded (1962/67)
    • Nova Express (1964)
  • Dead Fingers Talk (1963) – darnau o Naked Lunch, The Soft Machine a The Ticket That Exploded wedi'u cyfuno i greu naratif newydd
  • The Last Words of Dutch Schultz (1969)
  • The Wild Boys: A Book Of The Dead (1971)
  • Port of Saints (1973)
  • The Red Night Trilogy (1981-87)
    • Cities of the Red Night (1981)
    • The Place of Dead Roads (1983)
    • The Western Lands (1987)
  • My Education: A Book of Dreams (1995)
Nodir: Cyhoeddodd Burroughs diweddariadau o'r sawl teitl uchod yn cynnwys The Soft Machine a The Ticket That Exploded. Cyhoeddwyd fersiynau wedi'u hail-olygu o lyfrau fel Junkie and Naked Lunch ers iddo farw.

Llyfrau, nodiadau a llythyron

golygu
  • "Letter From A Master Addict To Dangerous Drugs", British Journal of Addiction 53:2 (3 Awst 1956)
  • (gyda Daniel Odier) The Job: Interviews with William S. Burroughs (1969)
  • (gyda Claude Pelieu) Jack Kerouac (1970)
  • The Electronic Revolution (1971)
  • The Retreat Diaries (1976) – rhan o The Burroughs File yn ddiweddarach
  • Letters to Allen Ginsberg, 1953-1957 (1976)
  • Selected Letters (1993)
  • The Letters of William S. Burroughs 1945-1959 (1993)
  • Last Words: The Final Journals of William S. Burroughs (2000)
  • Everything Lost: The Latin American Notebook of William S. Burroughs (2007)
  • Rub Out The Words: The Letters of William S. Burroughs 1959-1974 (2012)

Straeon a nofelau byrion

golygu
  • Valentine's Day Reading (1965)
  • Time (book)|Time (1965)
  • APO-33 (1966)
  • The Dead Star (1969)
  • Ali's Smile (1971)
  • Mayfair Academy Series More or Less (1973)
  • White Subway (1973) – rhan o The Burroughs File yn ddiweddarach
  • The Book of Breething (1974)
  • Snack... (1975)
  • Cobble Stone Gardens (1976) – rhan o The Burroughs File yn ddiweddarach
  • Blade Runner (a movie) (1979)
  • Dr. Benway (1979)
  • Die Alten Filme (The Old Movies) – rhan o The Burroughs File yn ddiweddarach
  • Streets of Chance (1981)
  • Early Routines (1981)
  • Sinki's Sauna (1982)
  • Ruski (1984)
  • The Four Horsemen of the Apocalypse (1984)
  • The Cat Inside (1986)
  • The Whole Tamale (c.1987-88)
  • Interzone (book)|Interzone (1989)
  • Tornado Alley (book)|Tornado Alley (1989)
  • Ghost of Chance (1991)
  • Seven Deadly Sins (1992)
  • Paper Cloud; Thick Pages (1992)

Casgliadau

golygu
  • Interzone (ysgrifennwyd yn y 1950au, cyhoeddwyd 1988)
  • Roosevelt After Inauguration and Other Atrocities (1965)
  • Exterminator! (1973)
  • Ali's Smile: Naked Scientology (1978)
  • Ah Pook is Here, Nova Express, Cities of the Red Night (1981)
  • The Burroughs File (1984)
  • The Adding Machine: Collected Essays (1985)
  • Three Novels – Casglaid Grove Press The Soft Machine, Nova Express a The Wild Boys (1988)
  • Uncommon Quotes Vol. 1
  • Word Virus: The William Burroughs Reader (1998)[12]
  • Burroughs Live : The Collected Interviews of William S. Burroughs, 1960-1997 (2000)

Cydweithadau

golygu
  • (gyda Jack Kerouac) And the Hippos Were Boiled in Their Tanks (1945; cyhoeddwyd November 2008)
  • (gyda Sinclair Beilles, Gregory Corso a Brion Gysin) Minutes To Go (1960)
  • (gyda Brion Gysin) The Exterminator (1960)
  • (gyda Allen Ginsberg) The Yage Letters (1963)
  • (gyda Claude Pelieu a Carl Weissner) So Who Owns Death TV? (1967)
  • (yn bennaf Graham Masterson, ond Burroughs yn derbyn credid cyd-awdur) Rules of Duel (1970; ail-gyhoeddwyd 2010)
  • (gyda Brion Gysin) Brion Gysin Let the Mice In (1973)
  • (gyda Charles Gatewood) Sidetripping (1975)
  • (gyda Brion Gysin) Colloque de Tangier (1976)
  • (gyda Brion Gysin) The Third Mind (1977)
  • (gyda Brion Gysin a Gérard-Georges Lemaire) Colloque de Tangier Vol. 2 (1979)
  • (gyda Malcolm McNeill) Ah Pook Is Here and Other Texts (1979)
  • (gyda Keith Haring) Apocalypse (1988)
  • (gyda Tom Waits a Robert Wilson)The Black Rider (1989)

Ffotograffiaeth

golygu
  • Taking Shots: The Photography of William S. Burroughs (2014)

Llyfryddiaeth lawn

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Chandarlapaty, R., "Woodard and Renewed Intellectual Possibilities", yn Seeing the Beat Generation (Jefferson, NC: McFarland & Company, 2019), tt. 98–101.
  2. http://www.goodreads.com/author/show/4462369.William_S_Burroughs
  3. 3.0 3.1 3.2 Miles, Barry (20 Chwefror 2014). "William S. Burroughs: 100 Mlynedd". YouTube. LA Review of Books. Cyrchwyd 17 Awst 2014.
  4. Morgan, Ted, Literary Outlaw, p. 44.
  5. Word Virus: The William S. Burroughs Reader. James Grauerholz, Ira Silverberg, Ann Douglas (eds), Grove Press, 2000, p. 21.
  6. http://en.wikipedia.org/wiki/Manhattan_Project Manhattan Project
  7. Grauerholz, James. "The Death of Joan Vollmer Burroughs: What Really Happened?". American Studies Department, University of Kansas. Cyrchwyd 2008-07-28.
  8. Queer, Penguin, 1985, p. xxiii.
  9. http://www.amazon.co.uk/The-Yage-Letters-William-Burroughs/dp/0872860043
  10. Burroughs, 1986, http://www.academia.edu/189619/Apomorphine_Silence_Cutting-up_Burroughs_Theory_of_Language_and_Control
  11. Severo, Richard (August 3, 1997). "William S. Burroughs Dies at 83; Member of the Beat Generation Wrote 'Naked Lunch'". New York Times.
  12. James Grauerholz. Word Virus, New York: Grove, 1998

Dolenni allanol

golygu
  NODES
iOS 1
mac 9
Note 1
os 22
text 1
web 1