Iaith a siaredir yn Senegal, Gambia a Mawritania yng ngorllewin Affrica yw Woloffeg, hefyd Woloff, Wolof neu Ouolof. Mae'n aelod o is-deulu Ieithoedd Atlantig y teulu ieithyddol Ieithoedd Niger-Congo.

Er mai Ffrangeg yw iaith swyddogol Senegal mae Woloff a Ffrangeg yn cael eu defnyddio mewn addysg gynradd ac mae tua 3.2 miliwn o bobol erbyn hyn yn siarad y iaith fel mamiaith a thua 3.5 miliwn arall fel ail iaith. Fe'i siaredir gan tua 80% o boblogaeth Senegal. yn cynnwys pobl nad ydynt yn aelodau o grŵp ethnig y Wolof.

Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES
os 1