Term am newyddiadurwyr gwleidyddol sydd â mynediad i Lobi'r Aelodau ym Mhalas San Steffan yw'r Lobi.[1] Oherwydd y breintiau sydd ganddynt, gall newyddiadurwyr y Lobi cyfweld ag Aelodau Senedd y Deyrnas Unedig yn hawdd. Mae newyddiadurwyr gwleidyddol eraill, megis ysgrifenwyr sgetshis, heb yr hawl i fynychu'r Lobi ac yn mynychu oriel y wasg yn lle.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Lobby correspondents. BBC (1 Hydref 2008). Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2012.


  Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES