Yr Ymgynull
Darlun olew yw Yr Ymgynull (Saesneg: The Gathering) a baentiwyd gan un o brif arltistiaid Cymru yn yr 20g - Kyffin Williams. Prynnwyd y darlun gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1982.[1] Mae'r darlun yn mesur 122 x 183 cm. Mae'n nodweddiadol iawn o arddull arferol Kyffin. Yn 2007-16 roedd gwerth llun olew o'r maint hwn mewn arwerthiant rhwng £30,000 - £40,000.
Math o gyfrwng | paentiad |
---|---|
Crëwr | Kyffin Williams |
Deunydd | paent olew, cynfas |
Dechrau/Sefydlu | 1980s |
Genre | celf tirlun |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Europeana 280
golyguYn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[2]
Yr arlunydd
golyguGanwyd Kyffin (9 Mai 1918 – 1 Medi 2006) yn Llangefni, Ynys Môn. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1976 ac fe'i urddwyd yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2000. Yn ei flynyddoedd olaf trigai Kyffin Williams ym Mhwllfanogl, Ynys Môn, lle y bu iddo farw o gancr yn 2006. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-yng-Nghornwy.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ artuk.org; adalwyd 20 Mai 2016.
- ↑ Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.