Yr iaith Aeleg yng Nghanada

Daeth iaith Gaeleg yr Alban i Ganada gan ymfudwyr o Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd, a chafodd ei defnyddio'n iaith gymunedol yng Nghanada'r Iwerydd am ryw dwy ganrif. Yn yr 21g, mae'r iaith ar ei chryfaf yng ngogledd Nova Scotia, ar Ynys Cape Breton yn enwedig, a cheir siaradwyr hefyd yn Ynys Prince Edward, yn ne-orllewin ynys Newfoundland, ac yn ardal Miramichi, New Brunswick. Yn hanesyddol cafodd ei siarad hefyd gan gymunedau yn Ontario a Québec.

Map o siaradwyr yr Aeleg yn Nhaleithiau'r Arfordir ac ynys Newfoundland.

Siaredir yr iaith Aeleg yn nwyrain Canada ers i'r Gaeliaid ddechrau ymfudo i'r ardal yng nghanol y 18g. Yn sgil alltudiaeth yr Acadiaid i Louisiana a Gogledd a De Carolina, ymfudodd niferoedd mawr o Albanwyr, Saeson, Gwyddelod, ac Almaenwyr i ddwyrain Canada, gan drawsnewid demograffeg ieithyddol y wlad. Yn 1867, yr Aeleg oedd yr iaith a chanddi'r nifer trydydd mwyaf o siaradwyr (200,000) yn yr holl wlad, ar ôl Saesneg a Ffrangeg.[1] Yn niwedd y 19g, traean o boblogaeth Nova Scotia oedd yn medru'r iaith, a fe'i siaredir yn gyffredin yn nwyrain Ynys Prince Edward.

Yn yr 21g mae ymdrechion i achub yr iaith Aeleg yng Nghanada wedi tyfu, yn bennaf yn Nova Scotia. Er hynny, mae sefyllfa'r iaith yn fregus, hyd yn oed yn ei chadarnleoedd ar Ynys Cape Breton.[2] Amcangyfrifir bod rhyw 2000 o siaradwyr Gaeleg yng Nghanada'r Iwerydd, yn bennaf yn Nova Scotia,[3][4][5] a mwy na 7000 o siaradwyr yr ieithoedd Gaeleg yng Nghanada gyfan.[6][7] Yn ôl cyfrifiad 2011, mae dros 300 o drigolion Nova Scotia ac Ynys Prince Edward yn ystyried Gaeleg yr Alban neu'r Wyddeleg yn famiaith.[8]

Nova Scotia

golygu
 
Arwydd ffordd ddwyieithog yn Antigonish/Am Baile Mór, Nova Scotia.

Cafodd Gaeleg yr Alban ei defnyddio yn iaith yr aelwyd, y gymuned, a'r gweithle am fwy na dwy ganrif yn nhalaith Nova Scotia (Lladin am "Yr Alban Newydd"), a fe'i cedwir yn fyw yn yr 21g gan nifer fach o siaradwyr. Addysgir yr iaith yn bwnc mewn sawl prifysgol yn Nova Scotia, ac yn brif iaith y Coleg Gaeleg yn St Anne's, Ynys Cape Breton.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bumstead, J.M (2006). "Scots". Multicultural Canada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-26. Cyrchwyd 2006-08-30. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. McEwan-Fujita, Emily (2013). "Gaelic Revitalization Efforts in Nova Scotia". In Newton, Michael (gol.). Celts in the Americas. Cape Breton University Press. tt. 160–186. ISBN 978-1-897009-75-8.
  3. Ethnologue – Canada, Scottish Gaelic
  4. Nova Scotia Office of Gaelic Affairs
  5. Statistics Canada, NHS Profile 2011, by province.
  6. Statistics Canada, 2011 NHS Survey
  7. Our Community - Gaelic Affairs, Nova Scotia/Alba Nuadh
  8. Statistics Canada, 2011 Census of Canada, Table: Detailed mother tongue
  NODES
COMMUNITY 1