Math o ysgol breifat yn Lloegr a Chymru sy'n codi ffioedd yw ysgol fonedd. Fel arfer bydd ei disgyblion rhwng 13 a 18 oed. Nid oes gwahaniaeth manwl gywir rhwng ysgol fonedd ac unrhyw fath arall o ysgol breifat. Serch hynny, mae un diffiniad defnyddiol yn awgrymu bod gan ysgol fonedd nifer o nodweddion:

Ysgol fonedd
Mathysgol annibynnol, ysgol uwchradd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae'n ysgol ddosbarth, sy'n darparu ar gyfer cwsmeriaid cefnog; mae'n ddrud; nid yw'n lleol; ysgol breswyl ydyw yn bennaf; mae’n annibynnol ar y Wladwriaeth a llywodraeth leol, er hynny nid yw’n eiddo preifat nac yn cael ei rhedeg er elw.[1]

Mae'r enw Saesneg, "public school", yn adlewyrchu bwriad gwreiddiol ysgolion o'r fath y dylent fod yn agored i ddisgyblion heb ystyried yr ardal yr oeddent yn hanu ohoni neu eu henwadau, neu broffesiwn eu tadau, ac na ddylent gael eu rhedeg er elw perchennog preifat.

Mae ysgolion bonedd wedi'u cysylltu'n agos â'r dosbarthiadau llywodraethol yn y Deyrnas Unedig a'r Ymerodraeth Brydeinig tra roedd hwnnw'n bodoli.

Rheoleiddir ysgolion bonedd gan Public Schools Act 1868.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "It is a class school, catering for a well-to-do clientèle; it is expensive; it is non-local; it is a predominantly boarding school; it is independent of the State and of local government, yet it is not privately owned or run for profit." Vivian Ogilvie, The English Public School (Llundain, 1957), t.7
  2. "Public Schools Act 1868", deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 14 Rhagfyr 2014
  NODES
eth 10