Ystâd y Goron

corfforaeth statudol; portffolio eiddo sy’n eiddo i Goron Lloegr

Tir ac eiddo arall sydd ym meddiant brenin neu frenhines y DU "yn rhinwedd y Goron"—h.y. heb fod yn eiddo personol—yw Ystâd y Goron (Saesneg: The Crown Estate). Mae'n mwynhau statws cyfansoddiadol amwys erbyn hyn. Mae'n perthyn i deyrn Lloegr trwy etifeddiaeth ac eto heb fod yn rhan o'i eiddo personol. Mae'r arian yn mynd i Drysorlys y DU ac i Frenin Lloegr. Nid yw'r tiroedd yn perthyn i Lywodraeth y DU ond yn hytrach mae'n cael ei redeg fel ymddiriedoraeth dan reolaeth "Y Bwrdd" neu (a defnyddio'r enw traddodiadol cyfarwydd) "Comisiynwyr Ystâd y Goron".[1]

Ystâd y Goron
Math o gyfrwngcorff statudol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1961 Edit this on Wikidata
SylfaenyddSiôr III, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gweithwyr397 Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Rhanbarthy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.thecrownestate.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cynghorau sir sy'n galw am drosglwyddo Ystâd y Goron o reolaeth Llundain i Gymru (erbyn Rhagfyr 2024)

Mae Ystâd y Goron yn yr Alban wedi ei ddatganoli i Lywodraeth yr Alban, ers 2017. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd chwech sir yng Nghymru yn galw am i Ystâd y Goron gael ei ddatganoli hefyd yng Nghymru, a oedd yn werth tua tri chwarter miliwn o bunnoedd yn 2024.

Dechreuodd Ystâd y Goron yn yr Oesoedd Canol yn Nheyrnas Lloegr. Yn 1760, daeth y brenin Siôr III o Brydain Fawr i gytundeb â llywodraeth y dydd i drosglwyddo rheolaeth o'i ystâd frenhinol i'r llywodraeth ei defnyddio i godi incwm mewn cyfnewid am gyfran o'r incwm hwnnw fel incwm personol i'r teulu brenhinol: dyma sail y Rhestr Sifil heddiw.[1]

Er bod y term "Eiddo'r Goron" yn cynnwys tir ac eiddo o bob math sy'n perthyn i deulu brenhinol Prydain, dydy Ystâd y Goron ddim yn rheoli'r holl eiddo hyn (mae eithriadau amlwg yn cynnwys Dugiaeth Cernyw a'r palasau brenhinol). Ond er hynny mae tir ac eiddo'r Ystâd yn sylweddol iawn. Mae'n cynnwys[2]:

  • Cestyll yng Nghymru gan gynnwys Rhuddlan, Caernarfon a Chonwy
  • 55% o arfordir y DU, yn cynnwys rhan fawr o wely'r môr
  • Hawl i'r aur ac arian naturiol a ddarganfyddir yn y ddaear
  • 119,000 hectar (294,000 erw) o dir amaethyddol
  • Sawl parc, yn cynnwys Parc Windsor a pharciau Regent a St James yn Llundain
  • Eiddo a thai niferus, yn cynnwys Stryd Regent, Llundain

Cyfanswm gwerth y portffolio hwn yn 2011 oedd £7.3 biliwn (£7,300,000,000).[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Gwefan Ystad y Goron: FAQs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-03. Cyrchwyd 2008-12-16.
  2. "Gwefan Ystad y Goron: Portfolio". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-31. Cyrchwyd 2008-12-16.
  3. "Gwefan Ystad y Goron: About Us". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-01. Cyrchwyd 2008-12-16.

Dolenni allanol

golygu
  NODES
Done 1
eth 17