seren
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈsɛrɛn/
- yn y De: /ˈseːrɛn/, /ˈsɛrɛn/
Geirdarddiad
Ffurf unigolynnol sêr o'r Gelteg *sterā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₂stḗr a welir hefyd yn y Lladin stēlla, yr Hen Roeg astēr (ἀστήρ) a'r Ffarseg setāre (سِتارِه). Cymharer â'r Gernyweg ster a'r Llydaweg stered, (taf.) ster.
Enw
seren b (lluosog: sêr)
- Corff wybrennol sydd liw nos yn weladwy o'r Ddaear fel pwyntiau golau cymharol lonydd a disglair.
- (seryddiaeth) Corff wybrennol nwyol, sfferoidaidd ac ymoleuol o fàs mawr sy'n cynhyrchu egni trwy adweithiau ymasiad niwclear.
- Person enwog neu adnabyddus.
- Cyrhaeddodd y seren bop y stadiwm, yn barod i berfformio.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: diseren ~ di-sêr, serendod, serennaidd, serennig, serennog, serennu, serennyn, serog, serol, serydd
- cyfansoddeiriau: corseren, cyfseriad, cytser, goseren, sêr-afal, sêr-bysgodyn, sêr-diwlip, sêr-dremiwr, sêr-ddewin, serenffurf ~ serffurf, serenllys ~ serllys, serfaen, sêr-flodyn, serfrith, sêr-fytholeg, sêr-fywydegol, sêr-ffased, sêr-ffrwydryn, sêr-godwarth, sêr-gwrel, sêr-hebog, sêr-hollt, serlif, serliw, serlwch, sêr-lywio, sêr-saffir, sêr-ysgallen
- seren gawr, seren gawraidd
- seren gynffon, seren gynffonnog
- seren gorrach, seren gorachaidd, corseren
- seren wib
Cyfieithiadau
|
|