Black Orchid oedd pumed stori Hen Gyfres 19 Doctor Who. Dyma stori fyrraf y gyfres gydag ond dau episôd. Am y tro gyntaf ers The Highlanders yn Hen Gyfres 4, y TARDIS a'i phreswylwyr oedd yr unig elfennau ffuglen gwyddonol yn y stori.
Roedd Black Orchid yn nodedi am gael y nifer mwyaf o wylwyr yn ystod cyfnod Davison. (CYF: The Fifth Doctor Handbook) Yn ychwanegol, rhodd y stori cyfle i Sarah Sutton chwarae mwy nag un cymeriad, Nyssa ac Ann, a rhoi cyfle i Davison chwarae criced.
Yn ôl sylwebaeth sain y DVD, nid oedd un o'r cast rheolaidd yn hoff o'r sgript - ond cyfaddodd Sutton roedd hi'n fwy hoff o'r stori na Davison, Janet Fielding a Matthew Waterhouse. Fel grŵp, credon nhw roedd y stori yn llawn stereoteipiau Edwardiaidd heb ddirgel na thensiwn dramatig.
Crynodeb
Mae'r TARDIS yn cyrraedd y Ddaear yn 1925 lle, achos camgymeriad hynaniaeth, mae'r Pumed Doctor yn chwarae mewn gêm criced lleol. Mae'r teithwyr yn derbyn gwahoddiad i barti gwisg ffansi, ond mae'r digwyddiadau yn cymryd troad sinistr wrth i sawl llofruddiad digwydd yn nhŷ gwlad eu gwestai, y Bonheddig Charles Cranleigh.
Plot
Rhan un
I'w hychwanegu.
Rhan dau
I'w hychwanegu.
Cast
- Y Doctor - Peter Davison
- Adric - Matthew Waterhouse
- Tegan - Janet Fielding
- Nyssa/Ann Talbot - Sarah Sutton
- Y Foneddiges Cranleigh - Barbara Murray
- Syr Robert Muir - Moray Watson
- Y Bonheddig Charles Cranleigh - Michael Cochrane
- Brewster - Brian Hawksley
- Tanner - Timothy Block
- Latoni - Ahmed Khalil
- Yr Anhysbys/George Cranleigh - Gareth Milne
- Rhingyll Markham - Ivor Salter
- Cwnstabl Cummings - Andrew Tourell
Cast di-glod
Criw
- Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Val McCrimmon
- Gwisgoedd - Rosalind Ebbutt
- Dylunydd - Tony Burrough
- Dyn camera ffilm - Peter Chapman
- Golygydd ffilm - Mike Houghton
- Sain ffilm - Ron Blight
- Cerddoriaeth achlysurol - Roger Limb
- Colur - Lisa Westcott
- Cynorthwyydd cynhyrchu - Juley Harding
- Cynhyrchydd cyswllt - Angela Smith
- Rheolwr cynhyrchu - Jim Capper
- Golygydd sgript - Eric Saward
- Hŷn dyn camera - Alec Wheal
- Sain arbennig - Dick Mills
- Goleuo stiwdio - Fred Wright
- Sain stiwdio - Alan Machin
- Rheolydd technegol - Alan Jeffery
- Trefniant thema - Peter Howell
- Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
- Effeithiau fideo - Dave Chapman
- Golygydd fideo - Rod Waldron
- Cymysgydd lluniau - Carol Johnson
- Dylunydd effeithiau gweledol - Tony Auger
- Awdur - Terrence Dudley
Cyfeiriadau
Llyfrau
- Fel anhreg, mae'r Foneddiges Cranleigh yn rhoi Black Orchid gan George Cranleigh i'r Doctor.
- Mae'r Doctor yn dod o hyd i A Textbook for Botany for Students.
- Mae stori'r Doctor am deithio trwy amser wedi'i chymharu i rywbeth ysgrifennodd H. G. Wells; mae Syr Robert Muir yn dweud ei fod yn gwybod am Wells: "Mae'n ysgrifennu ffuglen."
Y Doctor
- Mae'r Doctor yn honni roedd ef eisiau gyrru trên stêm fel bachgen.
Diwylliant
- Dysgodd Tegan y charleston am sioe pan roedd hi yn ysgol.
- Y cân mae'r Doctor yn canu wrth baratoi am ei fath yw "I Want to Be Happy" wrth y musical No No Nanette sydd yn gyfredol iawn gan gafodd y cynhyrchiad ei berfformiad cyntaf yn y flwyddyn gosodwyd y stori ynddi - 1925.
Criced
- Mae Charles Cranleigh yn nodi roedd ei dîm yn "cael eu chwipio" a mae wedi "creu hwyaden".
Bwydydd a diodydd
- Mae Tegan yn gofyn am sgriwdreifar (sudd oren a fodca).
Nodiadau
- Teitl gweithredol y stori yma oedd The Beast, ond newidodd y teitl i Black Orchid yn gynnar yn y broses cynhyrchu gan nad oedd John Nathan-Turner yn hoff o'r teitl.
- Er mwyn cadw cyfrinach ei gymeriad, credydwyd Gareth Milne fel "Yr Anhysbys" am rhan un ac yn Radio Times; ac fel "George Cranleigh" am ran dau.
- Dyma stori gyntaf dwy ran yr 1980au, a'r gyntaf ers The Sontaran Experiment wrth Hen Gyfres 12 yn 1975.
- Er derbynodd Sarah Sutton credyd am "Nyssa/Ann" ar sgrîn am y dau episôd, derbynodd hi credyd am Nyssa'n unig yn Radio Times.
- Dros ffilmio, dechreuodd y tywydd dirywio ac felly roedd rhaid i'r actorion perfformio yn y gwynt a'r glaw.
- Ni edrychodd Peter Davison, Janet Fielding a Matthew Waterhouse ar y stori hon yn ffafriol, gan ystyried y stori'n gwan.
- Oherwydd ei disg gwefus, roedd rhaid ail-recordio rhai o linellau Ahmed Khalil (Latoni).
- Tra mae sawl stori arall wedi awgrymu bod y Doctor yn hoff o griced, (TV: The Ribos Operation, Castrovalva, Four to Doomsday, Human Nature) dyma'r unig stori deledu i ddarlunio'r Doctor (roedd Peter Davison yn hoff o chwarae criced, a fe chwaraeodd yn ardderchog). Byddai cariad y Pumed Doctor yn benodol yn cael eu datblygu mewn cyfryngau estyniedig. Er enghraifft, mae wedi'i gynnwys mewn sawl stori sain (SAIN: Phantasmagoria, Roof of the World, Autumn) a mewn comig. (COMIG: The Forgotten)
- Honnodd Peter Davison daeth awdur Terence Dudley o hyd i sgript y stori ar waelod drôr, wedi'i hysgrifennu ar gyfer hen gyfres dirgel llofruddio yn gwreiddiol, fe newidodd i stori Doctor Who.
- Yn ôl Eric Saward, dyma hoff stori John Nathan-Turner. Enwodd Sarah Sutton y stori yma fel un o'i hoff.
- Roedd Sarah Sutton a Janet Fielding wrth eu bodd i ddawnsio. Roedd Matthew Waterhouse yn llai bodlon, a fe awgrymodd dylai fod gan Adric llai o ddiddordeb mewn dawnsio a mwy o ddiddordeb yn y bwyd fel na fydd rhaid iddo cymryd rhan yn y coreograffi. Hawliodd Gary Downie bod gan Waterhouse dim sgiliau dawnsio o gwbl.
- Ystyriwyd Robin Bailey, Geoffrey, John Carson, William Lucas, Nigel Stock a Peter Vaughn am Syr Robert Muir.
- Ystyriwyd Jean Anderson, Renee Asherton, Honor Blackman, Claire Bloom, Faith Brook, Kathleen Byron, Rhyllis Calvert, Joan Greenwood, Rachel Kempson, Virginia McKenna, Muriel Pavlow, Moria Redmond, Beryl Reid, Barbara Shelley, Dinah Sheridan, Joan Sims ac Elizabeth Spriggs am y Foneddiges Cranleigh.
- Bwriadodd John Nathan-Turner am adeg i gyfarwyddo'r stori ei hun, ond roedd hon yn amhosib achos roedd ef yn gwylio dros Hen Gyfres 19 a K9 and Company. Fe ofynodd John Black, ond roedd ef yn brysur gyda K9 and Company. Ac felly, fe ddewisodd Ron Jones, yn ei nabod wrth ei ddyddiau fel rheolydd cynhyrchu.
- Aeth yr olygfa lle mae George Cranleigh yn cwympo oddi ar y to o'i le, gan fethodd dyn stỳnt Gaeth Milne bwrw ei darged o glustogau, gyda'i goesau yn bwrw'r llawr - mae sain y damwain yn glir yn y stori gorffenedig. Yn ffodus, nid oedd yr anaf yn difrifol.
- Roedd rhaid gollwng dwy olygfa yn ystafell gwely Ann a gwelodd hi'n cael ei sbïo arni gan George achos dadlau diwydiannol undeb y trydanwyr. Gweithiodd Ron Jones yn gyflym i adfer yr amser collwyd, a hawliodd John Nathan-Turner estyniad gostus o awr. Er mwyn lleihau'r niwed achosodd hon, defnyddiodd Jones seithiadau o George a gafodd eu recordio y dydd cynt.
- Feindiodd Sarah Sutton chwarae dau rôl yn flinedig achos roedd rhaid iddi newid ei gwisg o hyd ac o hyd. Cofiodd Ron Jones roedd yn annodd dod o hyd i berson gyda'r un adeilad â Sarah Sutton. Roedd ei dwbl, Vanessa Paine, yn daldra wahanol iddi.
- Yn flaenorol, ymddangosodd Barbara Murray a Moray Watson yn y mân-gyfres The Pallisers, gyda John Nathan-Turner wedi gweithio ar y gyfres hefyd.
Cyfartaleddau gwylio
- Rhan un - 9.9 miliwn
- Rhan dau - 10.1 miliwn
Cysylltiadau
- Mae Nyssa yn cyfeirio at eu taith diweddar i Tân Mawr Llundain ar 2 Medi 1666. (TV: The Visitation)
- Ymwelodd Ace, cydymaith y Seithfed Doctor, â pharti'r Cranleighs gan gwrdd gydag Adric, gydag ef yn fflyrtio gyda hi, wrth iddi chwilio am segment o'r Allwedd Amser. Ond, nid oedd Ace yn fodlon o'i geisiadau gan fygwth rhoi limp parhaol iddo os cadwodd ef fflyrtio gyda hi. Yn ychwanegol, gwelodd hi naill ai Nyssa neu Ann - yn ansicr pwy yw pwy - ond ni siaradodd hi â hi. (COMIG: Time & Time Again)
- Bydd Ann Talbot yn ymddangos eto yn PRÔS: The Sands of Time.
- Mae'r Bonheddig Cranleigh yn sôn am "y Meistr", gan ei alw'r "doctor arall". Mae hon yn cymysgu'r Doctor, gan feddwl mai cyfeiriad at y Meistr yw hon.
- Mae'r Doctor yn cael ei trapio mewn coridor, a mae'n cwyno am sut mae ei chwilfrydedd o hyd yn ennill. (TV: The Daleks, The Web Planet, The Time Medder, The Mind of Evil, The Leisure Hive)
- Yn union fel y Pumed Doctor yma, byddai'r Unarddegfed Doctor yn chwarae sbort, sef pêl-droed, gan ddangos sgiliau safonol. (TV: The Lodger)
- Yn flaenorol, glaniodd y TARDIS yng ngorsaf trenau yn yr 1920au, yn penodol yn Kent yn Nhachwedd 1920 yn ystod ail ymgorfforiad y Doctor. (SAIN: The Mouthless Dead) A fyddai'n wneud unwaith eto yn Calcutta, India ar 31 Rhagfyr 1926. (SAIN: The Emerald Tiger)
- Mae'r stori yma yn digwydd cyn PRÔS: In the TARDIS: Christmas Day.
- Byddai'r Chweched Doctor yn hwyrach yn disgrifio Black Orchid fel "antur bachgen am fonheddig ifanc yn neidio o gwmpas coedwigoedd law Brasil, yn cymryd tegeirianau wrth y frodorion". (SAIN: Year of the Pig)
Rhyddhadau cyfryngau cartref
Rhyddhadau DVD
Rhyddhawyd Black Orchid ar 14 Ebrill 2008 (DU), ar 5 Mehefin 2008 (Awstralia), ac ar 5 Awst 2008 (UDA). Yn gwreiddiol, cynlluniwyd y rhyddhad am Fai yn gwreiddiol, ond y funud olaf cafodd ei symud i Ebrill, gyda The Invasion of Time yn symud i Fai.
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gan Peter Davison, Janet Fielding, Sarah Sutton, Matthew Waterhouse.
- Golygfeydd dileuwyd
- Now and Then - edrychiad ar y lleoliadau yn y stori yma.
- Stripped for Action - edrychiad ar anturau comig y Pumed Doctor.
- Blue Peter - ymweliad i'r siop wisgoedd a oedd yn gyfrifol am y gwisgoedd yn y Black Orchid.
- Points of View - Barry Took yn edrych ar lythyron gwylwyr am newidiad amserlen Doctor Who.
- Black Orchid: Film Restoration - edrychiad ar y technegau cafodd eu defnyddio yn ystod adferiant elfennau ar leoliad y stori yma.
- Oriel
- Rhestrau Radio Times
Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #42.
Rhyddhadau Blu-ray
Rhyddhawyd y stori gyda gweddill Hen Gyfres 19 yn ran o Doctor Who: The Collection - Season 19 ar 10 Rhagfyr 2018 (DU), 4 Rhagfyr 2018 (UDA), ac ar 23 Ionawr 2019 (Awstralia).
Cynnwys:
- Sylwebaeth sain gyda Peter Davison, Janet Fielding, Matthew Waterhouse, Sarah Sutton a Peter Moffatt (cyfarwyddwr)
- Is-deitlau gwybodaeth cynhyrchu
- Fersiwn estynedig - Rhan un gyda golygfeydd dileuwyd wedi'u rhoi nôl mewn
- Trac sain wedi'u hynysu
- Rhaglen dogfennol cynhyrchu - yn cynnwys Peter Davison, Janet Fielding, Sarah Sutton, Matthew Waterhouse, Michael Cochrane (Cranleigh), Eric Saward a Rosalind Ebbutt (gwisgoedd) yn trafod Black Orchid, wedi'u harwain gan Mark Strickson.
- Behind the Sofa
- Golygfeydd a gafodd eu dileu
- Points of View
- Now and Then
- Cyhoeddiadau parhad BBC1
- Oriel HD
- Archif PDF
Rhyddhadau VHS
Rhyddhawyd y stori ar VHS gyda The Visitation ar Doctor Who: The Visitation / Black Orchid yn Gorffennaf 1994 yn y DU ac ym Mehefin 1996.
Troednodau
|