Cymdeithion
Pedwar o gymdeithion y Doctor oedd, o'r top ar y chwith yn nhrefn clodwedd: ei wyres, Susan; Cefnogwr ffuglen gwyddonol o Stockbridge, Izzy Sinclair; eu cydymaith cyntaf yn dilyn y Rhyfel Mawr Olaf Amser, Rose Tyler; a chydymaith hir-dymor yr Ail Ddoctor, yr Albanwr, Jamie McCrimmon.

Cydymaith oedd term eithaf amwys am ddisgrifio ffrindiau agosaf y Doctor. (SAIN: Situation Vacant, No Place Like Home, Death and the Queen) Roedd y bobl yma yn ymwybodol o "gyfrinach" y Doctor: sef y ffaith nid dyn oedden nhw, a theithion nhw trwy amser a'r gofod mewn llong wedi'i guddio fel blwch heddlu o'r enw'r TARDIS, ac yn gyson byddai'r cymdeithion hefyd yn ymuno'r Doctor ar ei deithiau. Yn aml, byddai cymdeithion y Doctor yn achub bywyd y Doctor yn uniongyrchol (TV: Rose, The Family of Blood) neu ddarparu safbwynt ag ataliodd y Doctor rhag cymryd mantais o'u pwerau Arglwydd Amser. (TV: School Reunion, The Runaway Bride, The Fires of Pompeii; SAIN: To the Death) Ar adegau, y cydymaith oedd y rheswm aberthodd y Doctor eu bywyd cyfredol (yr adeg honno) ac adfywiodd. (TV: The Caves of Androzani, The Parting of the Ways, The End of Time) Ar adegau eraill, collon nhw eu bywydau yn ceisio cyflawni amcanion y Doctor. (TV: "The Traitors", "Destruction of Time, Earthshock, Voyage of the Damned, Face the Raven; SAIN: Absolution, To the Death)

Dywedodd yr Unarddegfed Doctor wrth Amy Pond fe deithiod gyda chymdeithion er mwyn gweld y bydysawd trwy lygaid rhywun nad oedd wedi cael profiad o bobeth yn barod. (FIDEO: Meanwhile in the TARDIS) Yn ychwanegol, fe grybwyllodd at gymryd ofal wrth eu dewis. (TV: Amy's Choice) Unwaith gadawon nhw cwmni'r Doctor, defnyddiodd y rhan fwyaf o'u cymdeithion eu safbwynt newydd ar fywyd a moesau i helpu eraill; nododd Sarah Jane Smith unwaith gyda'r cymdeithion yn byw eu bywydau, ni fydd "Y Doctor" - sef ei ideoleg a'u hetifeddiaeth - byth yn marw. (TV: Death of the Doctor) Teimlodd Rose Tyler dysgodd hi "sut i fyw bywyd mewn modd gwell" wrth ei hamser gyda'r Nawfed Doctor, wedi ennill ewyllys newydd am sefyll i wrthwynebu yn erbyn pethau oedd angen eu newid. (TV: The Parting of the Ways) Cyfranodd y cymdeithion hefyd at helpu'r Doctor yn ei frwydrau yn erbyn grymoedd milain trwy gydol amser a'r gofod. (TV: The Ultimate Foe) Yn nodedig, enwodd Ace y Daleks fel "yr anfantais" i ddod yn gydymaith, (SAIN: Enemy of the Daleks) tra ddisgrifiwyd y Daleks gan Clara Oswald fel gelyn mwyaf anesgorol cydymaith. (PRÔS: The Companion's Companion)

Roedd y term yn byrhad o'r term "cydymaith teithiol", ac yn wir roedd y rhan fwyaf o'i gymdeithion yn teithio gyda'r Doctor yn eu TARDIS. Yn dibynnol ar y sefyllfa, cafodd abell air eraill eu defnyddio i ddisgrifio'r un berthynas - y mwyaf amlwg oedd "cynorthwyydd". Serch hynny, nid oedd rhywun yn debygol o glywed y Doctor yn galw eu ffrindau gan ddefnyddio naill air. Roedd gan ymgorfforiadau arferion gwahanol. Roedd gan y Trydydd Doctor tuedd, efallai yn diolch i'w sefyllfa unigryw o'i alltud, o ddefnyddio'r term "cynorthwyydd". (TV: The Ambassadors of Death, Terror of the Autons) Ar y llaw arall, pan gorfodwyd yr Wythfed Doctor i egluro ystyr y gair cydymaith, fe ffafriodd y gair ffrind yn lle cynorthwyydd. (SAIN: Situation Vacant) Awgrymodd Sarah Jane mai teulu fenthyg y Doctor oedd y cymdeithion, serch honiadau'r Arlwydd Amser am eu hunigoldeb yn y bydysawd. (TV: Journey's End) Honnod Martha Jones cymerodd y Doctor cymdeithion er mwyn brwydro eu hunigoldeb. (TV: The Family of Blood)

Roedd y ddau term yn broblem ar adegau. Weithiau, cymerwyd y gair cydymaith yn rhywiol, yn cyfrannu at gymysgedd am y perthynas rhwng y Doctor a'u ffrindiau. (TV: Aliens of London, Closing Time) Ar y llaw arall, dadleuodd cymdeithion dros briodoledd y gair cynorthwyydd. Pwysleisiodd Rose Tyler, "Dydw i ddim yn gynorthwyydd iddo" pan cafodd hi ei galw un gan Sarah Jane Smith. (TV: School Reunion) Roedd gwell gan Rose cael ei galw'n "gydymaith", fel pan alwodd Harriet Jones ar ddraws y Rhwydwaith Is-don am "gyn-gymdeithion y Doctor". (TV: The Stolen Earth)

Term arall oedd cyfaill, a gafodd ei ddefnyddio'n bennaf gan y Daleks. (TV: The Parting of the Ways, The Big Bang, The Witch's Familiar) A chyflwynodd yr Unarddegfed Doctor unwaith Clara Oswald i Tasha Lem fel ei gyfaill. (TV: The Time of the Doctor)

Amrywiodd y nifer o amser treuliodd pobl fel cymdeithion i'r Doctor yn eang; gan amlaf byddent yn aros gyda'r Doctor am mwy nag un antur. (TV: An Unearthly Child, The Daleks, The Rescue, The Romans, The Chase, The Time Meddler, ayyb) Tra arhosodd rhai am ond dyddiau yn unig, arhosodd eraill am flynyddoedd (SAIN: No Place Like Home, Absent Friends) Ar adegau, cafodd rhai cymdeithion eu gwahanu wrth y Doctor am fisoedd neu flynyddoedd cyn ailgychwyn eu teithiau gydan nhw. (TV: The Doctor, The Widow and the Wardrobe, Revolution of the Daleks; SAIN: The Juggernauts) Roedd gan rai Arglwyddi Amser eraill, yn aml yn wrthgiliedig, cymdeithion teithiol o amser i amser.

Cymdeithion y Doctor

Demograffeg

Dynoliaeth

Cymdeithion yr Wythfed Doctor
Pedair o gymdeithion y Doctor - i gyd yn fenywod ddynol o sawl gyfnod amser (SAIN: Ravenous 3)

Yn bennaf, teithiodd y Doctor gyda bodau dynol o'r 20fed (TV: "An Unearthly Child", "Bell of Doom", The War Machines, The Time Warrior, ayyb) a'r 21ain canrifoedd. (TV: Rose, Dalek, Smith and Jones, Partners in Crime, ayyb) Daw'r rhan fwyaf o'u cymdeithion o'r cyfnod amser yma yn Saeson, neu dechreuon nhw teithio gyda'r Doctor yn Lloegr. Roedd eithriadau, megis yr Americanwr Peri Brown fe gwrddodd wrth roedd hi ar ei gwyliau yn Lanzarote. (TV: Planet of Fire) Roedd eu tuedd am ddynoliaeth oedd un o'r rhesymau cafon nhw ei alltudo i'r Ddaear. (TV: The War Games) Serch honiadau'r Doctor am fod yn unigol iawn, dywedodd Sarah Jane Smith wrth y Degfed Doctor roedd ganddo teulu mwyaf y bydysawd: eu cymdeithion. (TV: Journey's End)

Rhywedd

O fewn cymdeithion dynol y Doctor, roedd nifer fawr ohonynt yn fenywod ifanc - ffaith ceisiodd yr Unarddegfed Doctor cuddio wrth Amy Pond. (FIDEO: Meanwhile in the TARDIS)

PenStevenTaylor
Roedd Steven Taylor yn anghyffredin - dyn a deithiodd am gyfnod gyda'r Doctor heb ynryw gydymaith benywaidd

Y Doctor Cyntaf oedd y cyntaf i gael sawl antur unigol gyda pherson wrywaidd o'r Ddaear, sef Steven Taylor. (TV: The Massacre; PRÔS: Roses, Making History, Waiting for Jeremy) Nid oedd ail ymgorfforiad y Doctor yn hir heb Jamie McCrimmon wrth ei ochr. (COMIG: Action in Exile - The Night Walkers; PRÔS: World Game, Golem, Blue Road Dance, Scientific Adviser, That Time I Nearly Destroyed the World Whilst Looking for a Dress, Mother's Little Helper, Reunion, Dust) hyd yn oed yn dilyn ei dreial gan yr Arglwyddi Amser. (PRÔS: The Time Eater; COMIG: Invasion of the Quarks - Martha the Mechanical Housemaid)

Teithiodd y Pumed Doctor hefyd gyda pheilot Americanaidd yr Ail Rhyfel Byd, Gus, (COMIG: 4-Dimensional Vistas - The Moderator) a mae'n bosib teithiodd yr Wythfed Doctor yn unigol gyda'i gydymaith hir-dymor, Fitz Kreiner. (PRÔS: Escape Velocity)

Roedd y berthynas rhwng y Doctor a'u cymdeithion yn aml yn blatonig, ond, roedd modd i rywedd a rhywioldeb chwarae rôl mewn teimladau rhamantus neu rhywiol a gall fodoli naill fordd.

Disgrifiodd yr Wythfed Doctor ei deimladau rhywiol a rhamantus cyntaf, ond deimlodd hefyd roedd yn bwysig pwysleisio i I.M. Foreman na fyddai'n deg ar unryw un o'i gymdeithion i gychwyn unrhywbeth gydag ef. (PRÔS: Interference - Book Two)

Er yr anghyfartaledd pŵer yma, roedd yna rhai cyfrychau rhwng yr Wythfed Doctor a'i gymdeithion. Yn wir, cofiodd Bernice Summerfield cael rhyw gydag ef yn fuan yn dilyn ei adfywiad. (SAIN: Benny's Story, PRÔS: The Dying Days)

Roedd gan y Nawfed a'r Degfed Doctor perthynas gyda Rose Tyler a wnaeth edrych yn rhamantus i wylwyr allanol, megis Mickey Smith, (TV: Boom Town, School Reunion, Rise of the Cybermen, Doomsday) Martha Jones, (TV: The Sound of Drums) a Donna Noble. (TV: Journey's End)

Yn hwyrach, priododd yr Unarddegfed Doctor ei gydymaith o amser i amser, River Song, mewn seremoni cydnabodd y dau barti fel cyfreithus. (TV: The Wedding of River Song, The Angels Take Manhattan, The Husbands of River Song; FIDEO: Last Night, ayyb) rhywbeth a gariodd i ymgorfforiadau eraill y Doctor, er iddynt cwrdd allan o drefn. (TV: The Husbands of River Song, SAIN: My Dinner With Andrew)

Nid oedd teimladau rhamantus o hyd wedi'u atychwel. Roedd Martha Jones yn mewn cariad gyda'r Doctor, ond cafodd hi ei gwrthod. (TV: Last of the Time Lords) Yn yr un modd, roedd gan Amy Pond diddordeb rhywiol yn y Doctor, a chafodd hi ei gwrthod. (TV: Flesh and Stone) Pan roedd hi y tu mewn i Faes Gwir ym mhresenoldeb yr Unarddegfed Doctor, bloeddiodd Clara Oswald "Athrawes Saesneg o'r Ddaear ydw i, ac rydw i wedi rhedeg i ffwrdd gyda dyn o'r gofod achos rydw i'n ffansïo..." cyn atal ei hun trwy gyddio ei cheg. (TV: The Time of the Doctor) Cyfaddodd y Deuddegfed Doctor fe feddyliodd am ei hun fel sboner Clara mewn modd yn ystod ei unarddegfed ymgorfforiad. (TV: Deep Breath)

Trwy Amy Pond a Rory Williams, roedd gan yr Unarddegfed Doctor cwpl priodedig ar y TARDIS. (TV: A Christmas Carol, ayyb) Roedd gan Rory pryderion am os roedd gwell gan Amy'r Doctor drosto, yn achosi rhywfaint o densiwn. (TV: Day of the Moon) Pan ddarganfododd Jo Jones am Amy a Rory, teimlodd hi bach o siom am adael y Trydydd Doctor er mwyn priodi ei gŵr, Cliff Jones. (TV: Death of the Doctor)

An-ddynol

I'w hychwanegu.

Mynd a dod

Ymuno'r Doctor

DarganfyddiadZoe
Mae Zoe yn cael ei darganfod yn ceisio cuddio yn yr ystafell gonsol. (TV: The Wheel in Space)

Dechreuodd y Doctor berthnasoedd gyda'u cymdeithion mewn ystod eang o ffyrdd. Roedd rhai, megis Adric, (TV: State of Decay) Leela, (TV: The Face of Evil) Tara, (COMIG: Official Secrets) a Zoe, (TV: The Wheel in Space) wedi cuddeio ar y TARDIS gan wybod yn union mai llong gyda'r modd i dywys nhw i ffwrdd o'u cartrefi oedd hi. Roedd lleill, megis Ian Chesterton, Barbara Wright, (TV: "An Unearthly Child") Dodo Chaplet, (TV: "Bell of Doom") Yasmin Khan, Ryan Sinclair, a Graham O'Brien (TV: The Woman Who Fell to Earth) wedi'u cymryd heb eu caniatâd; ond yn yr achos olaf, pan lwyddodd y Doctor dychwelyd nhw i'w cartrefi, gofynodd hi iddynt os oeddent am gadw ati'n teithio gyda hi. (TV: Arachnids in the UK) Ambell waith, rhowd cydymaith iddo gan y rhai ag awdurdodaeth drostynt. Yn ystod ei alltud ar y Ddaear, rhowd cymdeithion i'r Trydydd Doctor ar y rhan fwyaf gan y Brigadydd. (TV: Spearhead from Space, Terror of the Autons) Yn achos milwyr UNIT, gweithiodd y Doctor gyda phwy bynnag osododd y Brigadydd i weithio'r pryd honno pan oedd argyfwng. Dyma sut fe gwrddodd Mike Yates am y tro cyntaf. (PRÔS: The Eye of the Giant) Ar aedgau, rhowd cymdeithion i'r Doctor yn erbyn ei ddymuniadau gan ei "fosys" eraill - yr Arglwyddi Amser (PRÔS: World Game; SAIN: Blood of the Daleks) a'r Gwarchod Gwyn. (TV: The Ribos Operation) Roedd hyd yn oed gan y Daleks dealldwriaeth am sut yn aml fyddai'r Doctor yn cael eu cynorthwyo gan gymdeithion. Er enghraifft, wrth herwgipio'r Unarddegfed Doctor am asiantaith ynglŷn â Gwallgofdy'r Daleks, herwgipion nhw hefyd cymdeithion mwyaf diweddar y Doctor, Amy Pond a Rory Williams, i'w helpu. (TV: Asylum of the Daleks) Yn union fel y milwyr UNIT a gynorthwyyodd y Doctor o dan ei thad, tueddodd Kate Stewart helpu'r Doctor pryd bynnag daeth sefyllfa â'r dau at ei gilydd. (TV: The Power of Three, The Day of the Doctor, The Magician's Apprentice, The Zygon Invasion / The Zygon Inversion, The Vanquishers, The Giggle, The Legend of Ruby Sunday / Empire of Death) Ond, wrth geisio atal Gynllyn Dalek y Meistr, teithiodd Kate am fach yn a chyfrannodd hi at beilota'r TARDIS, ond cafodd ei amlycáu mai tro cyntaf erioed Kate yn y TARDIS oedd hon. I bob olwg, hawliodd cymorth parhaol Kate a'i thaith fuan yn y TARDIS iddi cael ei hystyried yn gydymaith gan wahoddwyd hi'n hwyrach gan Graham O'Brien i rŵp cymorth am gyn-gymdeithion y Doctor. (TV: The Power of the Doctor)

Serch hynny, y ffordd mwyaf cyffredin o ddechrau teithio yn y TARDIS oedd trwy gael wahoddiad gan y Doctor. Er mewn ambell achos roedd bwlch o amser rhwng cwrdd y Doctor a chael teithio gydan nhw. Roedd Donna Noble, (TV: The Runaway Bride, Partners in Crime) Amy Pond, (TV: The Eleventh Hour) Rory Williams, (TV: The Eleventh Hour, The Vampires of Venice) a Bill Potts, (TV: The Pilot) yn gymdeithion a ddechreuodd teithio gyda'r Doctor sbel ar ôl eu cwrdd. Yn y mwyafrif o achosion, roedd bron dim bwlch o gwbl rhwng cwrdd y Doctor a dechrau teithio gydag ef. Roedd Clara Oswald, (TV: The Bells of Saint John) Martha Jones, (TV: Smith and Jones) Rose Tyler, (TV: Rose) Jack Harkness, (TV: The Doctor Dances) Ace, (TV: Dragonfire) Vislor Turlough, (TV: Mawdryn Undead) Izzy Sinclair, (COMIG: Endgame) Charley Pollard, (SAIN: Storm Warning) Arnold, (COMIG: Children of the Evil Eye) Jamie McCrimmon, (TV: The Highlanders) Victoria Waterfield, (TV: The Evil of the Daleks) Vicki, (TV: "Desperate Measures") a phob cydymaith arall wedi dechrau eu teithiau achos gofynodd y Doctor iddynt. Daeth Mickey Smith yn gydymaith trwy ofyn i'r Doctor od fyddai modd iddo deithio gydan nhw, yn lle'r ffordd arall rownd. (TV: School Reunion)

Wnaeth cymdeithion eraill "gorfodi" eu ffyrdd arno'r TARDIS. Rhedodd Leela ar y TARDIS, er protestiadau'r Pedwerydd Doctor, a chyn oedd modd iddo cael gwared ohoni, chwaraeodd Leela gyda chonsôl y TARDIS, yn achosi hi i ddefaterioli. (TV: The Face of Evil)

Roedd ambell achos lle wahoddodd y Doctor rhywun i deithio gydan nhw, megis Lynda Moss, (TV: The Parting of the Ways) Astrid Peth, (TV: Voyage of the Damned) a Rita, (TV: The God Complex) cyn cael eu cais i deithio wedi'u rhwystro gan eu marwolaethau. Digwyddodd yr un peth i Clara Oswin Oswald, ond darganfododd y Doctor roedd fersiwn arall ohoni rhywle mewn amser a'r gofod, ac felly fe aeth i'w ffeindio. (TV: The Snowmen)

Mewn mân achosion, teithiodd cydymaith gyda'r Doctor am sbel, cyn dychwelyd i'w cartref, ac yn hwyrach ymunon nhw'r Doctor ar eu teithiau unwaith eto. Mae enghreiffitau yn cynnwys: Tegan Jovanka a gafodd ei gadael ym Maes Awyr Heathrow, cyn ymuno'r Doctor unwaith eto yn Amsterdam; (TV: Time-Flight, Arc of Infinity) Charley Pollard a deithiodd yn gyntaf gyda'r Wythfed Doctor a wedyn y Chweched Doctor; (SAIN: The Girl Who Never Was, The Condemned) a Yasmin Khan a gafodd ei gorfodi cartref i ddianc dinistriad y Meistr o Galiffrei, cyn aros am ddeg mis ar y Ddaear am ddychweliad y Trydydd ar Ddegfed Doctor lle dechreuodd hi ei theithiau unwaith eto. (TV: The Timeless Children, Revolution of the Daleks)

Gadael y Doctor

Gadawodd cymdeithion y Doctor am rhesymau mor amrywiol â'r rhesymau dechreuon nhw teithio yn y TARDIS yn y lle gyntaf. Roedd tri phrif reswm: roedd y cydymaith eisiau gadael; (TV: "The Planet of Decision", "Horse of Destruction", The Savages, The War Machines, Last of the Time Lords, Revolution of the Daleks) roedd y Doctor eisiau i'r cydymaith adael; (TV: "Flashpoint", "The Long Game, Utopia, The God Complex) neu achosodd rhyw rym allanol wahaniad y Doctor a'u cydymaith. (TV: "The Traitors", "The Destruction of Time", The War Games, The Hand of Fear, Earthshock, Doomsday, Journey's End, The Angels Take Manhattan, Hell Bent)

Pan ofynodd Brian Williams, tad un o'u cymdeithion, Rory Williams, a thad-yng-nghyfraith i gydymaith arall Amy Pond, beth ddigwyddodd i'r bobl a deithiodd gydag ef, esboniodd yr Unarddegfed Doctor adawodd rhai, cafodd rhai eu gadael, a fe gyfaddod bu farw "rhai, ond dim llawer". (TV: The Power of Three) Cyfaddodd y Chweched Doctor i Jack Harkness, rhywun a gafodd ei adael gan y Nawfed Doctor, fe wnaeth hyn i'r "cymdeithion gorau, a'r ci robotig". (SAIN: Piece of Mind)

Dewis y cydymaith

Ar adegau, y dewis i adael oedd un y cydymaith.

Rheswm cyffredin am adael ymysg cymdeithion dynol benywaidd oedd rhamant. Weithiau, megis mewn achosion Vicki, (TV: "Horse of Destruction") Jo, (TV: The Green Death) a Leela, (TV: The Invasion of Time) gadawon nhw i briodi, tra roedd o leiaf un cydymaith, Martha Jones, wedi gadael achos sylweddolodd hi na fyddai ei theimladau rhamantus am y Degfed Doctor byth yn cael eu atychwel. (TV: Last of the Time Lords) Ar adegau eraill, teithiodd y Doctor gyda chwplau priod yn y TARDIS, yn nodedig Amy Pond a Rory Williams. (TV: The Big Bang, ayyb)

IanBarbarablwchheddlureal
Ian a Barbara nôl cartref yn Llundain yn dilyn eu teithiau gyda'r Doctor Cyntaf. (TV: "The Planet of Decision")

Yn ieuenctid y Doctor, cyn iddynt sefydlu digon o reolaeth dros y TARDIS, gadawodd cymmdeithon, mewn rhan, yn ddiolch i o'r diwedd cael rhywfaint o fynediad i'w cartrefu ac roeddent eisiau dychwelyd cartref. Roedd hon yn enwedig yn wir am gymdeithion na ddewisodd i deithio gyda'r Doctor, megis Ian a Barbara, (TV: "The Chase") Dodo, (TV: The War Machines), a Polly a Ben. (TV: The Faceless Ones) Ond, weithiau digwyddodd hon yn hwyrach ym mywyd y Doctor. Er enghraifft, meddyliodd Ly-Chee roedd y Seithfed Doctor yn cynnig fordd i mewn i'r dre iddo, yn lle, cafon nhw sawl antur gyda'i gilydd. Pan o'r diwedd glaniodd y TARDIS yn y dref cywir, gadawodd Ly-Chee'r TARDIS a fe aeth i'r dafarn agosaf i archebu ddiod heb edrych nôl unwaith. (COMIG: The Enlightenment of Ly-Chee the Wise)

Gadawodd cymdeithion eraill i wellhau cymdeithas penodol cwrddon nhw ar eu teithiau gyda'r Doctor. Gadawodd Nyssa i helpu wella salwch Lazar, (TV: Terminus) tra arhosodd Steven Taylor ar blaned yr henuriaid i'w harwain. (TV: The Savages) Yn yr un modd, dewisodd Romana II aros yng Ngofod-E i helpu'r Tharil. (TV: Warriors' Gate) Gadawodd Tara Mishra wrth y Nawfed Doctor er mwyn helpu ar ôl trychineb Nomicae, (COMIG: The Bidding War) ond amlycodd y ddau barti mai ond dros dro oedd hon, ac ar ôl rhywfaint o amser, aeth Jack Harkness i'w hôl. (COMIG: The Lost Dimension) Yn hywrach, arhosodd Mickey Smith ar bwrpas ym myd paralel Pete er mwyn helpu trechu'r Cybermen, (TV: The Age of Steel) Roedd Mickey wedyn yn hynod o annibynnol eto wrth adael y Doctor am yr ail tro; fe adawodd y TARDIS i ddychwelyd i'w Ddaear "cartrefol", yn y pendraw i'w hamddiffyn rhag fygythiadau estronaidd. (TV: Journey's End, The End of Time)

Gadawodd eraill am wellhad personol. Gadawodd Melanie Bush ochr y Seithfed Doctor er mwyn cael anturiau newydd yn y gofod yn unig - nid amser - gyda Sabalom Glitz. (TV: Dragonfire) Yn dilyn farwolaeth Glitz, dychwelodd hi i'r Ddaear degawdau hwyrach lle ymunodd hi ag UNIT; yno, helpodd hi'r Pedwerydd ar Ddegfed a Phymthegfed Doctor. (TV: The Giggle, The Legend of Ruby Sunday) Gadawodd Frobisher y Doctor i fwynhau'r blaned bleser A-Lux. (COMIG: A Cold Day in Hell!) Gadawodd Liz Shaw wrth UNIT a'r Trydydd Doctor er mwyn dychwelyd i'w hymchwil, gan ddweud wrth y Brigadydd popeth oedd angen ar y Doctor mewn cynorthwyydd oedd "rhywun i basio'i diwbiau prawf ac i ddweud wrtho ba mor anhygoel oedd ef". (TV: Terror of the Autons) Yn dilyn antur bach ar Fesalîn, gwrthododd Martha Jones rhag ddechrau teithio gyda'r Degfed Doctor unwaith eto, gan ddymuno dychwelyd i UNIT. (TV: The Doctor's Daughter)

Gadawodd cymdeithion am y rhesm syml o nad oeddent yn hoff o deithio gyda'r Doctor rhagor. Gadawodd Victoria Waterfield achos roedd hi wedi'i blino gan y perygl fythbarhaol a oedd wastad o'i hamgylch ac felly dewisodd hi bywyd mwy diogel. (TV: Fury from the Deep) Gadawodd Tegan Jovanka am y rheswm tebyg o ddiflastod gyda'r marwolaeth a'r dinistriad gwelodd hi ym mhobman. (TV: Resurrection of the Daleks) Yn yr un modd, dewisodd Dan Lewis gadael yn dilyn profiad wnaeth bron ei ladd. (TV: The Power of the Doctor)

Achos roeddent yn gynorthwywyr wedi'u seilio ar y Ddaear nad oedd eisiau teithio gyda'r Doctor yn hir-dymor, neu ni dderbynion nhw erioed wahoddiad i deithio, gwnaeth rhai cymdeithion profi ond un neu ddau daith yn y TARDIS, ond ar wahân i hynny darparon nhw cymorth sylweddol ar y Ddaear. Y Brigadydd (TV: The Invasion, The Five Doctors) a Wilfred Mott (TV: The Stolen Earth, The End of Time) oedd y prif esiamplau, ond roedd modd hefyd ystyried Maxwell Edison (COMIG: Stars Fell on Stockbridge) a Mickey Smith. (TV: Aliens of London / World War Three, School Reunion, The Girl in the Fireplace) Gadawodd Harry Sullivan i'w fywyd arferol hefyd yn dilyn un taith yn unig yn y TARIDS, (TV: Terror of the Zygons) ond roedd gan y daith hon sawl dargyfeiriad.

Un cydymaith ag adawodd am amser o ganlyniad i'w dewis hi oedd Clara Oswald. Yn dilyn taith i'r Lleuad lle gorfodwyd hi i ddewis os ddylai hi lladd creuadur anniweidiol neu beidio a gwrthododd y Deuddegfed Doctor darparu unrhyw gymorth, daeth Clara mor grac gadawodd hi'r TARDIS, gan ddweud i'r Doctor i beidio ceisio dod o hyd iddi eto. (TV: Kill the Moon) Ond, gyda chymorth Danny Pink, sylweddolodd Clara nad oedd hi eisioes yn barod i ddiddymu ei theithiau gyda'r Doctor eto, a felly cytunodd hi i daith olaf gydag ef wythnosau wedyn ar yr Orient Express, lle dewisodd hi i ymuno ag ef unwaith eto serch y peryglon a'r oerni dangosodd y Doctor unwaith eto ar y daith. (TV: Mummy on the Orient Express) Gadawodd Clara'r TARDIS unwaith eto yn dilyn marwolaeth Danny gan gredu roedd y Doctor wedi dod o hyd i'w blaned gartrefol, Galiffrei, tra credodd y Doctor roedd Danny yn fyw a gyda Clara. (TV: Death in Heaven) Yn hwyrach, dychwelodd y Doctor i achub bywyd Clara, mewn antur a wnaeth datgelu'r celwydd. Wedyn, rhodd y Doctor wahoddiad arall i Clara i ymuno ag ef, gyda hi'n ei dderbyn. (TV: Last Christmas)

Dewis y Doctor

Ar adegau, cafodd cymdeithion eu thaflu o'r TARDIS, naill ai fel cosb, neu am lles aeddfedrwydd y cydymaith. Cafodd Adam Mitchell ei daflu o'r TARDIS yn dilyn cael ei ganfod yn ceisio defnyddio taith i'r dyfodol ar gyfer elwa yn y presennol. (TV: The Long Game)

Cafodd Susan, (TV: "Flashpoint") Arnold, (COMIG: The Amateur) John a Gillian (COMIG: Invasion of the Quarks) gollyniad mwy cyfeillgar. Credodd y Doctor wrth derfynnu eu teithiau roedd ef yn gwneud rhywbeth am lles eu iechyd. Atalodd y Doctor y pobl ifanc hon rhag deithio gydag ef bellach gan deimlodd byddai'n ymyrru ar eu aeddfedu naturiol. Cafodd Amy a Rory eu dychwelyd cartref gan yr Unarddegfed Doctor, gan gredodd os fyddai'r ddau yn barhau i deithio gydag ef, byddai'r dau yn cael eu lladd. (TV: The God Complex) Gadawodd y Deuddegfed Doctor ei gydymaith Clara Oswald yn ei chartref gan gredodd roedd ganddi Danny Pink nôl o'r Nethersphere a byddi hi yn hapus gydag ef. (TV: Death in Heaven) Wrth baratodd y Trydydd ar Ddegfed Doctor am ei hadfywiad, dychwelodd hi Yasmin Khan gartref, wedi penderfynnu gwynebu ei hymgorfforiad nesaf ar ei phen ei hun. (TV: The Power of the Doctor)

Wedi'u gwahanu gan sefyllfa

Roedd rhai achos lle gwahanwyd y Doctor a'u cymdeithion trwy sefyllfa yn lle dymuniadau naill barti. Efaillai'r achos mwyaf adnabyddus o hon oedd pan cafodd y Degfed Doctor a Rose Tyler eu gwahanu gan caeedigaeth y walydd rhyng dimensiynnol. (TV: Doomsday) Cafodd ymadawiad Sarah Jane Smith ei achosi achos cafodd y Pedwerydd Doctor ei alw nôl i Galiffrei (TV: The Hand of Fear) ar adeg yn hanes Galiffrei pan nad oedd hawl i ddyn fod ar y blaned. (TV: School Reunion) Gorfododd yr Arglwyddi Amser i Zoe a Jamie gadael yr Ail Ddoctor, gyda chof o'u hantur gyntaf gyda'r Doctor yn unig. (TV: The War Games) Honnodd yr Arglwyddi Amser yn hwyrach roeddent wedi safonu'r gweithdrefn ar gyfer cymdeithion. Cwrdodd y Chweched Doctor, er enghraifft, fersiwn o Peri Brown a dderbynodd "triniaeth Zoe a Jamie". Roedd ganddi cof yn unig am ei hanturiau gyda'r Pumed Doctor, Turlough a'r Meistr a ddechreuodd yn Lanzarote. (SAIN: Peri and the Piscon Paradox) Yn olaf, tra yn ei ddegfed ymgorfforiad, roedd rhaid i'r Doctor sefydlogi cymysgedd anghynaliadwy o'i DNA ef gyda Donna Noble. Er mwyn gwyneud hon, roedd rhaid iddo cuddio pob un o'i chofion ohono heb adael iddi cael mynediad i'r cofion rhag ofn iddi marw. Felly, er mewn ffordd cafodd hi ei thaflu o'r TARDIS am lles ei hun, nid oedd un o'r ddau eisiau wneud honno. (TV: Journey's End) Cofiodd hi ei thieithiau am eiliad cyn cael ei bwrw'n anymwybodol gan y cofion cyn eu anghofio unwaith eto. (TV: The End of Time) Yn yr un modd, achubwyd ymwybyddiaeth Donna i'r Llyfrgell yn erbyn ei dymuniadau, yn achosi iddi anghofio am y Doctor a treulio blynyddoedd o'i safbwynt hi yn briod i Lee McAvoy. Ond roedd hon dros dro yn unig, ac ailgychwynodd hi ei theithiau unwaith eto. (TV: Silence in the Library / Forest of the Dead)

Daeth dyddiau Jack Harkness yn y TARDIS i derfyn mewn ffyrdd anghyffredin. Oherwydd cafodd ei atgyfodi gan Rose fel yr endid Bad Wolf, fe ddaeth, mewn geiriau'r Degfed Doctor, "angywir". Heb fodd o farw rhagor, fe ddaeth yn rhywfath o "bwynt sefydlog amser" gyda'r TARDIS ei hun yn ei wrthod. (TV: Utopia) Serch hynny, gwahoddwyd unwaith eto gan y Doctor (TV: Last of the Time Lords) ac yn hwyrach fe deithiodd ar y TARDIS heb drafferth amlwg. (TV: Journey's End) Ond yn y ddau achos, roedd gan Jack fwy o ddiddordeb mewn sefydlu bywyd gyda Torchwood Tri yn lle dychwelyd i ochr y Doctor yn hir-dymor.

Cafodd Amy Pond a Rory Williams eu danfon nôl mewn amser gan Angel Wylo, yn eu gwahanu wrth yr Unarddegfed Doctor am weddill eu bywydau. Bu farw'r dau yn 87 ac 82 mlwydd oed yn eu tro. (TV: The Angels Take Manhattan)

Marwolaeth

I'w hychwanegu.

Rhesymau anhysbys

I'w hychwanegu.

Dylanwad Galiffrei

Collodd y Pedwerydd Doctor pedwar cydymaith olynol a ganlyniad i ddylanwad uniongyrchol neu anuniongyrchol Galiffrei: fe'i orfodwyd i adael Sarah Jane Smith ar y Ddaear yn dilyn cael ei alw nôl i'r blaned; (TV: The Hand of Fear) dewisodd Leela a K9 Marc I i aros ar Galiffrei; (TV: The Invasion of Time) ac arhosodd Romana II yng Ngofod-E gyda K9 Marc II (TV: Warriors' Gate) ar ôl cael ei galw nôl i Galiffrei. (TV: Full Circle) Yn ychwanegol, nid oedd modd i'r Chweched Doctor achub Peri Brown, gan gael ei dywys i ffwrdd gan yr Arglwyddi Amser yn ystod moment hanfodol. (TV: Mindwarp)

Mewn gwirionedd, roedd gwarden deial cyffes y Deuddegfed Doctor, y Veil, yn fod daionus, yn ceisio helpu'r Doctor dianc ei garchar. Gwelodd ei hun fel cydymaith i'r Doctor, gan obeithio byddai'r Doctor yn cymryd ef i weld beth oedd y tu allan i'r deial. Ond, achos roedd ef yn anadnabyddus am wir natur y Veil, (PRÔS: The Veil) ni ddangosodd y Doctor unryw tristwch am farwolaeth y creuadur. (TV: Heaven Sent)

Cydbwyso teithio a'r cartref

I'w hychwanegu.

Rhamant

I'w hychwanegu.

Cymdeithion Arglwyddi Amser Eraill

Y Meistr

I'w hychwanegu.

Iris Wildthyme

I'w hychwanegu.

Eraill

I'w hychwanegu.

Cymdeithion o bobl nad oedd yn Arglwyddi Amser

I'w hychwanegu.

Yn y cefn

I'w hychwanegu.

Beth yn union yw ystyr y gair "cydymaith"

I'w hychwanegu.

Hirdeb teledu

Ar deledu, yn aml ni arhosodd yr actorion a chwaraeodd cymdeithion yn Doctor Who am fwy nag un cyfres. Er roedd gan rai cymdeithion cyfnodau hir iawn, rhein oedd yr eithriad i'r rheol.

Heb gyfri cymdeithion fel Astrid Peth a Sara Kingdom - gyda phon un yn ymddangos yn un stori'n unig - y record am y cyfnod byrraf yw Adam Mitchell. Fe ymddangosodd mewn dau stori'n unig am dua 90 munud o Doctor Who, ar ddraws 8 dydd o amser yn y byd go iawn.

Mae modd mesur y cyfnodau hiraf mewn sawl ffordd.

  • O ran nifer yr episodau unigol, Jamie McCrimmon yw'r pencampwr amlwg gyda 113 episôd rhwng The Highlanders a The War Games, yn trechu'r rhan fwyaf o Ddoctoriaid, heb sôn am gymdeithion. Fe treuliodd y rhan fwyaf o dair cyfres ar y sioe, yn ystod y cyfnod oedd gan Doctor Who ei cyfrif mwyaf o episodau. O ganlyniad i'r newidiad mewn tueddiadau gwylio teledu, ni fydd y record yma byth yn cael ei agosáu, heb sôn am gael ei torri. (Nodwch nid yw'r ffigwr yma yn ystyried episôd 4 The Enemy of the World lle mae Jamie dal i deithio gyda'r Doctor, ond nid yw Frazer Hines na Hamish Wilson yn ymddangos ar sgrîn. Os yn hyn yn cael ei ystyried, byddai gan Jamie dau gyfrif episôd olynol o 48 a 64, yn eu tro. Mae'r cyfrif yn codi i 116 os yw ei ymddangosiad diweddarach yn The Two Doctors; Nid yw ymddangosiad Hines fel Jamie yn The Five Doctor yn cael eu cyfri gan roedd ef yn chwarae rhith yn lle'r cymeriad go iawn.)
  • O ran y nifer o storïau, achos bod gan cyfnod BBC Cymru nifer mwy o storïau mewn cyfres o'i gymharu a'r gyfres gwreiddiol, mae'r uchafbwynt wedi'i gosod gan Clara Oswald, gyda hi yn ymddangos mewn 30 stori llawn o The Snowmen ar 25 Rhagfyr 2012 nes ei hymadawiad yn Hell Bent ar 5 Rhagfyr 2015. Ymddangosodd ei hactor, Jenna Coleman, hefyd fel copi o Clara cyn The Snowmen yn Asylum of the Daleks, ac fel Testimony (Cof Clara) yn hwyrach yn Twice Upon a Time.
  • O ran amser y calendar mai cymeriad wedi'u hystyried fel cymeriad rheolaidd i'r gyfres Doctor Who, yr enillydd yw Yasmin Khan, gyda chyfnod o bedair mlynedd ac 16 dydd o'i hymddangosiad cyntaf yn The Woman Who Fell to Earth ar 7 Hydref 2018 nes ei hymddangosiad olaf rheolaidd yn The Power of the Doctor ar 23 Hydref 2022. Nodwch nid yw blwyddi'r calendar yr un peth â chyfresi, oherwydd nid yw Doctor Who wedi dechrau ei chyfresi ar yr un dyddiad yn gyson ar yr un dydd na'r un mis pob flwyddyn. Felly, yn ystod cyfnod Yasmin, darlledodd ei thair cyfres yn 2018, 2020, a 2021, gyda 2019 yn cynnwys yr Episôd Blwyddyn-Newydd, Resolution, yn unig a'i thri episôd olaf yn 2022 yn cynnwys yr Episôd Blwyddyn-Newydd Eve of the Daleks, Episôd y Pasg Legend of the Sea Devils, a'r Episôd Canrifol The Power of the Doctor.
  • O ran nifer y cyfresi, Tegan Jovanka a Sarah Jane Smith yw, hyd heddiw, yr unig cymdeithion teithiol i ymddangos mewn pedair cyfres olynol yn rheolaidd, wedi ymddangos yn Hen Gyfresi 18 nes 21 ac Hen Gyfresi 11 nes 14 yn eu tro. Jo Grant, Sarah Jane, a Yaz yw'r unig cymdeithion i ymddangos mewn tair cyfres llawn, sef Hen Gyfresi 8 i 10; Hen Gyfresi 11 i 13; a Chyfresi 11 i 13 cyfres adnewyddol BBC Cymru.

Mae'n bwysig sôn am gymeriad y Brigadydd, a oedd yn aelod hir-dymor iawn o'r cast. Yn rheolaidd neu beidio, chwaraeodd Nicholas Courtney y cymeriad mewn mwy o episodau'r rhaglen na phob un o Ddoctoriaid yr 1980au ar wahân i Tom Baker, o episôd 3 The Web of Fear ar 17 Chwefror 1968 nes ran pedwar Battlefield ar 27 Medi 1989, 21 blwyddyn a 7 mis wedyn.

Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
Community 6
games 5
games 5
golem 1
HOME 2
languages 1
mac 3
Note 1
OOP 1
os 96
web 1