Episôd Blwyddyn Newydd yw episôd arbennig o Doctor Who sydd yn cael ei darlledu y tu allan i'r amserlen rheolaidd, ac yn darlledu ar 1 Ionawr yn lle.

Hyd 2023, mae ond pedwar Episôd Blwyddyn Newydd wedi darlledu'n swyddogol. Y tro gyntaf darlledodd episôd arbennig Doctor Who ar Ddydd Calan oedd The End of Time: Part Two, wythnos yn dilyn Part One, sef Episôd Nadolig 2009.

Ar gyfer Cyfres 11, dewisodd pennaeth y sioe, Chris Chibnall peidio parhau'r traddodiad blynyddol Dydd Nadolig, a ddechreuodd yn 2005 gyda chychwyniad Doctor Who BBC Cymru, gan gael Episôd Blwyddyn Newydd yn lle. Resolution, Episôd Blwyddyn Newydd 2019, oedd y gyntaf i'w gosod yn bennaf ar Ddydd Calan. (Yn flaenorol, cynhwysodd The End of Time: Part Two mân olygfa ar ddiwedd yr episôd wedi'i osod ar 1 Ionawr 2005.)

Roedd dau episôd pellach yn ffocysu ar Daleks, sef Revolution of the Daleks ac Eve of the Daleks, wedi dilyn Resolution yn 2021 a 2022, yn eu tro. Ffurfiodd yr episodau tairawd a chysylltodd ar ddraws cyfnod y Trydydd ar Ddegfed Doctor, rhwng rhediadau'r cyfresi rheolaidd.

Mae'r Episodau Blwyddyn Newydd ynghyd yr Episodau Nadolig, weithiau wedi cael ei cyfeirio atynt fel Episodau'r Gwyliau.

Engheifftiau eraill

Yng nghyfresi deilliedig Doctor Who, darlledodd episôd gyntaf The Sarah Jane Adventures (Invasion of the Bane), a diweddglo Cyfres 1 Torchwood (Captain Jack Harkness / End of Days) ar 1 Ionawr 2007. Gan gynhyrchwyd a darlledwyd Invasion of the Bane ar wahân i weddill ei chyfres, mae modd ei hystyried fel yr Episôd Blwyddyn Newydd cyntaf yn "nheulu" sioeau Doctor Who.

Er nid oedd yn episôd arbennig, yr episôd gyntaf Doctor Who i ddarlledu ar 1 Ionawr oedd "Volcano", wythfed rhan y stori 1965-1966 The Daleks' Master Plan. Darlledodd rhannau cyntaf y storïau 1972, Day of the Daleks, a 1977, The Face of Evil, ar 1 Ionawr. Ond, er dathliodd The Daleks' Master Plan yr achos, roedd y lleill yn fwy o gyd-ddigwyddiad am y dydd yn gwympo ar y dyddiad, gan ni gyfeiriodd y naill stori am yr achos o gwbl, yn union fel cwmpodd pedwerydd episôd The Invasion ar 5ed pen blwydd y sioe, ond heb ddathlu'r digwyddiad.

Darlledodd rhan un Spyfall, agoriad Cyfres 12, ar Ddydd Calan 2020. Er ni hysbyswyd yr episôd fel achos arbennig, darlledwyd ar bwrpas y tu allan i'r amserlen arferol er mwyn darlledu ar y dyddiad oherwydd diffyg episôd arbennig y flwyddyn honno.

Rhestr Episodau Blwyddyn Newydd Doctor Who

Eraill

  • 1966 - "The Daleks' Master Plan" (Hen Gyfres 3)
  • 1972 - "Day of the Daleks: Part 1" (Hen Gyfres 9)
  • 1977 - "The Face of Evil: Part 1" (Hen Gyfres 14)
  • 2020 - "Spyfall: Part One" (agoriad Cyfres 12)
Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
COMMUNITY 6
Note 1