Eve of the Daleks oedd Episôd Blwyddyn Newydd 2022 Doctor Who.

Parhaodd yr episôd wrth ddiwedd The Vanquishers, gyda TARDIS y Doctor dal i gynnal difrod wrth yr Ymyrraeth Enfawr. Wrth geisio trwsio ei TARDIS, mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn creu cylch amser, gan trapio ELF Storage a phawb o fewn yr adeilad ynddi. Deliodd y stori hefyd â canlyniadau o'r Doctor yn hawlio dinistriad Llynges Rhyfel y Daleks o ganlyniad i Ymerodraeth y Sontarans yn nigwyddiad olaf y Flux, gyda Daleks Dienyddol yn cael eu danfon i ddial trwy ladd y Doctor.

Yn nodedig, dyma'r episôd gyntaf i ddynodi bod teimladau Yasmin Khan tuag at y Doctor yn rhai rhamantus.

Crynodeb

Deg munud nes canol nos a dechreuad 2022. Gyda TARDIS y Doctor yn parhau i gamweithio, mae'r Doctor, Yaz a Dan yn cael eu gorfodi i aros mewn storfan gydag un cwsmer yn unig. Ond, mae Daleks Dienyddol yn eu hela, ac mae cylch amser yn achosi i'r grŵp ailadrodd munudau olaf 2021 tro ar ôl tro. Beth sydd yn digwydd i amser? Beth ydy'r Daleks eisiau? Wrth i Ddydd Calan agosáu, bydd strategaethau'r Doctor yn cael ei arholi er mwyn iddynt torri'r cylch ac osgoi Extermination ar nos lle nad oes modd anghofio hen adnabyddion.

Plot

I'w hychwanegu.

Cast

Cyfeiriadau

  • Mae Dan yn dweud ei fod yn teimlo "deja vu" ar ddechrau'r ail gylchiad.

Y TARDIS

  • Mae Cloch Cloister y TARDIS yn canu wrth i'r Doctor cychwyn ailosodiad y system.

ELF Storage

  • Mae'r eitemau sydd wedi'u gwahardd rhag cael eu storio yn ELF Storage yn cynnwys nwyddau anghyfreithlon neu rai sydd wedi'u dwyn, pobl, anifeiliaid, olwynion, arian, Planhigion, bwyd, ceir, dryllion, amiwnisiwn, a deunyddiau gwenwynus, peruglys, neu ymbelydrol.
  • Mae uned Nick yn llawn eitemau wrth ei gyn-gariadon, gydag ef yn cadw'r pethau rhag ofn iddyn gofyn i gael eu pethau nôl.

Gwyliau a dathliadau

  • Mae'r rhan fwyaf o'r stori yn cymryd lle ar Nos Galan, gyda Dydd Calan yn dod ar ddiwedd y stori.
  • Mae mam a ffrindiau Saraj mewn Partïon Nos Galan.
  • Mae gan fynedfa ELf storage coed Nadolig a goleuadau Nadolig.

Unigolion

  • Mae Sarah yn derbyn negeseuon testun wrth Megan, Laura ymysg pobl eraill.
  • Mae cyn-gariadon Nick yn cynnwys Simona, Lucy, a Nicole.
  • Mae Mary yn hawlio cwrdd â Tad Sarah ar Nos Galan. Mewn gwirionedd, cwrddon nhw ar 7 Ionawr, ond mae Mary yn ystyried y ddau i fod "yr un peth".
  • Etifeddodd Sarah ELF Storage wrth ei hen-ewythr Barry.
  • Mae Sarah yn dweud "Oh, my giddy aunt" wrth i'w mam ei galw.

Technoleg

  • Nid oes modd troi ffôn symudol Sarah i dawel.

Diwylliant o'r byd go iawn

  • Mae Nick yn rhoi gêm Monopoly o'i gyn-gariad, Simona, i mewn i'r storfa.
  • Mae'r Doctor yn hawlio byddai hi a Yaz yn "ardderchog ar Supermarket Sweep".
  • Mae Dan yn cymharu'r cylch amser i Groundhog Day.

Rhamant

  • Mae Dan yn sylwi ar deimladau rhamantus Yaz am y Doctor. Er i'r ddau ohonynt gwrthod y syniad.
  • Mae Mary yn dweud wrth ei ferch taw Nos Galan yw'r amser gorau i gwrdd ddyn
  • Mae gan Nick sawl cyn-gariad, gan gynnwys Simona, Lucy, a Nicole. Mae'r nifer fawr ohonynt, a obsesiwn Nick dros eu heiddo, yn achosi Yaz i ofyn os ydynt "dal yn fyw", gyda Nick yn cadarnhau eu bod nhw yn.
  • Mae Nick yn cyfaddef i Sarah bod ganddo deimladau amdani, ers tair blwyddyn.

Bwydydd a diodydd

  • Mae un o unedau Jeff yn llawn caniau Beef N Beans.

Nodiadau

  • Mae gan yr episôd yma'r agoriad oer hiraf yn hanes y gyfres, gan rhedeg i 00:09:10. Cymerodd Eve of the Daleks y teitl yma wrth The Return of Doctor Mysterio
  • Yn wahanol i The End of Time: Part Two a Resolution, mae gan ddiweddfwrdd yr episôd yma y lythrennau MMXXII, sef y flwyddyn ddarlledu cywir o 2022. Digwyddodd hon hefyd gyda Revolution of the Daleks a oedd gan y lythrennau MMXXI, lythrennau'r flwyddyn darlledu 2021.
  • Pan gwelodd Jodie Whittaker ei bod hi'n cael ei lladd ym munudau agoriadol sgript yr episôd yma, meddyliodd hi bod hi wedi cael ei ysgrifennu allan o'r sioe yn gynharach nac oedd hi'n disgwyl.[1]
  • Mae un o'r Daleks yn dweud "Nid Nick ydw i", cellweiriad at y ffaith bod y Daleks yn cael eu lleisio gan Nicholas Briggs.

Cyfartaleddau gwylio

  • BBC One dros nos: 3.21 miliwn[2]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 4.4 miliwn[3]

Cysylltiadau

  • Mae'r Doctor yn ailosod y TARDIS er mwyn cael gwared o'r difrod wrth yr Ymyrraeth Enfawr, yn enwi'r drysau ychwanegol yn benodol fel rhywbeth byffai'n diflannu. (TV: The Halloween Apocalypse)
  • Mae modd i'r Doctor defnyddio ei sgriwdreifar sonig am eiliad i ymyrru gyda dryllfraich y Daleks, yn union fel oedd modd iddi wneud ag arfau'r Dalek Rhagchwiliol pan nad oedd yn barod eto. (TV: Resolution)
  • Cyn cael ei lladd gan y Daleks am y tro cyntaf, mae'r Doctor yn dweud mewn ofn, "dim fel hyn". Ond yn fuan cyn y digwyddiad, cafodd y Doctor ei rhybuddio gan ymgorfforiad Amser roedd ei "hamser yn dod i ben". (TV: The Vanquishers)
  • Mae'r Doctor yn dweud byddai ei sonig yn cymryd achau i gyseinio concrit. (TV: The Doctor Dances)
  • Mae Dan yn dweud achubodd y Doctor y bydysawd ond "wythnos diwethaf". (TV: The Vanquishers)
  • Mae'r Daleks yn baio'r Doctor am ddinistrio Llynges Rhyfel y Daleks yn ystod y Flux, ond mae hi'n honni mai cynllun y Sontarans oedd hyn, gyda hi ond yn ymyrru arno. (TV: The Vanquishers) Yn flaenorol, dilynodd grŵp o Daleks y Doctor Cyntaf gyda'r bwriad o ddial trwy ei ladd. (TV: The Chase)
  • Mae Dan yn sylwi ar deimladau Yaz ar gyfer y Doctor, gan ni sylwodd Yaz bod ei theimladau mor amlwg. (TV: Arachnids in the UK)
  • Datgelwyd mai'r tair mlynedd treuliodd Yaz, Dan a Jericho yn yr 1900au mewn gwirionedd yn pedair mlynedd erbyn iddyn nhw cyrraedd nôl i'r DU yn The Vanquishers. Trwy gydol y pedair mlynedd treulion nhw gyda Eustacius Jericho, mae Dan yn cofio Yaz yn gwylio hologram o'r Doctor. (TV: Survivors of the Flux)
  • Mae Dan yn cofio ei fethiant o geisio ddechrau perthynas gyda Diane. (TV: The Vanquishers)
  • Mae'r Doctor yn crybwyll heb weld "cymaint o fflamlwch â hyn ers 1605", yn cyfeirio at yr amser gwelodd hi a Yaz cais Guto Ffowc i ddinistrio Senedd San Steffan. (PRÔS: Black Powder)
  • Mae Karl Wright yn gwylio dinistriad ELF Storage. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
  • Mae'r TARDIS wedi defnyddio cylchoedd amser o'r blaen i achub unigolion neu blanedeu rhag ddiddymiaeth wrth i'r Doctor ceisio dod o hyd i ddatrysiad fwy parhaol. (TV: Doctor Who, The Big Bang)

Rhyddhadau cyfryngau cartref

Troednodau

Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
COMMUNITY 6
Note 1