New Earth oedd episôd cyntaf Cyfres 2 Doctor Who.

Gweithiodd yr episôd fel canol trioleg cwmpasog "Daear Newydd" a gynhwysodd The End of the World a Gridlock. Nodwedd arall y stori oedd ddychweliad Cassandra O'Brien.Δ17 a Gwyneb Boe, gyda'r ddau wedi'u gweld yn olaf yn The End of the World, gan hefyd cyflwyno dirgel am Wyneb Boe a fyddai'r rhan hanfodol o stori Cyfres 3. Hefyd, hon oedd episôd cyntaf cyfnod BBC Cymru i'w osod ar planed ar wahan i'r Ddaear, (gan eithrio golygfa ar ddechrau'r episôd wrth i Rose ffarwelio pobl) achos gosodwyd pob stori Cyfres 1 ar neu'n cwmpasu'r Ddaear.

Yn y cefn, hon oedd ymddangosiad olaf Zoë Wanamaker, ond mi roedd y tro cyntaf gweithiodd Anna Hope ac Adjoa Andoh ar y rhaglen. Roedd recordio pennaf yn digon anesmwyth wnaeth day set o sylwebwyr adrodd am y cynhyrchiad. Wnaeth gor-rediad a thrafferth cynhyrchiad wedi effeithio ar yr episodau arall o fewn y bloc cynhyrchu. (PCOM, DCOM: New Earth)

Roedd hefyd gan Gyfres 2 ystod o brecweli ar gyfer pob episôd a gafodd eu hadnabod fel Tardisodes. Dilynodd y yr un cyntaf, Tardisode 1 yn syth i mewn i New Earth.

Crynodeb

Yn y dyfodol pell, mae modd i gyfundref o leian-gathod gwella pob salwch, ond mae'r Degfed Doctor yn amau eu dulliau. Bydd rhaid i'r Doctor darganfod y gwir ac achub Rose wrth ei gelyn milain, y Foneddiges Cassandra.

Plot

I'w hychwanegu.

Cast

Cast di-glod

  • Ymwelwyr:[2]
    • Sam Stennett
    • Paul Burke
    • Emma Powell
    • Philippa Daniels
    • Madog Davies
    • Owain Davies
    • Marianne Hemming
    • Elsie May
    • Rachel Williams
    • Matthew Williams
  • Lleian-gathod:[2]
    • Liza Meggitt
    • Hazel Beauchamp
    • Jade Kenning
    • Nathalie Cuzner
    • Nia Collier
  • Bwtler:[2]
    • Stuart Ashman
  • Menyw Coch:[2]
    • Claire Saddler
  • Dyn:[2]
    • Zeph White
  • Gwesteion:[2]
    • Gareth Dixon
    • Ian Wooley
    • Kevin Hudson
    • Domenico Balsaco
    • Kwesi Gepi Attee
    • Nate Webb
    • Peter Simon
    • Jeremy Harvey
    • Sian Gunney
    • Sarah Williams
    • Becky Evans
    • Suraya Jina
  • Mam crand:[2]
    • Helen Irving
  • Tad crand:[2]
    • Dave Bremner
  • Dyn gwyn:[2]
    • Mai Kearney
  • Heddweision NNYPD:[2]
    • Dave Wong
    • Gareth Somers
  • Parafeddygon:[2]
    • Michael Tudor
    • Jitka Charyparova
  • Cleifion:[2]
    • Lucy Hassan
    • Andy Jackson
    • Nick Godding
    • Jo Dibble
    • Luke Zac
    • Beth Dibble
    • Nikkie White
    • Jeannie Rebane
    • Jason Jones
    • John Evans
    • Richard Atkin
    • Sarah Davies
    • Steve Whaites
    • Paul Loftas
    • Poppie Skold
    • Linda John
    • Paul Starsky
    • Fred Smith
    • Annie Swainson
    • Joanna Crozier
    • Richard Beavis
    • John Walker
    • Dennis Gregory
    • Joanna Brown
    • Rick Manning
    • Louise Harrison
    • Sam Downie
    • Richard Tromans
    • Rebecca Rendell
    • James Saunders
    • Simon Frost
    • Melissa Stanton
    • Diane Lukins
    • Kirsty Alderton
  • Cleifion afiach:[2]
    • Rebecca Tromans
    • Claire Bromage
    • Jo Ruiz
    • Laurence Chanon
    • Richard Heneghan
    • Heidi Scurlock
    • Oliver Hopkins
    • Gerrard Cooke
    • Sophia Day
    • Eddie Hunter
    • Eryl Vaughan
    • Steve Apeit
    • David Hanford
    • Sam Varna
    • Deborah Evans
    • Boby Tee
    • Sally Martin
    • William Adrian
  • Cleifion gwyn:[2]
    • Louisa Davis
    • Jodi Mulcahy
    • Andrew Hopkins
    • Oliver Hopkins
    • Carl Watson
    • Ash Croney
    • Gerard Cooke
    • Sophia Day
  • Cleifion glân:[2]
    • Rachel Williams
    • Matthew Williams
    • Elin Griffiths
    • Hannah Emlyn Jones
    • Abigail Apollonio
    • Gavin Jessop
  • Stỳnt dwbl y Doctor:[2]
    • Glenn Foster
  • Stỳnt dwbl Rose:[2]
    • Kim McGarrity
    • Juliette Chevley
  • Stỳnt dwbl Casp:[2]
    • Dani Biernat

Cyfeiriadau

Unigolion

  • Unwaith cynhalodd Llysgennad Thrace parti aeth Cassandra i.
  • Mae Cassandra yn sôn am ei hun fel 'chav' tra yng nghordd Rose.
  • Mae bwtler gan Ddug Manhattan.
  • Mae'r Doctor yn nodi bod gas ganddo ysbytai, ond mae'n hoff o'i siopau.
  • Mae Rose yn sôn am ei chefnder Mo wrth Ardal y Copaon tra'n ffarwelio Jackie.

Planhigion

  • Mae porfa-afal yn tyfu ar ochr y bryn glaniodd y TARDIS ar.

Clefydau a salwch

  • Mae Dug Manhattan yn dioddef gan Atchweliad Petriffold.
  • Mae'n cymryd blynyddau i adfer o Glefyd Marconi.
  • Mae Palidôm Pancrosis yn lladd dioddefwyr o fewn deg munud.

Cyfeiriau diwylliannol

  • Mae Rose yn cymharu Chip i Gollum.

Bwydydd a Diodydd

Ieithoedd

  • Gall Cassandra siarad bach o Ffrangeg.
  • Yn dilyn awgrym Chip, mae Cassandra yn defnyddio Cockney rhyming slang mewn cais i ddynwared Rose.

Nodiadau

  • Teitlau gweithredol y stori oedd Body Swap a The Sunshine Camp.
  • Mae'r Doctor yn awgrymu yn The Runaway Bride fe arhosodd yn y Powell Estate gyda Rose a Jackie rhwng yr episôd hon a The Christmas Invasion
  • Hon yw stori gyntaf y gyfres modern i'w gosod ar blaned estronaidd. Hyd yn hyn yn y gyfres, roedd pob lleoliad ar-sgrîn naill ai ar y Ddaear, neu ar leorennau neu longau ofod yn cylchdroi'r Ddaear.
  • Hon oedd yr episôd Doctor Who gyntaf i gael Tardisode atodol, sef golygfeydd byrion atodol a gafodd eu rhyddhau ar y wê wythnos cyn darllediad yr episôd. Yn achos New Earth, gweithiodd y Tardisode fel hysbysiad ffug ar gyfer gwasanaethau y Chwiorydd o Lawnder.
  • Yn syth yn dilyn darllediad yr episôd, daeth sylwebaeth sain a gynhwysodd David Tennant, Russell T Davies, a Phil Collinson ar gael ar y wefan swyddogol er mwyn i wylwyr i lawrlwytho a gwrando i ochr yn ochr ag ail-ddarllediad. Digwyddodd yr un peth gyda The Christmas Invasion.
  • Yn ôl y sylwebaeth sain, gwisgodd Billie Piper Wonderbra a minlliw gwahanol yn y golygfeydd gyda Cassandra yn meddu Rose.
  • Mae awgrym o'r geiriau "bitch" ac "arse", er ni ddywedwyd. Yn y ddau achos, mae'r cymeriadau (Cassandra a Rose) yn cael eu hatal rhag gorffen eu llinell, ac mae'r geiriau wedi'u awgrymu gan gair nesaf y sgript. Wrth siarad am Rose, mae Cassandra yn ei galw "that little..." cyn i'r olygfa torri i Rose yn dweud "bit rich". Wedyn, wrth i Rose dweud wrth Cassandra ei bod hi'n "talking out of your...", mae Cassandra yn torri ar ddraws i ddweud "Ask not!"
  • Pan mae Cassandra yn cymryd dros gorff y Doctor, mae'n cyfeirio at rannau o'i goff sydd heb eu defnyddio eto, crybwylliad at natur anrhywiol y Doctor. Mae modd i hon hefyd fod yn gyfeiriad at adfywiad diweddar y Doctor, ac o ganlyniad nid yw ef wedi cael cyfle i ddefnyddio'r rhan fwyaf o'i gorff hyd yn hyn.
  • Dangoswyd yr olygfa a ddangosodd Rose a'r Doctor yn cusanu mewn trelars y gyfres, gan achosi cyffro i gefnogwyr y sioe serch y "cus" rhwng Rose a'r Nawfed Doctor yn The Parting of the Ways. Yn y pendraw, datgelwyd mai Cassandra sydd yn cusanu'r Doctor tra yng nghorff Rose. Er ni chusana Rose a'r Doctor yn yr un fordd, byddai Rose yn cusanu'r Doctor Meta-Crisis yn Journey's End.
  • Dyma ymddangosiad cyntaf jôc am gariad y Degfed Doctor am siopau bach gwelir mewn ysbytai ac amgueddfeydd.
  • Dynoda'r episôd y defnydd cyntaf o "I'm sorry, I'm so sorry".
  • Mae'r seithiad allanol o'r lifft yn disgyn i'r baslawr wedi'i ailgylchu wrth Rose.
  • Wrth i'r wal cudd disgyn, mae'r sain wedi'i hailgylchu wrth symudiad y Daleks.
  • Esboniodd Russell T Davies yn y sylwebaeth sain, bu farw'r Gwyneb Boe a'r unig ffordd i'r Doctor i wella'r cleifion oedd i'w lladd. Newidodd hyn ar ôl iddo ddarllen rhagarweiniad Steven Moffat yn y llyfr The Shooting Scripts, lle tynnodd Moffat ei goes gan ddweud bod Davies "yn creu cymeriadau diddorol cyn eu toddi". O ganlyniad, penderfynodd Davies i gael pawb i oeroesi'n lle.
  • Yn gwreiddiol, byddai Gwyneb Boe wedi rhoi'r neges o "You are not alone" yn yr episôd hon. Ond, arbedodd Russell T Davies y neges ar ôl dysgu comisiynwyd Cyfres 3 yng nghanol Mehefin 2005. O ganlyniad, mae Gwyneb Boe yn datgelu'i gyfrinach yn Gridlock.
  • Hon yw'r unig agoriad i gyfres sydd yn cynnwys y Degfed Doctor, a'r unig un o rai Russell T Davies, i gynnwys golygfa cyn y teitlau agoriadol.
  • Llais Billie Piper ar gyfer Cassanra yw ei hacen naturiol.
  • Nododd Davies am yr episôd, "addewais i episôd i Billie [Piper] lle byddai hi'n doniol. Felly, mae episôd un y cyfres newydd wedi'u seilio ar gomedi i Billie.
  • Mae gwallt Rose i fyny ar ddiwedd yr episôd er mwyn cuddio roedd hi dal i wisgo ei hestyniadau gwallt wrth The Christmas Invasion.
  • Rhowd gwyneb a chorff i mewn i'r episôd yn ôl cynhyrchu gan The Mill.
  • Mae credydau'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr wedi'u newid ers The Christmas Invasion, felly nawr mae'r swydd mewn llythrennau bach ac mae enw'r aelod o'r criw mewn priflythrennau. Roedd hyn o achos awgrym gan olygydd Doctor Who Magazine a oedd yn teimlo wnaeth y trefn blaenorol pwysleisio'r swydd yn lle'r gweithiwr.
  • Mae Cassandra yn seilio Chip ar ddyn wnaeth ei chlodi mewn parti - sef Chip. O ganlyniad, nid yw'n glir lle ddaeth "patrwm" gwreiddiol Chip, paradocs ontolegol.
  • Nid oedd Billie Piper yn ymwybodol bydd dŵr yn ei gwlychu yn y lifft, ond cadwodd Russell T Davies yr olygfa yn yr episôd terfynol gan roedd yn rhy ddoniol i'w dorri.
  • Achos cymerodd cynhyrchiad gormodedd o amser, gollyngwyd sawl golygfa. Yn bennaf roedd rhain yn cynnwys Dug Manhattan a Frau Clovis. Roedd hefyd golygfa rhwng y Doctor a Rose yn gadael yr ysbyty gyda Chip a nhw'n cyrraedd y parti. Byddai'r golyfa wedi cael y Doctor yn ei wneud yn eglir na anghofiodd y marwolaethau achosodd Casandra ar Platfform Un yn ystod The End of the World ac hefyd ychwanegodd y golygfa at gyd-destyn marwolaeth Cassandra.
  • Mewn fersiwn hirach o olygfa lle mae Cassandra mewn corff Rose yn ymuno'r Doctor yn Ward 26, cwrddodd hi Dug Manhattan. Yn unfath â'r Doctor, byddai bwtler y Dug wedi cynnig gwydriad o siampáen i "Rose". Ymatebodd "Rose" gyda "moisturise me".
  • Cafodd golygfa arall ei dorri yn dilyn y snog rhwng y Doctor a Cassandra. Yn yr olygfa, agorodd Gwyneb Boe ei lygaid, ac o ganlyniad aeth Nofyddes Hame i chwilio am y Doctor. Esboniodd hyn pam cerddodd hi i mewn wrth i'r Doctor a Cassandra mynd i mewn i fynedfa cudd Gofal Dwys.
  • Yn gwreiddiol, roedd Chip yn gorrach o'r enw Zaggit, ond wrth i bwysigrwydd y gymeriad tyfu dros y broses sgriptio, fe ddatblygodd i mewn i Chip.
  • Yn y sylwebaeth sain, nododd David Tennant bod y TARDIS wedi symud ers The Christmas Invasion. Yna, mae'n damcan bod sawl antur wedi digwydd i ffwrdd o'r sgrîn, neu efallai roedd y Doctor wedi byw yno am gyfnod fach.

Cyfartaledd gwylio

  • BBC One dros nos: 8.3 miliwn[3]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 8.62 miliwn[4]

Gwallau cynhyrchu

  • Pan mae Rose yn defnyddio'r lifft am y tro cyntaf, mae hi yn mynd i mewn i'r ar y dde, ond wedyn mae hi'n gadael yr un ar y chwith.

Cysylltiadau

  • Mae gan sawl blaned yr enw Daear Newydd:
    • Y blaned meddyliodd Sarah Jane Smith ei bod hi'n cael ei thywys i. (TV: Invasion of the Dinosaurs)
    • Planed ymosododd y Daleks ar. (COMIG: Doctor Who and the Dogs of Doom)
    • Planed gartrefol Grant Markham, cydymaith y Chweched Doctor. (PRÔS: Time of Your Life)
    • Gweriniaeth Daear Newydd, gwladfa ddyfodol y Ddaear. (PRÔS: Synthespians™)
  • Cyfarfodd y Seithfed Doctor gyda hil arall o cathod humanoid, y Pobl Tsita. (TV: Survival) Cwrddodd yr Ail Ddoctor hefyd hil o gathod o'r enw y Cath-bobl. (PRÔS: Invasion of the Cat-People)
  • Mae'r Doctor yn siarad am ei anhoffter o ysbytai, yn ganlyniad o'i brofiad blaenorol. (TV: Doctor Who)
  • Mae'r clefyd Atchweliad Petriffold, y clefyd sydd yn lladd Dug Manhattan, (clefyd sydd yn troi dioddefwyr yn garreg) yn ymddangos yn PRÔS: The Stone Rose. O ganlyniad i'r Angylion Wylo, mae Amy Pond yn meddwl ei bod hi'n dioddef o afiechyd debyg. (TV: The Time of Angels)
  • Mae graffiti Bad Wolf yn y maes parcio wrth i Rose farwelio, er mae'n afliwedig. (TV: The Parting of the Ways)
  • Mae Cassandra yn cyfeirio at ei chyfarfyddiad olaf gyda'r Doctor a Rose, lle meddyliwyd bu farw Cassandra. (TV: The End of the World)
  • Mae'r Doctor a Rose yn cofio eu "dêt cyntaf", gan hefyd cofio bwyta sglodion. (TV: The End of the World)
  • Creda Cassandra mae'n ddauwynebog bod gan yr un Doctor cwrddodd hi ar Blatfform Un "gwyneb newydd", gan gredu ei fod wedi cael triniaeth plastig. Yn hwyrach yn ei deithiau, pan gwrddodd y Degfed Doctor gyda Jack Harkness am y tro cyntaf, mae'r Doctor yn gofyn iddo os mae wedi cael gwaith wedi gwneud ar ei wyneb, cyn i Jack ymateb nid oes modd i'r Doctor dweud dim. (TV: Utopia)
  • Mae'r Doctor yn galw Cassandra ar "Uwchffôn" Rose. Uwchraddiodd y Doctor ei ffôn yn ystod eu taith blaenorol i'r flwyddyn pum miliwn. (TV: The End of the World)
  • Mae blows Rose o'r episôd hon dal i fod yn y TARDIS pryd mae Donna Noble yn ymddangos yn y TARDIS am y tro gyntaf. (TV: The Runaway Bride)
  • Yn nerbynfa priodas Donna Noble, mae'r Doctor yn gwylio dyn a menyw gyda gwallt golau yn dawnsio gyda'i gilydd. Mae hyn yn ei atgoffa o dal Rose wrth iddi cwympo ar Ddaear Newydd ar ôl i Cassandra gadael corff Rose. (TV: The Runaway Bride)
  • Bydd y Doctor yn cwrdd unwaith eto gyda Nofyddes Hame a Gwyneb Boe yn ystod ei ymweliad nesaf i'r dinas, tri deg blwyddyn diweddarach. (TV: Gridlock)
  • Mae modd i'r Doctor sylwi'n hawdd pan nad yw ei gydymaith yn ymddwyn yn arferol. Bydd modd iddo adnabod clôn Martha Jones mewn amser byr (TV: The Poison Sky) ac adnabod Amy Pond fel Ganger yn eu Hunarddegfed ymgorfforiad. (TV: The Almost People)
  • Bydd y Doctor yn ymweld Nofyddes Hame unwaith eto am y tro olaf wrth iddi marw. (WC: The Sectret of Novice Hame)

Rhyddhadau cyfryngau cartref

Rhyddhadau DVD

  • Rhyddhawyd yr episôd gyda The Christmas Invasion ar Doctor Who: Series 2, Volume 1 ar 1 Mai 2006.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD Doctor Who: The Complete Second Series ar 10 Gorffennaf 2006 (DU), ar 6 Rhagfyr 2006 (Awstralia) ac ar 16 Ionawr 2007 (UDA).
  • Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #8 ar 22 Ebrill 2009.

Rhyddhadau Blu-ray

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o set bocs Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU) ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA).
  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Steelbook Cyfres 2 ar 3 Gorffennaf 2017.

Troednodau

  1. Wedi'i camsillafu fel 'Fran' yn y credydau, er mae'r stori yn dynnodi enw clir o Frau.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 2.16 2.17 TCH 51
  3. http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/4914294.stm
  4. Doctor Who Guide
Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
COMMUNITY 6
Note 1
todo 2