Roedd y Rhyfelwyr Iâ a'r Arglwydd Iâ, hefyd yn cael eu hadnabod fel Rhyfelwyr Mawrth (GÊM: Lost in Time) yn hil o ymlusg dynolfath o'r blaned Mawrth. Cafon nhw eu disgrifio fel yr Unarddegfed Doctor fel seiborgiaid oherwydd eu harfwisg biomecanyddol. (TV: Cold War) Cymharwyd y Rhyfelwyr Iâ i Llychlynnwyr. (TV: Empress of Mars)
Enw cyntaf y Rhyfelwyr Iâ oedd yr Esblygiad Sawriaidd a rowd iddynt gan y Gandoriaid, y pobl a grëodd y Rhyfelwyr Iâ. (SAIN: Lords of the Red Planet) Cafon nhw hefyd eu hadnabod fel Mawrthiaid brodorol (TV: Empress of Mars) ac hefyd fel Mawrthiaid yn unig. (TV: Cold War) Ar adegau, derbynion nhw'r enw sarhaus: "Greenies". (PRÔS: Transit) Yn ôl un adroddiad, daeth y llysenw "Rhyfelwr Iâ" wrth eu hangenrheidiaeth esblygol am hinsawdd oeraidd. (PRÔS: The Whoniverse) Honodd grŵp eraill o haneswyr roesant y teitl i'w hun yn ystod eu rhyfel yn erbyn y Llif. (PROS: The Monster Vault) Erbyn y 27ain ganrif, ystyriwyd yr enw i fod yn sarhad. (SAIN: Silver Lining)
Bioleg
Roedd Rhyfelwr Iâ aeddfed yn gwisgo arfwisg llawn yn ymlusg dynolfath enfawr bygylog; gan cyrraeth hyd at saith troedfedd o daldra. Heb eu harfwisg, roedd ganddynt gwynebau cennog, gwastad gyda dannedd miniog a thafodau gwyrdd. (PRÔS: Legacy, The Medusa Effect; TV: The Rings of Akhaten, Cold War) Roedd ganddynt naill ai pump (COMIG: Ascendance) neu dri fysedd, yn gorffen mewn crafangau miniog. (TV: Cold War) Roedd gan rai Rhyfelwyr Iâ llygaid du mawr, (COMIG: Descendance, TV: The Rings of Akhaten) er roedd rhai Skaldak yn goch. (TV: Cold War)
Cofiodd Jamie McCrimmon y Rhyfelwyr Iâ fel "ymlusgiaid enfawr lletchwith". (TV: The Mind Robber) Roedd Rhyfelwr Iâ o fewn eu harfwisg mewn uniad gyda'i gwisg. (TV: Empress of Mars) Roedd ganddynt sgerbydau yn debyg i ddynoliaeth, ond gyda phenglogau mwy fflat a socedi llygaid llydanach. (COMIG: Ascendance) Roedd aelodau benywaidd y rhywogaeth wedi'u hadeiladu'n fwy bychan na'r aelodau gwrywaidd, ac roedd ganddynt brigau cefnol ar eu hasgyrnau cefn ag oedd yn ddeiniadol mewn modd rhywiol yn debyg i fronnau ar fenyw o fod dynol. (PRÔS: GodEngine, Transit)
Roedd gan y rhywogaeth gwelliant am hinsoddau oeraidd ac roedd modd eu lladd trwy gwres eithafol, ond nad oedd tân bychan yn fwy peryglus iddynt ag oedd i fod dynol. (COMIG: Descendance) Yn ôl yr Unarddegfed Doctor, nam yn eu harfwigau i fethu ymdopi a newidiadau syfrdanol mewn tymheredd na chafodd ei cywiro erioed oedd hyn, nid unryw nodwedd biolegol. (TV: Cold War) Oherwydd y gwahaniaethau yn atmosffêr a disgyrchiant, mewn amgylcheddau daearol, roedd gan y Rhyfelwyr Iâ i symud yn araf a gwichio'n barhaol, (TV: The Seeds of Death) serch hynny, roedd modd iddynt symud yn gloi pan roedd angen. (PRÔS: Legacy; TV: Cold War) Siaradon nhw mewn chwythleisiau hir. (TV: The Ice Warriors)
Bu fyw y Rhyfelwyr Iâ am amser hir. Roedd rhai Mawrthiaid dal i fyw yn 1997 yn dilyn byw yr un adeg pan ysgrifennodd Shakespeare ei ddramâu. (PRÔS: The Dying Days) Hyd oes arferol Rhyfelwr Iâ oedd tri cant o flynyddoedd Daearol. Roedd ganddynt strwythur enetig cymhleth a roeddent yn llysysyddion. (PRÔS: GodEngine)
Gan dybio roedd y Rhyfelwyr Iâ wedi'u arferu'n well i nitrogen, lwyddodd Paul Webster syfrdanu Is-Gadlywydd Sstast gan ddefnyddio silindr ocsigen. Yn ôl y Pumed Doctor, roedd gan y Rhyfelwyr Iâ gwaed oer. (SAIN: Red Dawn)
Hanes
I'w hychwanegu.
|