Sbaen oedd gwlad yn ne-orllewin Ewrop. Ffiniwyd i'r gorllewin gan Bortiwgal a'r Cefnfor Iwerydd, i'r gogledd gan Ffrainc trwy'r Pyrenees, ac i'r de gan Gibraltar a'r Môr Canoldir.
Hanes
15fed ganrif
Erbyn y 15fed ganrif hwyr, roedd yn erbyn arferion Sbaenaidd i gymryd rhan mewn Masnach caethweision. (SAIN: Trouble in Paradise)
Yn 1492, gyrrwyd yr Arabiaid o Sbaen mewn crwsâd gan y Cristnogion. Grenada oedd y dref olaf i gwympo mewn brwydr. (SAIN: The Ghosts of N-Space)
16eg ganrif
Yn y 1550au, brenin Sbaen oedd Philip II, a roedd yn briod i'r Frenhines Mary I o Lloegr. (SAIN: The Marian Conspiracy
Yn ystod diwedd yr 16eg ganrif, ryfelodd Sbaen gyda Lloegr. (SAIN: The Flames of Cadiz, Voyage to the New World)
Yn 1587, lawnsiodd Syr Francis Drake ymosodiad ar Armada Sbaen ym mhorthladd Cadiz. Achosodd yr ymosodiad digon o ddinistriad i'r llynges i'w hoedi nes 1588. (SAIN: The Flames of Cadiz)
17fed ganrif
Yn 1603, yn fuan cyn ei marwolaeth, dywedodd y Frenhines Elisabeth I wrth y Seithfed Doctor roedd trechiad Armada Sbaen wedi "achub [ei] theyrnas". (PROS: Birthright)
Yn 1658, rhyfelodd Sbaen gyda Lloegr. (SAIN: The Waters of Amsterdam)
20fed ganrif
Brwydrwyd y Rhyfel Cartref Sbaeneg yn yr 1930au. Gwelodd dwy blaid fawr a'u cefnogwyr brwydro am rheolaeth dros Sbaen. Yn ystod yr amser hon, chwaraeodd nifer fawr o garfannau chwarae rôl dylanwadol, gyda'r anarchwyr, comiwnyddion a'r ffasgwyr i gyd yn cymryd rhan yn y rhyfel.
Ymwelodd yr Wythfed Doctor, Anji Kapoor a Fitz Kreiner â'r wlad yn 1937. Arhoson nhw ym Marcelona a oedd wedi'i rheoli gan yr anarchwyr tra astudion nhw anomaleddau hanesyddol. (PRÔS: History 101)
Oherwydd arhosodd Sbaen yn niwtral yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ni roedd yn brif lleoliad am brwydrwyr y résistance a phobl arall oedd yn ceisio ffoi Ffrainc a feddiannwyd gan Natsïaid. (SAIN: Resistance)
Yn 1962, aeth Barbara Wright ar ei gwyliau i Doledo. (SAIN: The Flames of Cadiz)
Yn 1966, y wlad oedd un o'r cyrchfannau posib ar gyfer y grŵp dihirol, Chameleon Tours. (TV: The Faceless Ones)
Fel plentyn, teithiodd Ace i Sbaen ar ei gwyliau'n aml. (SAIN: Fiesta of the Damned)
Yn 1985, glaniodd grŵp Sontaran-Androgum yn Seville, gan gymryd dros fila lleol. Aeth un o'r Androgums, gyda'r Ail Ddoctor (a oedd wedi'i heintio gan faterial genetig a drodd e i mewn i Androgum dros dro), i mewn i'r dref er mwyn treialu un o'r bwytai lleol. (TV: The Two Doctors)
Collwyd H-bom oddi ar arfordir Sbaen, gyda'r ymbelydredd yn achosi i greuaduriaid y môr dechrau mwtadu i faint anferth. (COMIG: The Sea Monsters)
21ain ganrif
Roedd Elton Pope yn hoff o Sbaen, yn ôl ei ddyddiadur fideo. (TV: Love & Monsters)
Yn ystod "goresgyniad y Cybermen", roedd Donna Noble yn deifio sgwba, ac o ganlyniad, ni welodd hi'r Cybermen, er fel nododd y Degfed Doctor, "roedd Cybermen hefyd yn Sbaen". (TV: The Runaway Bride)
Am 8:40yb GMT ar Ddydd Mercher ym Medi 2009, Sbaen oedd ymusg y niferoedd o leoliadau ar ddraws y Ddaear a brofiadodd damweiniau ffordd oherwydd cymelliodd y 456 pob plentyn dynol i stopio a chyhoeddi eu neges: "rydyn ni'n dod." (TV: Children of Earth: Day One)
Yn fuan ar ôl Dydd y Gwyrth yn 2011 bron bu Sbaen i mewn i fethdaliant. (TV: End of the Road)
Yn 2014, ymwelodd Liz Shaw â Sbaen ar achos P.R.o.B.e. i ddelio ag ysbryd canrifoedd oed. Wedyn, pan gadaelodd Patsy Haggard ei swydd yn y Weinyddiaeth Amddiffyn symudodd hi i Sbaen, a gwahoddodd hi Liz i fynd gyda hi. (FIDEO: When to Die)
Erbyn 2059, ymgymrodd Sbaen mewn teithio i'r gofod, gan arwain y brosiect Spacelink. Pan gyrhaeddodd y Degfed Doctor Bowie Base One, damcaniaethodd y criw taw aelod o genhadaeth Sbaeneg i Fawrth oedd y Doctor. (TV: The Waters of Mars)
22ain ganrif
Erbyn 2108, roedd Malaga yn dalaith annibynnol. (SAIN: The Two Irises)
40fed ganrif
Erbyn y 40fed ganrif, roedd creuaduriaid y môr a gafodd eu mwtadu gan yr H-bom wedi tyfu i feintiau anferthol, gan tyfu breichiau a choesau, cyn ymosod ar ddinas. Gyrrwyd nôl i'r môr a'u dinistriwyd pan daniwyd y bom. (COMIG: The Sea Monsters)
Cyfeiriau
Roedd gan Clara Oswald canllaw teithio am Sbaen yn ei chasgliad. (TV: The Bells of Saint John)
Yn y cefn
Yn 2020, mae Doctor Who wedi ffilmio wyth stori yn Sbaen. Y cyntaf oedd Planet of Fire, ffilmiwyd yn yr Ynysoedd Dedwydd, ynysfor Sbaeneg yn y Cefnfor Iwerydd. Dilynwyd gan The Two Doctors, ffilmiwyd yn Seville. Yn y gyfres newydd, defnyddiwyd mynyddoedd Sierra Nevada i bortreadu arwyneb Lloches y Daleks yn Asylum of the Daleks, a defnyddiwyd setiau Spaghetti Western yn Almeria i bortreadu Mercy, Nevada yn A Town Called Mercy. Yng nghyfres 8, ffilmiodd tîm BBC Cymru ar Lanzarote, un o'r Ynysoedd Dedwydd, er mwyn darlunio arwyneb y Lleuad yn Kill the Moon. Ffilmiwyd yr olygfeydd New Mexico yn episôd cyfres 9 The Zygon Invasion yn Fuerteventura, Ynys Dedwydd arall. Filmiwyd golygfeydd y blaned wladfa yn episôd cyfres 10 Smile yn Ninas y Celfyddydau a Gwyddoniaethau (Ciutat de les Arts i les Ciències) yn Valencia. Yng nghyfres 11, ffilmiwyd yr olygfeydd India a Phacistan yn nhalaith Grenada am Demons of the Punjab.