Sleep No More oedd nawfed episôd Cyfres 9 Doctor Who.

Roedd yr episôd yn wahanol i steil ffilmio traddodiadol y gyfres gan na chynhwysodd dilyniant teitl cerddoriadol ac arddangosodd digwyddiadau'r stori trwy steil cyfarwyddo o ffilm canfyddedig. Roedd golygfeydd y stori yn argrymu bod rhywun yn eu gwylio trwy recordiau fideo yn lle yn y drydydd person. Achosodd hyn hefyd toriad i'r pedwerydd wal, heb dorri'r pedwerydd wal; pob tro mae cymeriad yn edrych at y gynulleidfa, maent, mewn gwirionedd, yn edrych ar un o'r pobl sydd yn defnyddio Morpheus.

Hefyd, hon oedd episôd cyntaf Doctor Who a ddarparodd ei teitl yn ystod y credydau cau yn lle'r teitlau agoriadol. Yr unig amser arall na chychwynodd stori deledu teitl oedd yn yr Episôd Plant Mewn Angen 2005, ni chynhwysodd teitl o gwbl.

Hon yw un tro lle nid yw'r Doctor yn trechu gelyn y stori; rhywbeth sydd yn cyfeirio at episodau'r gyfres clasurol lle oedd buddigoliaeth i'r Doctor a'u cymdeithion aml gwaith yn golygu yr abl i ddianc yn y TARDIS.

Crynodeb

Y dydd cynt, wnaeth yr orsaf ofod Le Verrier ymdawelu. Nid yw neb yn gwybod yn wir beth ddigwyddodd. Er, mae ffilm wrth gais achub wedi'u canfod, gyda'r orsaf yn wâg ar wahan i ddau deithiwr busneslyd: y Doctor a Clara.

Plot

I'w hychwanegu.

Cast

Cast di-glod

Cyfeiriadau

  • Mae'r Doctor yn dadlau gyda Clara dros enw'r Sandmen, gan ddweud taw ef sydd yn enwi popeth. Yna, mae'r Doctor yn cwyno taw "y Silwriaid eto yw hyn".
  • Enwir y godau diffyg cwsg ar ôl Morpheus, duw groegaidd breuddwydiau.
  • Mae modd i'r Doctor canfod y ganrif a pha dydd yr wythnos yw hi trwy gwlychu ei fys a chyffrwdd ei glust.
  • Crybwylla'r Doctor y "Trychineb Anfeth".
  • Grunts yw pobl a gafodd eu tyfu'n artiffisial.
  • Mae Rassmussen yn dweud bydd e'n darlledu ei fideo i Gysawd yr Haul cyfan.

Diwylliant o'r byd go iawn

  • Mae'r godau ddiffyg cwsg Morpheus yn canu hologram o'r gân Mr. Sandman, a defnyddiwyd y gân hefyd fel allwedd diogelwch.
  • Mae'r Doctor yn dyfynnu Macbeth, ac yn crybwyll Shakespeare.
  • Mae'r cyflwynes yn dweud na fydd "Rip Van Winkles" rhagor, gan sôn am y broblem o ormodedd o gwsg, a mi fydd cenhedlaeth newydd o "Wide-Awakes"

Lleoliadau

  • Mae'r Le Verrier yn cylchu Neifion.
  • Mae'r criw achub i gyd o Triton.

Nodiadau

  • Hon yw'r episôd gyntaf yn hanes Doctor Who heb deitlau agoriadol. Yn lle, gosodwyd teitl yr episôd a chredyd yr awdur ar ddechrau'r credydau cloi'r episôd. Defnyddiodd y stori Big Finish, LIVE 34, fformat tebyg yn flaenorol o ddiffyg teitlau na chredydau. Er, ar ôl i fideo Rassmussen gorffen, mae enw'r gyfres yn ymddangos o fewn côd. Mae enwau pob un o'r cymeriadau yn ymddangos, ac mae enw Clara Oswald yn croestorri gyda'r geiriau "Doctor" ac "Who" (sydd wedi'u uwcholeuo).
  • Mae'r stori yn nodedig am ddefnyddio fformat ffilm canfyddedig, ac am ddefnyddio elfenau o'r person cyntaf megis ymson Proffesor Rassmussen.
  • Mae'r stori yn nodedig hefyd am fod y stori gyntaf i gastio actores trawsrywiol, Bethany Black.
  • Mae'r Doctor yn dweud ei fod yn cysgu "pan dwyt ti ddim yn edrych". Ar yr un pryd, fe edrychodd ar Clara wrth i ei pherspectif cael ei harddangos i'r cynulleidfa, o ganlyniad yn torri'r pedwerydd wal.
  • Teitl gweithio'r episôd hon oedd The Arms of Morpheus.
  • Roedd rhestriad Radio Times wedi'i cyfeilio gan llun fach o ben Nagata mewn helmed, gyda isdeitl o "Doctor Who / 8.15pm / Found footage shows what fate befell the rescue mission led by Nagata (Elaine Tan)".
  • Ysbrydolodd ymweliad Mark Gatiss â Japan ac India cyn ysgrifennu'r episôd hon i'w chynnwys yn yr episôd.
  • Hon yw'r stori deledu cyntaf ysgrifennodd Mark Gatiss i'w gosod yn y dyfodol yn lle'r gorffennol neu'r presennol.
  • Mae'r Doctor yn crybwyll y "Trychineb Anferth". Yn dilyn darllediad yr episôd, cardanhaodd Mark Gatiss taw cyfeiriad at Frontios oedd hyn.
  • Yn gwreiddiol, roedd Mark Gatiss eisiau ysgrifennu dilyniant yng Nghyfres 10, ond achos ei gyfres olaf oedd hwnnw, fe ysgrifennodd Empress of Mars yn lle, gan ysgrifennu'r stori roedd ef o hyd eisiau ysgrifennu.
  • Mae'r llong ofod yn y stori hon wedi'i henwi ar ôl mathemategwr Ffrangeg Urbain Le Verrier.
  • Hon yw'r unig episôd yng Nghyfres 9 na chaiff ei ystyried i fod yn rhan o stori dwy-ran na thair-rhan.
  • Recordiwyd yr olgyfa gyda thân ar y llong ofod trwy reoli'r tân y tu allan i'r set a gwaredu rhan o'r set er mwyn gadael i'r gwres codi. Datgelwyd hyn ar 27 Chwefror 2016 mewn episôd estynedig o The Doctor's Notes ar BBC America.
  • Gan ddiystyried cliffhangeri a storïau sydd yn rhan o arciau ehangach, hon yw'r stori gyntaf ers cyfnod y Doctor Cyntaf i gael y dihiryn i ennill.
  • Yn ôl cyfweliad ar y sioe deledu Americanaidd Conan ym Mis Medi 2015, ac wedyn yn ystod panel Q&A ym Mehefin 2016 gyda Peter Capaldi yn AewsomeCon, Washington, DC, mae Jenna Coleman eisioes yn berchen ar allwedd y TARDIS Clara.

Cyfartaledd gwylio

  • BBC One dros nos: 4.0 miliwn
  • Cyfarteledd DU terfynol: 5.61 miliwn

Lleoliadau ffilmio

  • G24, South Lake Drive, Casnewydd
  • Fillcare, Lanelay Road, Pontyclun
  • Wild Water Cold Storage, Cold Stores Road, Queen Alexandra Docks, Caerdydd

Gwallau cynhyrchu

I'w hychwanegu.

Cysylltiadau

  • Mae'r Doctor yn awgrymu bod gan y llong ofod tarianau gwrth-ddisgyrchiant lled bwerus. Mae'r Doctor wedi gweld tarianu tebyg o'r blaen (TV: The Horror of Fang Rock)
  • Mae'r Doctor yn credu bod y llong ofod wedi'i osod ar fodd nos. Defnyddiodd Y Drum gosodiadau dydd a nos. (TV: Under the Lake / Before the Flood
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn cymryd "beth ddigwyddodd" i feddwl wrth ddechreuad popeth. (TV: The Girl Who Died)
  • Mae Nagata yn rhagdybio caeth yr orsaf ofod ei ymosod gan fôr-ladron y gofod. (TV: The Space Pirates)
  • Mae'r Doctor yn dweud "When I say run, run", ymadrodd defnyddiodd yr Ail Ddoctor yn aml. (TV: The Power of the Daleks ayyb)
  • Dechreuodd y Pumed Doctor sôn am y Trychineb Anferth, ond ni lwyddodd gorffen ei frawddeg. (TV: Frontios)
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at ei ffafriaeth o enwi bwystfilod. (TV: Flatline)
  • Nid y tro cyntaf yw hyn bod yn o un o anturiaethau'r Doctor yn cael recordiad, a fyddai'n lladd y cynulleidfa. (SAIN: Dead Air)
  • Mae Clara'n dweud wrth y Doctor does dim rhaid iddo dal ei llaw. (TV: Hide)

Rhyddhadau cyfryngau cartref

Rhyddhadau DVD

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 2 ar 4 Ionawr 2016.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.

Troednodau

Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
Community 6
ELIZA 1
games 2
games 2
iOS 3
languages 1
mac 3
Note 2
OOP 1
os 43
web 2