The Dalek Invasion of Earth oedd ail stori Hen Gyfres 2 Doctor Who. Mae'r stori yn nodedig am ddarlunio gadawiad cyntaf cydymaith. Ymddeolodd Carole Ann Ford ei chymeriad, Susan Foreman, gyda'r cymeriad yn gadael i fod gyda dyn. O ganlynida i hyn, gorffenodd y stori gydag araith ewyllusiol rhwng y Doctor a'i wyres, Susan. Mae'n debyg mai hon yw un o areithion enwocaf William Hartnell, wedi'i ddefnyddio mewn sawl rhaglen arall am Doctor Who, a chafodd ei ddefnyddio fel rhagarweiniad i The Five Doctors.
Darluniodd y stori dychweliad y Daleks oherwydd eu poblogrwydd yn eu stori gyntaf yn Hen Gyfres 1. Unwaith eto, Terry Nation ysgrifennodd y sgript, gan ddod â'r Daleks i'r Ddaear. Mae nifer o'r lluniau hysbysu wedi oroesi o'r stori ac maent yn darlunio'r Daleks o flaen nifer o atyniadau enwog Llundain fel Big Ben, Palas San Steffan, a Gorsaf Bŵer Battersea.
Hon oedd y stori gyntaf i gael ei chynhyrchu yn y stiwdio newydd, Riverside Studios, gyda'r criw wedi symud o Lime Grove Studios. Gwelodd y stori defnydd mwyngloddfa ar gyfer ffilmio lleoliad am y tro cyntaf.
Yn ystod recordio, cwmpodd William Hartnell ar sylfaen metal camera, gan lanio'n chwithig ar ei gefn. Er cafodd ei barlysu, gwellodd ddigon i gadw ymlaen recordio, ond dewiswyd i adael Hartnell i gael yr wythnos ganlynol bant i wella.
Dechreuodd y Daleks defnyddio "ecterminate" i siarad am farwoleuthau'n fwy gyson yn y stori hon, gan gryfu eu paralelau gyda Natsïaeth a sefydlodd eu stori gyntaf. Maent hyd yn oed yn sôn am lladd fel y "datrysiad terfynol", ymadrodd sydd wedi'i gysyltu'n gryf gyda Natsïaeth. (Yn flaenorol, defnyddiodd y Daleks "exterminated", ond yn episôd olaf y stori, "Flashpoint", cafodd yr ymadrodd ei ddweud am y tro cyntaf.)
Yn union fel The Daleks, tröwyd y stori hon yn ffilm gyda Peter Cushing yn rôl "Dr. Who", sef Daleks' Invasion Earth 2150 A.D. Achos na pherfformiodd y stori cystal â'r un gyntaf, hon oedd y stori Doctor Who olaf a gafodd ei haddasu am Sinema.
Crynodeb
Mae'r TARDIS yn dychwelyd i Lundain, ond yn yr 22ain ganrif. Gyda chyrff yn yr afon, a'r porthladdoedd yn ddistaw, mae'r ddinas yn lle hollol wahanol. Mae'r Daleks wedi ymosod, ac bydd rhaid i'r Doctor eu trechu unwaith eto.
Plot
World's End (1)
I'w hychwanegu.
The Daleks (2)
I'w hychwanegu.
Day of Reckoning (3)
I'w hychwanegu.
The End of Tomorrow (4)
I'w hychwanegu.
The Waking Ally (5)
I'w hychwanegu.
Flashpoint (6)
I'w hychwanegu.
Cast
- Dr. Who - William Hartnell
- Ian Chesterton - William Russell
- Barbara Wright - Jacqueline Hill
- Susan Foreman - Carole Ann Ford
- Carl Tyler - Bernard Kay
- David Campbell - Peter Fraser
- Dortmun - Alan Judd
- Robomen - Martyn Huntley, Peter Badger
- Gweithredwyr y Daleks - Robert Jewell, Gerald Taylor, Nick Evans, Kevin Manser, Peter Murphy
- Lleisiau'r Dalekau - Peter Hawkins, David Graham
- Jenny - Ann Davies
- Craddock - Michael Goldie
- Thomson - Michael Davis
- Baker - Richard McNeff
- Larry Madison - Graham Rigby
- Wells - Nicholas Smith
- Gweithredydd Slither - Nicholas Evans
- Ashton - Patrick O'Connell
- Merched yn y Goedwig - Jean Conroy, Meriel Hobson
Cast di-glod
|
|
Criw
- Cynhyrchydd Cyswllt - Marvin Pinfield
- Gwisgoedd - Daphne Dare
- Dylunydd - Spencer Chapman
- Cyfarwyddwr - Richard Martin
- Trefnwr brwydron - Peter Diamond
- Dyn y camera - Peter Hamilton
- Golygydd ffilm - John Griffiths
- Sain achlysurol - Francis Chargrin
- Goleuo - Howard King
- Colur - Sonia Markham
- Cynhyrchydd - Verity Lambert
- Sain - Jack Brummitt
- Golygydd Sgript - David Whitaker
- Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
- Awdur - Terry Nation
Cyfeiriadau
- Yr Uwch Rheolydd yw arweinydd y Daleks, wedi'i ddilyn gan Daleks Duon.
- Bu fyw Barbara unwaith yn Swydd Bedford, a mae modd iddi gyrru lori.
- Gall y Daleks yn symud tanddŵr.
- Mae Susan yn coginio cwningen.
- Mae David yn dal pysgodyn.
- Mae Susan yn treulio un o'i hesgidiau'n dyllau.
- Mae Saucer Alpha Major yn saucer Dalek.
- Mae Craddock yn gofyn i'r Doctor ac Ian os oedden nhw ar orsaf leuad yn ystod yr ymosodiad.
Dylanwadau
- The War of the Worlds
- Things to Come
Nodiadau
- Roedd teitlau gweithredol y stori yn cynnnwys Daleks Threaten Earth, The Invaders, The Daleks (II), The Return of the Daleks, a The Daleks in Europe. Teitlau gweithredol y bedwerydd a'r chweched episôd oedd "The Abyss" ac "Earth Rebels" yn eu tro.
- Dyma'r stori gyntaf i gynnwys aelod o'r cast gwreiddiol y gadael, gydag ymadawiad Carole Ann Ford fel Susan. Bydd Ford yn dychwelyd fel Susan yn The Five Doctors ac yn hwyrach fel Dimensions in Time.
- Ysgrifenodd David Whitaker golygfa olaf Susan, nid Terry Nation.
- Defnyddiwyd y pedair Dalek gwreiddiol wrth The Daleks yn y stori hon. Roedd dau o rein wedi cael eu benthg nôl wrth gartref amddifaid yn Stepney. Cafodd dau Dalek arall eu hadeiladu hefyd.
- Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiad 16mm.
- O'r tair stori Dalek cyntaf, meddyliodd Richard Martin mai hon oedd y gwellaf.
- Cyfenw gwreiddiol David Campbell oedd Sonheim, wedyn Archer. Enw gwreiddiol Baker oedd Roger Krish, tra enw cyntaf Larry Madison oedd Robbie.
- Cyflwynodd y stori hon system heirarchaeth y Daleks, ac amrywiau Dalek gydag ymddangosiad yr Uwch Rheolydd a Cadlywydd Sawser.
- Gan symudodd y gosodiad ymlaen wrth ganrif, deleuwyd cyfeiriau gwreiddiol at ymosodiad Dalek yn yr 1980au.
- Yn y sgript gwreiddiol, yn lle cael eu hymosod ar gan crocodeiliaid, profodd David a Susan ymosodiad gan bobl a gafodd eu mwtadu.
- Yn gwreiddiol, yn uchafbwynt y stori, lladdodd y Daleks eu caethweision trwy eu trapio yn y mwyngloddfeydd, cyn eu toddi gyda lafa.
- Yn gwreiddiol, bu fyw tair menyw yn y goedwid yn lle'r mam a merch.
- Yng nghysyniad gwreiddiol y Robomen, y bwriad oedd i gael disg fach ar eu pennau'n unig gyda gwifrau trwy eu gwallt.
- Yn 1978, oedd gan y BBC "The Waking Ally" ar 35mm.
- Adenillodd y BBC argraffiadau negyddol am bob episôd yn 1978.
- Mae gan y BBC argraffiadau Arabig o "World's End", "The Daleks", "The End of Tomorrow", "Flashpoint".
- Yn y stori sain The Mutant Phase, mae'r Pumed Doctor a Nyssa yn dod ar ddraws linell amser eiledol tebyg i'r stori hon.
- Mae'r nofel Venusian Lullaby yn dilyn yn union wrth ddigwyddiadau'r stori.
- Gan roedd Robert Aldous yn ychwanegiad hwyr i'r gast, na dderbyniodd credyd am "World's End", er, fe dderbyniodd credyd fel "gwrthryfelwr" yn Radio Times.
- Derbyniodd Robert Jewell credyd o "Gweithredwr y Daleks" am "World's End", ac wedyn gyda gweddill gweithredwyr y Daleks am "The Daleks" nes "Flashpoint".
- Chwaraeodd Peter Badger (Roboman) hefyd Phil Madison ym mhumed episôd y stori, "The Waking Ally", ond fe dderbyniodd credyd yn unig gyda Martyn Huntley fel "Robomen" am y stori gyfan.
- Cafodd y Roboman hunanladdol ar ddechrau "World's End" ei chwarae gan ddyn stỳnt Peter Diamond, a na chafodd credyd ar sgrîn nac yn Radio Times.
- Ffilmiwyd y stori hon a Planet of Giants ym mloc olaf y gyfres gyntaf.
- Nid yw William Hartnell yn ymddangos yn "The End of Tomorrow" oherwydd anaf i'w gefn, ond mae ymddangosdiad gan ei ddwbl, Edmund Warwick.
- Dyma stori olaf David Whitaker fel y golygydd sgript.
- Wedi ysgrifennu stori arall am India ar gyfer y rhaglen, roedd y wlad yn barhau i fod ar ei feddwl wrth ysgrifennu'r stori hon. Cafodd hyn ei sôn am gyda chymeriad yn "Flashpoint", sef Saida, merch 14 oed o India yn cuddio ar y TARDIS. Yn y pendraw, daeth Saida yn Jenny a chafodd pwysigrwydd y rôl ei leihau.
- Yn gwreiddiol, Jenny oedd fod cymryd lle Susan, ond peidiodd hyn yn dilyn ansicrwydd am ddyfodol y sioe.
- Defnyddiwyd araith y Doctor ar ddiwedd "Flashpoint" i Susan ("One day, I shall come back - yes, I shall come back. Until then, there must be no regrets, no tears, no anxieties. Just go forward in all your beliefs, and prove to me that I am not mistaken in mine.") fel rhagarweiniad i The Five Doctors
- Mae'r araith hefyd yn ymddangos yn An Adventure in Time and Space ar ddau achos. Mae'r cyntaf yn adgrëad gan David Bradley yn chwarae William Hartnell fel y Doctor. (mae'r olygfa hon ar gael fel ychwanegiad ar y rhyddhad DVD) Yr ail tro yw ar ddiwedd y rhaglen wrth i gamera troi at fonitor, mae modd gweld yr olygfa gwreiddiol.
- Mae enw'r episôd gyntaf yn chwarae ar y ffaith glaniodd y TARDIS yn World's End, Chelsea.
- Cafodd araith y Doctor ei gopïo gair am air yn The Doomsday Armageddon Apocalypse, 13fed ac episod olaf y sioe Americanaidd ffuglen wyddonol The Middleman yn 2008. Achos cafodd y sioe ei ganslo gan ABC Family, ni ffilmiwyd yr episôd, yn lle cafodd yr episôd ei berfformio'n fyw yn San Diego Comic-Con yn 2009.
- Mae'r Wythfed Doctor yn ymweld â Susan yn An Earthly Child, 20 mlynedd yn dilyn y stori hon. O fewn yr amser hon, mae Susan wedi priodi David Campbell, cael mab, gorwyr y Doctor, Alex. Yn Legacy of the Daleks, dywedodd Susan y tro olaf gwelodd hi'r Doctor oedd yn ystod ei bumed ymgorfforiad ym Meddfan Rassilon. (TV: The Five Doctors)
- Mae llinellau olaf y Daleks yn y stori wedi'u gyweirio'n wahanol nac y rhai blaenorol; bydd yr effaith newydd hon yn cael ei defnyddio nes ddiwedd y gyfres.
- Mae sawl atyniad Llundain wedi'i dinistrio gan "graffiti" Dalek. Cafodd yr effaith hon ei greu gan ddefnyddio tâp trydanol fel byddai modd eu gwirio ar ôl gorffen ffilmio.
- Trwy gydol y stori mae sawl arwydd wedi'u marcio gyda "VETOED". Er mae awgrym mai rhan o gôd y gwrthryfelwyr oedd hyn, mewn gwirionedd mai sbri wrth yr adran ddylunio oedd hyn. Os oedd setiau'n rhy uchelgeisiol, cafon nhw eu stampio gyda "VETOED" cyn cael eu rhoi nôl i'r dylunwyr.
- Criodd Carole Ann Ford yn go iawn yn ystod ymadawiad Susan.
- Yn gwreiddiol roedd rôl Wells yn llai - cafodd ei rhyddhau wrth long y Daleks gan Ian, cyn cael ei adael i gadw golwg ar y ffoaduriaid eraill. Yn ôl Nicholas Smith ar raglen ddogfenol ar y DVD, fe lwyddodd i berswadio'r cyfarwyddwr i adael iddo arwain atchwyliad y glowyr yn episodau pump a chwech.
- Meddyliodd Ann Davies bod William Hartnell yn fygylog, ac felly cadwodd hi yn bell wrtho.
- Bu farw Jean Conroy mewn damwain ar 14 Tachwedd 1964. Chwaraeodd hi un o'r menywod yn y goedwig. Cafodd yr episôd ei darlledu'n ôl-farwolaeth. Hi yw'r person cyntaf i gael gysylltiad i Doctor Who i farw.
- Disgwyliodd y criw i gael trafferth gyda'r episôd olaf. Dioddefodd y recordiad wrth trafferth camerau a sain. O ganlyniad, byrrhaodd araith William Hartnell. Cafodd dau linell eu torri wrth araith y Doctor i Susan ar ddiwedd yr episôd. Roedd y linell gyntaf yn gynharach yn yr araith: "Work hard both of you. Be gentle with her David and show her that life on Earth with love and understanding can be a great adventure". Roedd yr ail llinell fod i gloi'r araith: "And remember love is the most precious jewel of all".
- Dewiswyd Pont Hammersmith fel lleoliad achos ei agosrwydd i ysbyty os byddai rhywyn yn cwympo i mewn i'r afon; arhosodd tacsi yn barod am y rheswm hon.
- Nid oedd modd i weithredwr Dalek, Robert Jewell, cael digon o fuanedd i symud y Dalek allan o'r afon; roedd rhaid ychwanegu gwifren i'w gynorthwyo.
- Rhwng ymaferion, recordiodd Carole Ann Ford y cast ar ei camera ffilm 8mm personol.
- Mae The Daleks' Master Plan, GodEngine, Lucifer Rising a The Mutant Phase yn rhoi dyddiad o 2157 i ymosodiad y Daleks. Mae'r stori deledu wedi'i dyddio i 10 mlynedd yn diweddarach. Mae'r Doctor yn credu digwyddodd The Daleks tua miliwn blynedd yn y dyfodol, a bod Invasion yng nghanol hanes y Daleks. Serch hynny, mae'r nofeleiddiad yn newid hyn trwy cael y Doctor i feddwl na cafodd y Dalek eu trechu'n gyfan, gan fod gan y Daleks "ewyllys oroesi anfeidrol", neu roedd gwladfeydd eraill ar Skaro. Mae'n dynodi hefyd bod y Daleks "wedi esbygu", yn awgrymu bod Daleks yn rhagflaenu Invasion.
Cyfartaleddau gwylio
- "World's End" - 11.4 miliwn
- "The Daleks" - 12.4 miliwn
- "Day of Reckoning" - 11.9 miliwn
- "The End of Tomorrow" - 11.9 miliwn
- "The Waking Ally" - 11.4 miliwn
- "Flashpoint" - 12.4 miliwn
Cysylltiadau
- Mae criw y TARDIS yn cyfeirio at eu cyfarfod blaenorol gyda'r Daleks, gan gynnwys bod y Daleks wedi ymaddasu i osgoi eu dibyniaeth ar drydan statig am bŵer. (TV: The Daleks)
- Datblygodd y Cybermen hefyd y dechnoleg i lywio planedi gyfan, gan ei defnyddio ar blaned eu hun, Mondas. (TV: The Tenth Planet)
- Bydd Susan a'r Doctor yn cyfarfod unwaith eto am amser fyr, yn y Gylchfa Farwolaeth ar Galiffrei. (TV: The Five Doctors)
- Bydd y Seithfed Doctor yn dychwelyd i'r lleoliad gollyngodd Suan ei hallwedd er mwyn dod o hyd iddo, (PRÔS: GodEngine) ac hefyd i rhoi nôl esgid Susan roedd e wedi llwyddo i drwsio. (PRÔS: Time & a Place)
- Mae'r Doctor yn cyfwynebu Dalek sydd eisiau dechrau'r rhyfel yn gynt. (PRÔS: Return of the Living Dad)
- Bydd y Trydydd Doctor yn dod ar ddraws linell amser arall, lle llwyddodd ymosodiad y Daleks ar y Ddaear. (TV: Day of the Daleks)
- Tra'n ymchwilio i ddiflaniad y Ddaear gyda Donna Noble yn y Cyhoeddiad Cysgod, cofiodd y Degfed Doctor "ceisiodd rhywun symud y Ddaear o'r blaen". (TV: The Stolen Earth)
- Ymmwelodd yr Unarddegfed Doctor a River Song gyda digwyddiadau'r rhyfel wrth geisio diffodd coridorau amser gwyllt. (GÊM: The Eternity Clock)
- Yn 1903, yn dilyn cael swmp o wybodaeth o'r dyfodol, rhagwelodd Grigori Rasputin bydd y Doctor, Ian, Barbara, a Susan yn brwydro "bodau rhyfedd" a fyddai'n ymosod ar y Ddaear. (SAIN: The Wanderer)
- Mae Tyler yn galw'r Doctor yn "Doc", cyn i'r Doctor dynodi fod well ganddo "Doctor". Yn hwyrach, bydd y Doctor yn coethi Steven Taylor (TV: The Time Meddler) a Tegan Jovanka (TV: The Five Doctors) am ei alw'n "Doc".
- Mae Vicki yn datgleu wnaeth y Daleks dinistrio Dinas Efrog Newydd yn ystod eu hymosodiad. (TV: The Chase)
Addasiad ffilm
Cafodd y stori ei haddasi i mewn i'r ffilm 1966, Daleks' Invasion Earth 2150 A.D., gyda Peter Cushing. Dyma'r ail, ac hyd heddiw, a'r stori olaf wedi'i seilio ar ddigwyddiadau'r gyfres deledu i gael addasiad. Yn yr addasiad, cafodd sawl elfen o'r stori ei newid - yn bennaf mae ymadawiad Susan wedi'i dileu'n llwyr.
Rhyddhadau cyfryngau cartref
Rhyddhadau DVD
Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Dalek Invasion of Earth mewn set dau ddisg ar 9 Mehefin 2003 (DU), ar 7 Hydref 2003 (UDA), ac ar 13 Awst 2004 (Awstralia).
Cynnwys:
- Future Memories - edrychiad ar y stori gan y cast a'r criw.
- Future Visions - edrychiad ar ddyluniau Spencer Chapman.
- Talking Daleks - edrychiad ar esblygiad lleisiau'r Daleks.
- Now and Then - ymweld â lleoliadau'r stori.
- Script to Screen - sut cafodd y stori ei ffilmio mewn stiwdio.
- Whatever Happened to...?: Susan - stori sain BBC gyda Jane Asher fel Susan.
- Ffilmiau yn y cefn wrth 1964.
- Dalek Cakes - clip wrth Blue Peter.
- Trelar
- CGI newydd
- Oriel
- Isdeitlau gwybodaeth cynhyrchu
- Sylwebaeth sain yn cynnwys William Russell, Carole Ann Ford, Richard Martin a Verity Lambert
Credydau'r cefn:
- Yn cynnwys William Hartnell, gyda William Russell, Jacqueline Hill, a Carole Ann Ford
- Wedi'i hysgrifennu gan Terry Nation
- Cynhyrchu gan Verity Lambert
- Cyfarwyddwr Richarm Martin
- Carddoriaeth achlysurol gan Francis Chargrin
- Clawr gan Clayton Hickman
Nodiadau:
- Cyflawnodd y Doctor Who Restoration Team golygu am y rhyddhad DVD.
Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #95.
Rhyddhadau Blu-ray
- Rhyddhawyd y stori yma ar Blu-ray ar 5 Rhagfyr 2022, yn rhan o'r set bocs The Collection: Season 2.
Rhyddhadau VHS
Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Dalek Invasion of Earth fel set dwy dâp ym Mai 1990 (DU), ac yn Chwefror 1990 (UDA).
Rhyddhadau digidol
Mae'r stori ar gael:
- yn iTunes (Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, y DU, a'r UDA) fel rhan o gasgliad Doctor Who: Y Gyfres Clasurol, Doctor Who: The Best of the First Doctor, sydd yn cynnwys An Unearthly Child a The Aztecs hefyd;
- i ffrydio ar Amazon Video (DU) fe cyfres 10 o gyfres Doctor Who (Classic);
- i ffrydio ar BritBox (UDA) fel rhan o Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.
Troednodau
|
|