The Impossible Planet oedd wythfed episôd cyfres 2 Doctor Who. Mae'r episôd yn dynodi ymddangosiad cyntaf yr Ŵd. Roedd yr episôd yn llawn cyfeiriadau at yr Uffern a'i rheolydd, y Diafol.

Mae'r prequel i The Impossible Planet, Tardisode 8, yn darlunio capten gwreiddiol y criw, Capten Walker, a fyddai'n marw yn ystod yr alldaith, felly mae ond yn derbyn cyfeiriadau ôl-marwolaeth yn yr episôd.

Crynodeb

Mae'r Doctor a Rose wedi colli'r TARDIS ar waelod gagendor, yn sowndio'r pâr ar gorsaf ofod, wedi'i leoli ar blaned sy'n cylchdroi o gwmpas twll du. Yn y gyfamser, mae endid a gall fod y Diafol ei hun yn deffro, gan ddechrau achosi gwallgofrwydd trwy gydol y criw.

Plot

I'w hychwanegu.

Cast

Cast di-glod

  • Gwarchod benywaidd:[1]
    • Lianna Stewart
  • Gwarchod gwrywaidd:[1]
    • Kristian Aurthur
  • Llais y cyfrifiadur:[1]
    • Ceres Doyle
  • Ŵd:[1]
    • Ruari Mears
    • Karl Greenwood
    • Joe White
    • Adam Sweet
    • Mark Llewellyn-Thompson
    • Lewis Drew
    • Stephen Reynolds
    • Scott Baker
    • Andy Jones
    • Claudio Laurini
    • Richard Tunesi

Cyfeiriadau

  • Roedd y System Sgarlad yn cartrefi'r Pallushi, gwareiddiad enfawr a rychwantodd biliwn blwyddyn.
  • Disgrifiodd ysgrythurau y Veltino y blaned Krop Tor fel "the bitter pill".
  • Mae'r Doctor yn dweud bod TARDISau yn cael eu tyfu yn hytrach nag adeiladu.
  • Mae Zachary yn defnyddio'r Graddfa Blazen.
  • Mae ŵd 7 Gamma 10, Ŵd 7 Gamma 11 ac Ŵd 7 Gamma 12 yn rhan o'r Cyrch Walker.

Nodiadau

  • Roedd rhai o synau agor a chau y drysau wedi dod o'r gyfres gemau poblogaidd, Doom, yn enwedig pan mae Toby yn ceisio dod o hyd i'r "lleisiau" sydd yn tynnu ei sylw rhag ei ganfyddiau archeolegol.
  • Cyn cenhedliad yr Ŵd, ystyriwyd Racsacoricoffalapatoriaid am gaethweithion Sylfaen Warchod 6, wedi'u caethiwo gan dynoliaeth. Byddent yn credu taw eu duw nhw oedd yn bodoli o fewn y blaned, yn aros i eu rhyddhau. Caiff dewis ei wnneud i greu rhywogaeth newydd unwaith canfyddwyd taw cost trwsio gwisgoedd y Slitheen oedd unfath â chreu gwisgoedd estronwyr newydd. Hefyd, roedd Russell T Davies yn pryderu byddai ymddangosiad y Slitheen yn tynnu sylw rhag y plot. Yn enwedig, calon arloesol y stori.[1]
  • Yn hwyrach, o fewn Planet of the Ood, byddai'n cael ei amlgu taw tarddiad yw ardal o'r gofod yn agos i'r Sense Sphere, ac o ganlyniad yn awgrymu bod perthynas genetig rhyngddyn nhw a'r Sensorites. Yn nodedig, mae arddull cyflwyno'r Sensorites yn "Strangers in Space" yn unfath â sut mae'r Ŵd wedi'u cyflwyno yn yr episôd hon. Yn gyntaf, mae'r ddau rywogaeth yn bygwth y Doctor a'i gymdeithion, cyn mae eu gwir natur diniwed yn cael ei ddatgleu.
  • Yr episôd hon yw'r gyntaf i gynnwys y siwtiau gofod Sylfaen Warchod 6, cyn ddod yn elfen cylchol o'r gyfres newydd, gyda'r Degfed, Unarddegfed a'r Deuddegfed Doctor wedi gwisgo'r siwt ar sawl achosiad.
  • Enw gwreiddiol y blaned oedd "Hell".
  • Dewisodd Russell T Davies enw'r Ŵd, yn lle Matt Jones; ei fwriad oedd i ddynwared y gair "odd".
  • Recordiwyd golygfeydd y cyrff yn hedfan yn y gofod yn Pinewood Studios, y tro cyntaf defnyddiwyd y gyfleuser gan y gyfres, heb ystyried Doctor Who and the Curse of Fatal Death.
  • Hon yw'r stori gyntaf i ddefnyddio cwarel am blaned estronaidd - rhywbeth oedd yn gyffredin am yr hen gyfres. Nid oedd Russell T Davies yn hoff o'r dewisiadau cynhyrchu rhein.
  • Yn gwreiddiol, ystyriwyd hen ŵr Billie Piper, Chris Evans, i leisio'r Diafol. Castiwyd Gabriel Woolf ar ôl redoriwyd yr episôd.
  • Yn gwreiddiol, roedd cyflwyniad y Doctor a Rose i'r Ŵd yn hirach, gyda Rose yn archebu lluniaeth.
  • Yr unig golygiad sylweddol sydd yn digwydd i'r episôd hon yw golygfa lle recordiodd y Doctor curiad calon wrth o dan arwyneb y blaned gan ddefnyddio'r drill.

Cyfartaledd gwylio

  • BBC One dros nos: 5.94 miliwn[2]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 6.32 miliwn[3]

Gwallau cynhyrchu

  • Wrth i'r Doctor ac Ida disgyn i graidd Krop Tor, mae'r sgrîn sydd yn dilyn eu cynnydd yn dangos lefel oscigen o 39%. Yn dilyn saethiad fuan ar y ddau, mae'r un sgrîn nawr yn dangos lefel ocsigen o 42%, er mae fod wedi lleuhau'r holl amser.
  • Yn fuan cyn ei marwolaeth, mae Scooti yn gwisgo ei chyfathrebwr ar ei braich chwith, gyda sawl breichled du ar ei braich dde. Unwaith mae yn y wactod, mae ei chyfathrebwr ar ei braich dde, gyda'i breichledi ar ei braich chwith.

Cysylltiadau

  • Byddai mab y Bwystfil, Abaddon, yn deffro, cyn ymddangos yng Nghaerdydd. (TV: The End of Days)
  • Mae Rose yn cyfeirio at ei hamser yn gweithio mewn cegin ysgol. (TV: School Reunion)
  • Tra dan reolaeth y Bwystfil, mae'r Ŵd yn dweud "I shall become manifest". Mae'r Wire yn dweud yr un peth. (TV: The Idiot's Lantern)
  • Mae Rose yn derbyn neges ar ei uwchffôn. Gadawodd hi ei huwchffôn blaenorol gyda Mickey Smith. (TV: The Age of Steel)
  • Mae'r Doctor yn awgrymu bod y TARDIS yn dioddef "diffyg treuliad". (TV: Doctor Who)
  • Mae'r Bwystfil yn honni byddai Rose yn marw mewn brwydr, tynged llwyddodd hi i osgoi wrth ffoi i fydysawd eiledol, er cyhoeddwyd ei bod hi wedi marw yn dilyn Brwydr Canary Wharf. (TV: Doomsday, Utopia)
  • Mae'r Doctor wedi clywed am yr Ŵd o'r blaen. (SAIN: A Thing of Guile)
  • Mae criw Sylfaen Warchod 6 wedi'u rhyfeddu gan ymddangosiad sydyn y Doctor a Rose. Byddai aelodau Bowie Base One yn ymateb yn yr un ffordd at ymddangosiad sydyn y Doctor. (TV: The Waters of Mars)

Rhyddhadau cyfryngau cartref

DVD

Cyfres 2 Cyfrol 4
  • Rhyddhawyd yr episôd gyda The Satan Pit a Love & Monsters yn rhan o Doctor Who: Series 2, Volume 4 ar 7 Awst 2006.
  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o'r set bocs Doctor Who: The Complete Second Series ar 20 Tachwedd 2006 yn y DU ac 16 Ionawr 2007 yn yr UDA.
  • Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #11 ar 3 Mehefin 2009.

Blu-ray

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o set bocs Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 yn y DU a 5 Tachwedd yn yr UDA.
  • Rhyddhawyd yr episôd ar Steelbook Cyfres 2 ar 3 Gorffennaf 2017.

Troednodau

Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
COMMUNITY 6
Note 1