The Pilot oedd episôd cyntaf Cyfres 10 Doctor Who.
Yn ôl Steven Moffat mewn fideo cyflwyniadol, mae'r degfed gyfres yn ail-ddechrau'r sioe. Bydd [The Pilot] yn ailgyflwyno chi i bopeth mae angen i chi gwybod am Doctor Who. O ganlyniad, trwy lygaid Bill, mae gwylwyr newydd yn cael eu cyflwyno i'r Doctor, ei TARDIS, ei sgriwdreifar sonig a'i elyn, y Daleks, yn debyg i Ian a Barbara yn "An Unearthly Child", a Rose Tyler yn Rose yng Nghyfres 1. Wnaeth The Pilot hefyd dynodi ymddangosiad ar sgrîn cyntaf y Movellans ers eu hymddangosiad cyntaf yn Destiny of the Daleks yn 1979.
Mae'r episôd hefyn yn cyflwyno Prifysgol St Luke, lle yn ôl pob sôn, darlithiodd y Doctor am dros bum deg mlynedd, gan hefyd dechrau plot am feth yw'r Doctor a Nardole yn cuddio mewn Cromgell o dan y campws.
Crynodeb
Mae'r Deuddegfed Doctor - nawr yn byw a dysgu ym Mhrifysgol St Luke ar y Ddaear - wedi argyhoeddi Bill Potts i fod yn myfyriwr preifat iddo. Ond, yna mae'r Arglwydd Amser a'i gydymaith Nardole yn canfod bod eu ffrind newydd wedi gwneud addewid i gariad posib, ac mae'r addewid yn eu peryglu mewn ffordd na all y TARDIS hyd yn oed osgoi.
Plot
I'w hychwanegu.
Cast
- Y Doctor - Peter Capaldi
- Bill - Pearl Mackie
- Nardole - Matt Lucas
- Moira - Jennifer Hennessy
- Heather - Stephanie Hyam
- Llais y Daleks - Nicholas Briggs
Cast di-glod
|
|
|
Cyfeiriadau
Gwyddoniaeth
- Ymysg pynciau eraill, mae'r Doctor yn tiwtora Bill ar ffiseg ac astroffiseg.
- Mae'r Doctor yn hafalu ffiseg cwantwm â barddoniaeth.
- Darlithiodd y Doctor ar Time and Relative Dimension In Space, gan ddweud ei fod yn olygu bywyd. Yn y darlith, mae'r Doctor yn sôn am ddyddiau'r dyfodol, dyddiau'r pressennol, dyddiau'r dyfodol, momentau bach a momentu mawr fel i gyd yn digwydd ar yr un pryd.
- Ar fwrdd ddu defnyddiodd y Doctor, mae modd gweld y squeeze theorem.
Technoleg
- Mae gan y Doctor sawl dyluniad o'i sgriwdreifars sonig wrth ei orffennol yn ei swyddfa.
TARDIS
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Bill bod TARDIS yn sefyll am "Time and Relative Dimension in Space". Mae Bill wedyn yn nodi byddai'r acronym ond yn gweithio mewn Saesneg.
- Mae Bill yn cymharu dyluniad y TARDIS i gegin.
- Pan mae Bill yn gofyn yn le mae'r tŷ bach, mae Nardole yn ymddangos wrth awgrymu ei fod newydd ei ddefnyddio.
- Cyn ddarganfod bod y TARDIS yn fwy o faint ar y tu mewn, mae Bill yn meddwl i ddechrau taw estyniad y tu cefn i swyddfa'r Doctor yw hi, new mai lifft yw hi.
- Mae gan y TARDIS darparydd macaroons.
Diwylliant
- Mae Bill yn hoff o ffuglen wyddonol, ac mae modd iddi adnabod sawl duedd o'r genre yn ei phrofiadau gyda'r Doctor, gan gynnwyd dileu'r cof.
- Mae Bill wedi gwylio rhaglen ar Netflix am fadfeill ym mhennau pobl, yn eu rheoli.
- Mae gan Moira'r llyfr Crock-Pot Cookery yn ei chegin.
Rhywogaethau
- Nid yw'r Dalek yn adnabod y Deuddegfed Doctor nes ei fod yn sganio sgriwdreifar sonig y Doctor, gan yn ôl gwybodaeth y Dalek, mae gan y Doctor gwallt cyrliog a brown, ac mae'n gwisgo sgarff hir.
Bwyd a diod
- Mae Bill yn gweini sglodion.
- Mae'r Doctor yn yfed dŵr yn ystod ei ddarlithioedd.
- Mae'r Doctor yn siarad am wrap vigan.
- Mae'r Doctor yn jocio bod awyr planed estronaidd wedi'i greu o lemon drops.
- Gofynna'r Doctor gwestiwn rethregol wrth Bill am os yw ei brechdan bacwn yn caru hi hefyd.
Lleoliadau
- Wrth ceisio dianc yr olew ymdeimladol, mae'r Doctor, Nardole a Bill yn ymweld â Sydney, yn agos at Dŷ Opera Sydney. Maent hefyd yn ymweld â phlaned ar ochr arall y bydysawd, a pharth rhyfel yng nghanol y Rhyfel Dalek-Movellan.
Prifysgol St Luke
- Mae'r Doctor wedi bod yn darlithio ym Mhrifysgol St Luke ym Mryste am dros 50 mlynedd.
- Mae Bill yn gweini sglodion yno, ac mae Heather yn myfyriwr.
- Yn swyddfa'r Doctor, mae'r TARDIS, lluniau o River Song a Susan Foreman, Self Portrait with Two Circles gan Rembrandt van Rijn, argraffiadau du a gwyn o Portraid of Emma Hart gan Joshua Reynolds a Lady Hamilton in a Straw Hat gan George Romney, cerfluniau o pennau Ludwig van Beethoven a William Shakespeare. Mae ganddo hefyd hen radio, record o His Master's Voice a ffonograff.
- Mae'r Doctor a Nardole yn cuddio rhywbeth mewn Cromgell o dan y brifysgol.
Pobl
- Mae Nabeela yn aelod o staff Prifysgol St Luke.
- Bu farw mam Bill Potts pan oedd hi'n baban.
- Neville yw cyn-gariad Moira.
- Mae Barry yn ffrind i Moira.
Cerddoriaeth
- Yn ystod y Nadolig, mae côr yn canu "Jingle Bells".
Nodiadau
- Teitl gweithredol y stori oedd A Star In Her Eye.
- Cyn ffilmio'r gyfres, ddarlledwyd teaser dwy funud a gyflwynodd Bill yn Ebrill 2016, enw'r teaser hon oedd Friend From the Future. Bydd rhannau o'r teaser hon yn cael ei haddasu i mewn i'r episôd hon. (DWM 511)
- Dynododd hyn y tro cyntaf agorodd episôd Doctor Who BBC Wales heb gerddoriaeth na ddeialog am y funudau cyntaf, gan adael ond sŵn cloc.
- Mae'r cân "Love Will Tear Us Apart" gan Joy Division yn chwarae yn y bar wrth i Bill ac Heather cwrdd.
- Mae Bill yn sôn am y masnachfraint Stargate wrth siarad am fadfeill ym mhennau pobl.
- Yn ystod y golygfa lle mae'r TARDIS yn teithio i'r parth rhyfel Dalek-Movellan, ailddefnyddiwyd y golygfa wrth The Doctor's Wife lle mae'r TARDIS yn teithio i'r blaned House trwy Hollt bydysawd yswigen.
- Fel disgrifiodd Caroline Lie, roedd nifer o'r extras yn narlith y Doctor oedd gweithwyr y Doctor Who Experience yng Nghaerdydd.
- Pan mae'r Doctor eisiau dileu cofion Bill, mae'n dweud wrtho i ddychmygu ei deimladau os byddai'r un peth wedi digwydd iddo fe. Yn y golygfa hon, mae thema Clara yn chwarae, cyferiad at ddigwyddiadau TV: Hell Bent.
- Yn y golygfa lle mae Bill yn mynd i mewn i'r TARDIS am y tro cyntaf mae "Sad Man with a Box" yn chwarae. Chwaraeodd alawiad hapusach o'r cân, "Mad Man with a Box", yn TV: The Eleventh Hour wrth i Amy mynd i mewn i'r TARDIS am y tro cyntaf.
- Mae'r Doctor yn defnyddio'r un bwrdd sialc un ei dosbarth i Miss Quill yn Coal Hill Academy yn y sioe deilliedol Class
- Mae cân ffôn symudol Bill yr un peth â ffôn Martha Jones, a gadwodd y Degfed Doctor ar ei TARDIS.
- Wrth i Nardole dangos swyddfa'r Doctor i Bill, mae ei fraich yn gwneud sain mecanyddol, ac mae bollt yn cwympo ohonno, gan awgrymmu ei fod yn robot, neu yn seibrnetig mewn rhan.
- Yn ôl Doctor Who Magazine #512, ffilmiwyd dau olygfa a gafodd eu torri cyn darllediad. Roedd un yn cynnwys Bill yn gofyn Nardole am y Doctor; roedd y llall yn golygiad eiledol o'r golygfa lle mae Bill a Heather yn cwrdd.
- Mae gan yr episôd yn cynnwys trelar "Amser Nesaf" am yr episôd canlynol a trelar arall am weddill y gyfres. Dyma'r tro cyntaf mae episôd wedi cynnwys trelar amser nesaf a trelar am gyfres.
- Mae nifer o'r Sgriwdriefars Sonig ar ddesg y Doctor yn fersiynnau teganau cynhyrchodd Character Options.
Cyfartaleddau gwylio
- BBC One dros nos: 4.64 miliwn
- Cyfartaledd DU terfynnol: 6.68 miliwn
Lleoliadau ffilmio
- Porth y Rhath
- Prifysgol Caerdydd
- Lookout Café, World of Boats
- Clwb Ifor Bach
- Taffs Well Quarry
- Ffilm Factory 35
Gwallau cynhyrchu
- Ar ôl i Heather gadael, mae Bill yn gwisgo crys hollol gwahanol wrth iddi cyrraedd y brifysgol.
Cysylltiadau
- Mae gan y Doctor Sbienddrych ceinionydd. (TV: Heaven Sent)
- Mae gan y Doctor arwydd "Out of Order" ar ddrysau ei TARDIS, yn unfath â'r un defnyddiodd y Doctor Cyntaf. (TV: The War Machines)
- Mae'r Doctor wedi bod yn athro mewn coleg yn flaenorol, (PRÔS: Human Nature; TV: Human Nature) yn debyg i un o'i ffrindiau gorau Arglwydd Amser. (TV: Shada)
- Mae'r Doctor a Bill yn gwisgo hetiau papur ac maent yn tynnu craceri Nadolig. (TV: The Christmas Invasion, The Time of the Doctor, Last Chistmas)
- Mae gan y Doctor brân bren ar ei ddesg. (TV: Face the Raven)
- Mae Self Portrait with Two Circles gan Rembrandt van Rijn yn swyddfa'r Doctor. (TV: The Husbands of River Song)
- Mae'r Doctor wedi cwrdd â bodau hylif ymdeimladol; y Kar-Charratans ar Kar-Charrat, (SAIN: The Genocide Machine) a'r Flood ar Fawrth. (TV: The Waters of Mars) Yn flaenorol, gwelodd y Doctor creadur a ddynwarodd pobl fyw i ddwyn eu ffurf. (TV: Midnight)
- Mae'r Doctor yn sôn am amser cyfan yn digwydd ar yr un pryd, yn ei unarddeged ymgorfforiad, fe brofiadodd digwyddiad fel hyn. (TV: The Wedding of River Song)
- Yn ei swyddfa, mae gan y Doctor penddelw o Beethoven, a oedd yn ei TARDIS yn gynt. (TV: Before the Flood)
- Mae hefyd ganddo benddelw o William Shakespeare. (TV: The Chase, The Shakespeare Code)
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Bill bod ofn yn peth dda a synhwyrol. Fe ddywedodd yn yr un peth i Rupert Pink. (TV: Listen)
- Mae Bill yn ysgrifennu traethawd gyda'r teitl "Laser cooling of ions: atomic clocks and quantum jumps". Daeth yr Wythfed Doctor ar ddraws Cloc atomig ar Nos Galan 1999. (TV: Doctor Who)
- Mae'r Doctor yn llywio'r TARDIS i'r Rhyfel Dalek-Movellan. (TV: Destiny of the Daleks)
- Yn agos i'r gromgell, mae gan y Doctor arwydd yn berchen i'r Mary Celeste. (TV: The Chase)
- Gwelodd y Doctor marciau llosgodd llong ofod i mewn i goncrit, hefyd ar gampws ysgol. (TV: Remembrance of the Daleks)
- Mae'r Doctor yn ceisio dileu cofion yn yr un modd digwyddodd i Donna Noble. (TV: Journey's End, Hell Bent) Mae'n newid ei feddwl ar ôl i Bill gofyn iddo beth fyddai'n deimlo os digwyddodd yr un peth iddo fe. (TV: Hell Bent)
- Mae'r Doctor yn siarad am y cylched camelion sydd wedi'i torri. (TV: An Unearthly Child, Logopolis, Attack of the Cybermen, Rose, Meanwhile in the TARDIS; COMIG: Hunters of the Burning Stone ayyb)
Rhyddhadau cyfryngau cartref
Rhyddhadau DVD a Blu-ray
- Rhyddhawyd The Pilot yn rhan o Doctor Who: Series 10: Part 1 ar 29 Mai 2017.
- Rhyddhawyd yr episôd wedyn gyda gweddil episodau Cyfres 10 ar DVD, Blu-ray a Steelbook ar 13 Tachwedd 2017 fel Doctor Who: The Complete Tenth Series.
Troednodau
|
|