The Romans oedd pedwerydd stori'r hen ail gyfres Doctor Who. Dyma'r stori gyntaf i gael elfennau plot comedi ynghyd ag elfennau dramatig. Cafodd y stori ei ffilmio yn yr un bloc â The Rescue, gyda'r un tîm cynhyrchu yn gweithio ar y dau stori.

Gwelodd y stori yma'r defnydd cyntaf o ffilm stoc ar gyfer cliffhanger, yn yr achos yma, defnyddiwyd llew. Cafodd y trydydd episôd ei ddarlledu yr un dydd ag angladd Winston Churchill, ac o ganlyniad, gwyliodd llai o bobl yr episôd.

Erbyn hyn, roedd David Whitaker yn gweld storïau hanesyddol fel gwendid. Serch hynnny, cynlluniwyd The Romans fel un o dair stori hanesyddol, a fyddai yn dilyn Armada Sbaen a Rhyfel Cartref America. I bob olwg, Verity Lambert a berswadiodd ef ac awdur Dennis Spooner i sgriptio'r yma fel comedi. (CYF: About Time 1)

Dyma'r achos gyntaf i actor enwog gofyn i gael ei gynnwys yn Doctor Who. Yma, rhowd rôl Nero i Derek Francis.

Crynodeb

Yn glanio yn Rhufain yn 64, mae'r teithwyr yn cymryd gwyliau. Wrth fod Ian a Barbara yn hapus i ymlacio, mae'r Doctor a Vicki yn ceisio darganfod antur.

Ond, yn fuan mae antur yn dod o hyd i Ian a Barbara hefyd wrth maent yn cael eu herwgipio gan fasnachydd caethweision, ac mae dynwaredaeth y Doctor o Maximus Pettulian yn achosi iddo gael ei dywys i senedd Ymerawdwr Nero lle mae'n chwarae rôl pwysig yng nghwrs hanes...

Plot

The Slave Traders (1)

I'w hychwanegu.

All Roads Lead to Rome (2)

I'w hycheanegu.

Conspiracy (3)

I'w hychwanegu.

Inferno (4)

I'w hychwanegu.

Cast

  • Dr. Who - William Hartnell
  • Ian Chesterton - William Russell
  • Barbara Wright - Jacqueline Hill
  • Vicki - Maureen O'Brien
  • Sevcheria - Derek Sydney
  • Didius - Nicholas Evans
  • Canwriad - Dennis Edwards
  • Masnachydd - Margot Thomas
  • Prynwr caethweision - Edward Kelsey
  • Maximus Pettulian - Bart Allison
  • Ascaris - Barry Johnson
  • Delos - Peter Diamond
  • Tavius - Michael Peake
  • Caethwas benywaidd - Dorothy-Rose Gribble
  • Meistr y gegin - Gertan Klauber
  • Dyn 1af yn y farchnad - Ernest Jennings
  • 2il ddyn yn y farchnad - John Caesar
  • Negeswas y senedd - Tony Lambden
  • Nero - Derek Francis
  • Tigilinus - Brian Proudfoot
  • Poppaea - Kay Patrick
  • Locusta - Anne Tirard

Cast di-glod

  • Menywod yn y farchnad:[1]
    • Rosemary Devitt
    • Rilla Madden
    • Gladys Bacon
    • Barbara Mansfield
    • Pat Ambrose
    • Ursula Granville
    • Francesca Bertorelli
    • Bunty Garland
  • Dynion yn y farchnad:[1]
    • John Fry
    • John de Marco
    • Frank Wheatley
    • Harry Davies
    • George Dale
    • David Brewster
    • Ronald Adams
    • Jack Collins
    • John Sagar
    • Nigel Clayton
    • Fred Taylor
    • Terry Leigh
    • John Little
    • Tom Sye
    • Jerry Vidal
    • John Scammell
  • Plant yn y farchnad:[1]
    • Dawn Pyke
    • Gilliam Smith
    • Johnny Wainwright
    • John Langley
  • Caethweision:[1]
    • Barbara Mansfield
    • Ronald Adams
    • Jack Collins
    • John Sagar
    • Nigel Clayton
    • Gilliam Smith
  • Caethweision benywiadd:[1]
    • Alison Leney
    • Terri Dean
    • Sandra Harris
    • Tina Kennedy
  • Caethweision y gegin:[1]
    • Vez Delahunt
    • Roy Reeves
    • Pat Donoghue
    • James Appleby
    • Paul Andrews
    • Tony Lee
    • Leslie Williams
    • Richard Wilding
  • Cwrtwyr:[1]
    • James Appleby
    • Paul Andrews
  • Milwyr:[1]
    • Roy Reeves
    • Pat Donoghue
  • Dwbl y Canwriad marwedig:[1]
  • Gwarchodwyr:[1]
    • Paul Duval
    • Janos Kurucz
    • Allan Selwyn
    • Gordon Cave
    • Bill Burridge
    • Derek Calder
    • Eric Bird
    • Ross Thomas
    • James Norton
  • Cleddyfwyr:[1]
    • Paul Duval
    • Janos Kurucz
  • Caethweision benywaidd yn y wledd:[1]
    • Diana Chapman
    • Alison Leney
  • Caethweision gwrwaidd yn y wledd:[1]
    • Paul Blomley
    • Steve Peters
  • Menywod yn y wledd:[1]
    • Anne Marziel
    • Sara Negus
  • Dynion yn y wledd:[1]
    • George Fisher
    • James Lyon
    • Fred Davies
    • Dickie Martyn
    • Ronnie Meade
    • Michael Essex
    • Douglas Abercrombie
  • Gwarchodwyr:[1]
    • Fred Haggerty
    • Gerry Wain
  • Mileindorf:[1]
    • John Day
    • Frank Sussman
    • Paul Duval
    • Tony Poole
    • Yasha Adams
    • Mickie Baker
    • Derek Martin
    • David Cannon
    • Michael Buck
    • David Brewster
    • Bill Richards
    • Philip Moore
    • Alfred Morgan
    • Len Saunders
    • Alan Jones
  • Dwbl llaw Dr. Who:[1]
    • Albert Ward

Criw

  • Awdur - Dennis Spooner
  • Cerddoriaeth - Ron Grainer gyda'r BBC Radiophonic Workshop
  • Cerddoriaeth achlusurol - Raymond James
  • Dylunydd - Raymond P Cusick
  • Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Cyfarwyddwr - Christopher Barry
  • Trefnydd Brwydrau - Peter Diamond
  • Gwisgoedd - Daphne Dare
  • Colur - Sonia Markham
  • Goleuo - Howard King
  • Sain - Richard Chubb

Criw di-glod

  • Trefniant Thema - Delia Derbyshire
  • Golygydd sgript - Dennis Spooner
  • Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Valerie Wilkins
  • Dyn camera ffilm - Dick Bush
  • Golygydd ffilm - Jim Latham
  • Cynorthwyydd cynhyrchu - David Maloney
  • Sain arbennig - Brian Hodgson

Cyfeiriadau

  • Mae Ian yn bwyta Grawnwyn.
  • Unwaith dysgodd y Doctor i Llarpiwr Mynyddoedd Montana sut i reslo.

Nodiadau

  • Dyma'r stori gyntaf i gynnwys elfennau comedi ynghyd â'r drama arferol.
  • Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiad 16mm.
  • Adenillodd y BBC printiau negyddol o bob episôd yn 1978.
  • Mae telesnaps y stori yma mewn casgliadau preifat.
  • Yn gwreiddiol, credydwyd byddai Richard Martin yn cyfarwyddo'r stori yma. Ond, roedd cytundeb a ddywedodd byddai The Rescue a The Romans yn defnyddio'r un tîm cynhyrchu, gan weithredu fel un stori chwe rhan arferol. O ganlyniad, aeth y swydd i Christopher Barry awnaeth hefyd cyfarwyddo The Rescue.
  • Syniad gwreiddiol Dennis Spooner oedd i ddynwared y ffilm Quo Vadis, ond achosodd rhyddhad Carry On Cleo ar yr un pryd i Spooner dewis adeg y Tân Mawr yn lle.
  • Cafodd cymeriadau Tigilinus a Sevcheria eu ehangu yn ystod ailddrafftio'r sgript.
  • Yn y sgipt gwreiddiol, Servcheria a bwrodd Ian yn anymwybodol yn lle Barbara.
  • Dyma'r stori olaf gweithiodd Mervyn Pinfield ar fel cynhyrchydd cynorthwyyol, ond byddai'n dychwelyd i'r gyfres yn The Space Museum.
  • Mae'r stori yn dechrau gyda'r TARDIS wedi bod yn Rhufain am sbel - tua mis, fel mae'r deialog yn awgrymu.
  • Mae The Rescue yn dilyn yn union i mewn i'r stori yma.
  • Dyma'r ail stori olynol sydd yn gweld y Doctor cymryd rhan mewn olygfa ffisegol iawn. Mae brwydr y Doctor ag Ascaris yn adlewyrchu brwydrau tebyg yn cynnwys y Trydydd Doctor, megis y Doctor yn fflipio ei erbyniwr.
  • Cafodd teitl pedwerydd episôd y stori yma - "Inferno" - ei defnyddio yn hwyrach ar gyfer teitl stori'r Trydydd Doctor, Inferno.
  • Mae llinell y Doctor am Llarpiwr Mynyddoedd Montana yn byrfyfyriad gan William Hartnell.
  • Roedd crëad cymeriad Tigilinus yn ychwanegiad hwyr i'r sgript. Yn gwreiddiol, achubwyd Nero gan y Doctor trwy fwrw cwpan Caesar ar ddamwain.
  • Goergydiodd cyfarwyddwr Christopher Barry roedd gormodedd o gomedi yn y stori, gyda William Hartnell a Verity Lambert yn meddwl yr un peth, gyda Lambert yn honni nad oedd y gynulleidfa yn hoff o gomedi.
  • Ysbrodolwyd Dennis Spooner i ysgrifennu'r stori oherwydd ar y pryd roedd ef yn byw ar bwys Jim Dale, actor a oedd yn serennu yn Carry On Cleo a fe aeth i rhai o ffilmio'r ffilm.
  • Meddyliodd Dennis Spooner am actor arall ar gyfer Nero; ystyriodd Christopher Barry pobl fel Paul Whitsun-Jones, George A. Cooper, a Dick Emery.
  • Roedd William Hartnell yn hoff o'r stori oherwydd rhodd y stori siawns iddo, gan ei hawlio i berfformio comedi; yn yr un modd roedd Rilliam Russell yn hoff o'r stori.
  • Roedd Derek Francis yn ffrindiau â Jacqueline Hill a'i gŵr Alvin Rakoff; addwyd rôl iddo yn y gyfres ers ei dechreuad.
  • Roedd Edward Kelsey, actor y prynwr caelthweision, yn hen ffrind i Christopher Barry gan dechreuodd y ddau i weithio yn niwydiant teledu ar yr un pryd.
  • Defnyddiwyd model un-pumed ar gyfer y model yn cwympo, a model un-trydydd ar gyfer y TARDIS yn y gegin; Shawcraft Models creodd y propiau.
  • Defnyddiwyd model hefyd gan Shawcraft ar gyfer Rhufain yn llosgu; rhuthrwyd adeilad y model, a nid oed Raymond Cusick yn hapus gyda uchder y tân.
  • Roedd Kay Patrick yn anfodlon wrth fwrw Michael Peake gan nad oedd hi eisiau ei anafu, ond mynnodd Peake, gan ei hannog trwy ddweud i ddychmygu nad oedd y dau yn nabod ei gilydd.
  • Cafodd William Russell cwt fach ar ei arddwrn wrth ymarfer frwydr.
  • Collodd Jacqueline Hill ymarferion ar 6-7 Ionawr er mwyn ffilmio golygfeydd ar gyfer y stori nesaf, The Web Planet.
  • Ymwelodd Miss M. Vetta, ymwelydd wrth Amsterdam, ag ymarfer camera yn rhan o hysbysiadau Ewropeaidd y sioe.

Cyfartaleddau gwylio

  • "The Slave Traders" - 13 miliwn
  • "All Roads Lead to Rome" - 11.5 miliwn
  • "Conspiracy" - 10 miliwn
  • "Inferno" - 12 miliwn

Lleoliadau ffilmio

  • Ealing Television Film Studio

Cysylltiadau

  • Yn dilyn gadael Rhufain, teithiodd y Doctor a'i gymdeithion i Lundain yn y 20fed ganrif. Ni ystyriodd Vicki y lle i fod llawer mwy safonol o ran technoleg na Rhyfain Nero. Roedd Barbara wedi'i sarhau gan y sylwad hon. (SAIN: Starborn)
  • Yn hwyrach, dywedodd y Degfed Doctor wrth Donna Noble nad oedd ef yn gyfrifol ar gyfer llosgiad Rhufain. (TV: The Fires of Pompeii)
  • Mae dwy stori wedi'u gosod yn y bwlch mis o hyd rhwng cyrhaeddiad y teithwyr a dechreuad y stori: PRÔS: Romans Cutaway a Byzantium!.

Rhyddhadau cyfryngau cartref a sain

Rhyddhadau DVD

Rhyddhawyd y stori ar DVD ynghyd â The Rescue ar 23 Chwefror 2009 (DU) ac ar 7 Gorffennaf 2009 (Gogledd America). Ar gyfer y rhyddhad, mae'r episodau wedi'u prosesu gan gyfrifiadur er mwyn ailgreu edrychiad tâp fideo gwreiddiol y cynhyrchiad.

Cynnwys:

  • What has "The Romans" ever done for us? - Rhaglen dogfennol ag edrychodd ar bortread Nero ar deledu dros y flynyddoedd.
  • Roma Parva - edrychiad at y model gwreiddiol defnyddiwyd i ddylunio'r set.
  • Dennis Spooner: Wanna Write a Television Series? - proffeil am awdur The Romans a storïau eraill.
  • Girls! Girls! Girls!: The 1960s - edrychiad ar gymdeithion benywaidd Doctor Who o 1963 nes 1969.
  • Segment Blue Peter ar wledd Rhufeinig.
  • Oriel
  • Nodiadau cynhyrchu
  • Cynnwys PDF: dyluniau gwreiddiol Raymond Cusick, rhestrau Radio Times.
  • Sylwebaeth sain gyda actor William Russell (Ian Chesterton), Nick Evans (Didus), Barry Jackson (Ascaris) a chyfarwyddwr Christopher Barry, wedi'i cymedroli gan Toby Hadoke.
Am ychwanegion eraill y set DVD hon, gwelir The Rescue.

Credydau'r cefn:

Rhyddhadau Blu-ray

Rhyddhadau digidol

Mae'r stori ar gael:

  • i ffrydio ar BritBox yn rhan o Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS

Rhyddhawyd y stori hon fel Doctor Who: The Rescue / The Romans ar Fedi 1994 (DU) a Mawrth 1996 (UDA).

Rhyddhadau sain

  • Rhyddhawyd y stori yma ar CD gan BBC Audio ar 8 Mai 2008 gydag adroddawd cysylltiadol gan a chyfweliad ychwanegol gyda William Russell.
  • Ail-rhyddhawyd y stori yma ar 5 Medi 2013 yn rhan o The TV Episodes - Collection Six.

Troednodau

Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
COMMUNITY 6
Note 1