The Witchfinders oedd wythfed episôd Cyfres 11 Doctor Who.

Mae'r stori yma yn nodedig am gynnwys y portreadaeth cyntaf o'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn gwynebu trafferth mewn gosodiad hanesyddol o ganlyniad i'r ffaith mai fenyw yw hi.

Crynodeb

Mae Tîm TARDIS yn glanion yn Lloegr yn gynnar yn yr 17eg ganrif yng nghanol profedigaeth gwrach, ac er polisi di-ymyrraeth y Doctor, nid oes modd iddi peidio atal y llofruddion. Ond mae'r Brenin James yn drwgdybus o'r Doctor a'i dullion, ac felly mae rhai i'w ffrindio dod yn helwyr gwrachod i ddarganfod y ddirgelon ynglŷn â'r profedigaethau.

Plot

I'w hychwanegu.

Cast

Cast di-glod

  • Stỳnts:[1]
    • Belinda McGinley
    • Andrew Burford
    • Claire Hayhurst
  • Gwarchod brenhinol:[2]
    • Richard Highgate
  • Apple Bill:[2]
    • Kevin Husdon
  • Gwrach pridd:[2]
    • Marina Stoimenova

Cyfeiriadau

Diwylliant o'r byd go iawn

  • Mae'r Doctor yn ceisio ar bobio afalau.
  • Mae Yaz yn tybio os taw Calan Gaeaf yw hi wrth weld y bobio afalau.
  • Mae'r Doctor yn dod o hyd i gopi o Daemonologie ymysg eiddo Becka Savage.
  • Wrth fygwth Brenin James yn gellweiriol, mae Graham yn dyfynu Pulp Fiction.

Digwyddiadau

  • Yn dilyn cael ei bwrw yn anymwybodol gan Frenhines y Morax, mae'r Doctor yn honni nid yw hi erioed wedi cael pen mawr mor gryf â hon ers Rhyfelau Llaeth Keston Pump.

Lleoliadau

  • Mae Bilehurst Cragg yng nghysgod Pendle Hill.

Deunyddiau

  • Mae'r Doctor yn cymharu pren coeden Pendle Hill i Semtex.

Deddfau

  • Mae'r Doctor yn adrodd Deddf Clarke i Frenin James.

Pobl

  • Pan oedd Brenin James yn faban, lladdwyd ei dad. Mae James yn honni mai ei fam lladdodd ef, ac yna cafodd hi ei carcharu a dibennio. O ganlyniad, magwyd James gan raglywyddion. Yn hwyrach, datgelodd James gadawodd hi pan oedd ef yn llai na flwydd oed, a chafodd hi ei throi i mewn i fwch dihangol.
  • Mae'r Doctor a Graham yn hawlio mai Cadfridog yr Helwyr Gwrachod ydynt.
  • Mae Brenin James yn credu cymerodd y Doctor ei henw wrth y marwddewin Doctor Dee.
  • Cafodd Yaz ei bwlio gan Izzy Flint fel na fyddai pobl yn bwlio hi.

Nodiadau

  • Mae sawl dyfyniad wrth y Beibl yn cael eu defnyddio yn y stori yma. Ond, mae rhai wedi'u dyfynu'n anghywir: wrth i'r Doctor dweud tarddiodd "caru du gymydog" o'r Testament Newydd, ond mewn gwirionedd cafodd y dyfyniad ei ddweud yn gyntaf yn llyfr Lefiticus yn yr Hen Destament.
  • Mae'r stori yn aml yn cael ei cam-enwi o dan ei deitl-gweithredol, The Witch Finders. Roedd hefyd straeon yn gwasgaru a ddywedodd byddai teitl y stori yn The Witchhunters, ond cafodd y teitl ei ollwng, efallai gan roedd yn rhy debyg i deitl un o nofelau'r Doctor Cyntaf, The Witch Hunters.
  • Dyma stori gyntaf y gyfres newydd i gael ei hysgrifennu a chyfarwyddo gan fenywod, a'r ail stori yn gyfan gwbl yn dilyn TV: Enlightenment. Y tro yma, mae'r Doctor yn fenyw hefyd.
  • Ffilmiwyd rhan o'r stori yma yn ystod "y Bwystfil o'r Dwyrain" ym mis Chwefror/Mawrth 2018; o ganlyniad, roedd rhaid ail-ffilmio rhai olygfeydd.

Cyfartaleddau gwylio

Cysylltiadau

  • Bwriad y Doctor oedd i ddod â'i chymdeithion i goronasiwn Elizabeth I. Roedd gan ei hymgorfforiadau blaenorol perthynas cymhleth gyda'r frenhines. (TV: The Shakespeare Code, The Day of the Doctor)
  • Cwrddodd y Doctor â James I o'r blaen, yn ei hymgorfforiad cyntaf. (PRÔS: The Plotters)
  • Mae'r Deuddegfed Doctor hefyd wedi gweld y profedigaethau gwrachod yn yr 17eg ganrif. (COMIG: Witch Work)
  • Rhwystrodd y Chweched Doctor brofedigaeth gwrach i geisio achub y rhai cyhuddwyd. Ond, yn yr achos yma, roedd y wrachod wedi'u meddwi gan estronwyr yn barod. (SAIN: The Carrionite Curse)
  • Cwrddodd y Pedwerydd Doctor â Cadfridog yr helwyr gwrachod o'r blaen. (SAIN: The Devil's Armada)
  • Mae'r Doctor yn atgoffa ei ffrindiau i beidio ymyrru ar ffabrig hanes. (TV: Rosa)
  • Mae'r Doctor yn sôn am fod yn "blôc". (TV: An Unearthly Child ayyb.) gan hiraethio am y ffaith roedd ganddi mwy o awdurdodaeth fel ddyn. Yn flaenorol, nododd hi roedd hawl ganddi i fynd ble bynnag oedd hi eisiau. (PRÔS: The Good Doctor)
  • Mae James a Becka yn baio'r Diafol am y problemau lleol. Mae'r Doctor yn nodi nid yw hi yn credu yn y Diafol. Yn flaenorol, cwrddodd y Degfed Doctor â bwystfil a galwodd ei hun y Diafol, gyda'r Doctor yn tybio mai ysbrodoliaeth y Diafol, neu Bwystfil Cyrniog mewn sawl diwylliant. (TV: The Satan Pit) Yn gynt na hynny, cwrddodd y Pedwerydd Doctor â chreadur a gafodd ei dylanwadu gan chwedl y Diafol. (SAIN: The Devil's Armada)
  • Mae King James yn dweud wrth Ryan bod pobl wedi ceisio ei ffrwydro o'r blaen. (PRÔS: The Plotters, GÊM: The Gunpowder Plot) Yn hwyrach, byddai'r Doctor a Yaz yn ymweld â San Steffan y dydd honno i sicrhau cywirdeb ddigwyddiadau'r pwynt sefydlog. (PRÔS: Black Powder)
  • Mae Ryan yn cyfeirio at farwolaeth ei nain a'i mam. (TV: The Woman Who Fell to Earth, The Tsuranga Conundrum)
  • Mae Yaz yn cyfeirio at amser yn ei bywyd pan cafodd hi ei heffeithio gan ragdybiaeth. (TV: Rosa)
  • Cafodd y Degfed Doctor ei gyhuddo o hudolaeth gan Arweinydd y Sycorax ar ôl iddo defnyddio egni adfywio arddigonol i ail-dyfu ei law. (TV: The Christmas Invasion) Calwyd y Chweched Doctor yn ddewin gan y Carrionites yn dilyn ei ddefnyddiad o hydoliaeth darganfuwyd yn Reminiscences of the Peculiar. (SAIN: The Carrionite Curse) Cafodd wyres y Doctor, Susan ei cyhuddo o hudoliaeth - a cafodd ei hela - yn ystod profedigaeth gwrachod Salem 1692. (PRÔS: The Witch Hunters)
  • Mae'r Doctor yn defnyddio ei system anadliaeth dargyfeiriol. (TV: Pyramids of Mars, Four to Doomsday, SAIN: Return of the Krotons)
  • Mae'r Doctor yn sôn am cwrdd Harry Houdini. (SAIN: Smoke and Mirrors, Harry Houdini's War, PRÔS: Houdini and the Space Cuckoos, The Great Escape, COMIG: Theatre of the Mind)
  • Mae'r Doctor yn ceisio galw ei ffrindiau yn "gang", "tîm" a "fam" unwaith eto. (TV: The Woman Who Fell to Earth)
  • Cwrddodd y Doctor â hil estronaidd ag oedd gallu meddwi cyrff yn ei nawfed ymgorfforiad. (TV: The Unquiet Dead)
  • Trafododd y Trydydd Doctor a Jo Grant Deddf Clarke unwaith pan llwyddodd y Doctor creu twyll o Bessie yn symyd ar ei phen ei hun, ond mewn gwirionedd, roedd ef yn defnyddio remôt. (TV: The Dæmons) Dyfynodd y Seithfed Doctor y deddf unwaith i Ace. (TV: Battlefield)

Rhyddhadau cyfryngau cartref

Rhyddhadau DVD a Blu-ray

Rhyddhadau digidol

  • Mae'r episôd ar gael i ffrydio ar BBC iPlayer.

Troednodau

Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
COMMUNITY 6
Note 1