Swarm_confronts_the_Doctor_-_The_Halloween_Apocalypse

Tra'n gyfarwydd i gadw cyfrinachau ei hun, bu fyw y Trydydd ar Ddegfed Doctor bywyd llawn cydfradau gan ddod o hyd i ffeithiau a chwalodd ei sicrwydd mewn hunaniaeth ei hun, er llwyddodd hi cuddio ei hamhaeuaeth y tu ôl i bersona chwilfrydig a hynod o garedig, serch hynny, byddai ei dicter yn ymddangos am fyr amser mewn momentau difrifol. Ond, roedd yr ymgorfforiad hon yn credu'n gryf mewn gobaith, trugaredd a rhoi cymorth i bwy bynnag oedd eu hangen.

Bywgraffiad

Prif erthygl: Trydydd ar Ddegfed Doctor/Bywgraffiad

Dechreuodd hi ei hanturiau trwy gwmpo o'r gofod i lawr i Sheffield mewn amser er mwyn achub Ryan Sinclair, Yasmin Khan, a Graham a Grace O'Brien wrth y Stenza Tzim-Sha, er ni llwyddodd hi atal farwolaeth Grace o ganlyniad i Gathering coil. Mewn cais i ddarganfod ei TARDIS coll, (TV: The Woman Who Fell to Earth) tywysodd y Doctor â Graham, Yaz a Ryan gyda hi ar ddamwain i Anghyfannedd, ac felly roedd hi'n sicr o geisio dychwelyd y grŵp i'w cartrefu unwaith darganfodon nhw eu llong ofod. (TV: The Ghost Monument) Fodd bynnag, crwydron nhw tipyn ar eu taith dychweledol, megis pryd roedd rhaid iddynt gwarchod Rosa Parks rhag y hiliwr a deithiodd amser, Krasko. (TV: Rosa) Serch hynny, llwyddodd eu crwydrau denu nhw i fywyd o deithio yn y TARDIS, gan ddethol ymuno'r TARDIS yn swyddogol wedyn dychwelyd cartref, gyda'r Doctor yn cyfeirio at ei grŵp o deithwyr fel "Tîm TARDIS" ac yn ystyried nhw fel ei "ffam". (TV: Arachnids in the UK) Gyda chwant i ddangos iddynt rhyfeddodau'r bydysawd, (TV: The Tsuranga Conundrum) tywysodd y Doctor y grŵp i weld rhaniad Pacistan, (TV: Demons of the Punjab) stordy Kerb!am (TV: Kerblam!) a Swydd Gaerhirfryn yr 17eg ganrif, (TV: The Witchfinders) gyda chyfarfyddiad gyda'r Solitract yn Norwy yn gryfhau'r perthynas teuluol rhwng Graham a Ryan, (TV: It Takes You Away) ac brwydr arall gyda Tzim-sha yn rhoi cysurdra iddynt dros farwolaeth Grace. (TV: The Battle of Ranskoor Av Kolos)

Yn dilyn helpu Ryan i wella ei berthynas gyda'i dad crwydrol wrth frwydro'r Dalek Archwiliol, (TV: Resolution) dechreuodd Tîm TARDIS ar gyfres o deithiau siriol a welon nhw'n frwydro yn erbyn y Cronnwr a bwytwyr cnwd Stileaidd gyda'r Asiantaeth Amser, (COMIG: A New Beginning, Hidden Human History) cyn cyfeillio â'r Chweched Corsair. (COMIG: Old Friends)

Edrychiad

Edrychodd yr ymgorfforiad hon yn debyg i fenyw yng nghanol ei thri degau, gyda gwallt golau i'w gên a gwreiddiau tywyll, a roedd ganddi llygaid lliw cyll. Roedd ganddi gwallt golau hyd ei gên gyda gwreiddiau tywyll a rhannodd i'r dde o'i phen a chyrliodd o gwmpas ei chlustiau, (TV: Twice Upon a Time) er, sythodd ei gwallt erbyn diwedd ei charchariad yn ngharchar y Jydŵn. (TV: Revolution of the Daleks) Yn gythruddiad iddi hi, roedd hi'n fyrrach na'i hymgorfforiad blaenorol. (TV: The Woman Who Fell to Earth)

Wrth baratoi am briodas Umbreen i Prem, cafodd y Doctor datŵs henna dros dro ar ei breichiau wrth Hansa. Yn ychwanegol, roedd ganddi blodyn y tu ôl ei chlust chwith yn ystod y seremoni. (TV: Demons of the Punjab)

Yn union dilyn gweld ei hadlewyrchiad am y tro cyntaf, sylwadodd y Trydydd ar Ddegfed Doctor ar ei gwyneb fel rhywbeth "ardderchog", (TV: Twice Upon a Time) ond roedd hi'n anymwybyddus o'i newidiad o wrywaidd i fenywaidd nes dywedodd Yaz iddi hi. (TV: The Woman Who Fell to Earth) Meddyliodd hi am ei hun fel bod yn "ciwt" wrth weld ei hun. (TV: The Vanquishers)

Yn y cefn

Y Doctor benywaidd cyntaf

Y Trydydd ar Ddegfed Doctor oedd yr ymgorfforiad benywaidd swyddogol cyntaf y Doctor yn hanes y rhaglen, ond roedd y cysyniad o gael Doctor benywaidd yn bodoli môr cynnar ag 1980, pan dywedodd Tom Baker, wrth adael rôl y Pedwerydd Doctor, i'r près, "I certainly wish my successor luck, whoever he -or she- might be." Pan ddewisodd Peter Davison i ymddeuol wrth rôl y Pumed Doctor, dywedodd John Nathan-Turner wrth y Daily Star bod the hunt for a new Doctor stars today and it's quite feasible it will be a woman".

Materion eraill

  • Yn dilyn y Nawfed Doctor, y Trydydd ar Ddegfed oedd ail ymgorfforiad y Doctor i gael yr un cydymaith trwy gydol pob un o'u hymddangosiadau teledu, gan roedd Yaz yn bresennol am bob un o'i tri deg un episôd, er cafon nhw eu gwahanu yn ystod Survivors of the Flux, pumed pennod y gyfres-mini Flux.
Community content is available under CC-BY-SA unless otherwise noted.
  NODES
Community 6
games 1
games 1
languages 1
Note 1
OOP 1
os 14