Sgïo
Grŵp o chwaraeon yw sgïo, sy'n defnyddio sgïau fel offer ar gyfer teithio dros eira. Defnyddir sgïau ynghyd â esgidiau sgïau sy'n cysylltu gyda'r sgïau gyda rhwymynnau sgïau.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, difyrwaith |
---|---|
Math | chwaraeon gaeaf, recreational sport, chwaraeon olympaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Caiff sgïo ei rannu'n sawl categori cyffredinol, sgïo Llychlynaidd yw'r fath hynaf o sgïo, mae'n tarddu o Sgandinafia ac yn defnyddio rhwymynnau sy'n cysylltu bysedd traed yr esgidiau i'r sgïau ond yn gadael y sawdl yn rhydd. Mae mathau o sgïo Llychlynaidd yn cynnwys sgïo traws gwlad, naid sgïo, a sgïo Telemark. Mae sgïo Alpaidd (a adnabyddir yn aml fel sgïo lawr-allt), yn tarddu o Alpau Ewrop, ac yn nodweddiadol am y rhwymynnau sy'n cysylltu bysedd traed a sodlau'r esgidiau i'r sgïau.