Andorra

gwladwriaeth bychan, sofran rhwng Ffrainc a Sbaen

Gwlad fechan yn ne-orllewin Ewrop yw Tywysogaeth Andorra neu Andorra sy'n ffinio â Ffrainc a Sbaen. Wedi'i chuddio bron ym mynyddoedd y Pyreneau, mae tywysogaeth Andorra'n dibynnu ar y diwydiant twristiaeth yn bennaf. Gwlad yn llawn dyffrynnoedd cul a thirwedd fynyddig ydyw a'i phrifddinas yw Andorra la Vella, sef y brifddinas uchaf yn Ewrop o lefel y môr: 1023 m.[1] Yn y cyfrifiad diwethaf roedd poblogaeth y wlad yn 85,101 (2023)[2], sydd tua hanner maint Casnewydd.

Andorra
Principat d'Andorra
ArwyddairVirtus Unita Fortior Edit this on Wikidata
Mathgwlad, gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
PrifddinasAndorra la Vella Edit this on Wikidata
Poblogaeth85,101 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1278 Edit this on Wikidata
AnthemEl gran Carlemany Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethXavier Espot Zamora Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, Ewrop/Andorra Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Catalaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPaïsos Catalans Edit this on Wikidata
Arwynebedd468 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFfrainc, Sbaen, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.56°N 1.56°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Andorra Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholY Cyngor Cyffredinol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Cyd-Dywysog Ffrainc, Cyd-Dywysog Esgobol Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJoan Enric Vives Sicília, Emmanuel Macron Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Andorra Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethXavier Espot Zamora Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$3,325 million, $3,352 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.27 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.858 Edit this on Wikidata

Mae dros ddeng miliwn o dwristiaid yn heidio i'r wlad hon bob blwyddyn, fe'u denir gan sgïo, y tywydd braf a'r ystod eang o nwyddau rhad o gymharu â'r gwledydd sy'n ffinio â hi.

Delwedd lloeren o Andorra

Ers dros saith gan mlynedd bellach, rheolir y wlad ar y cyd gan arweinydd Ffrainc ac Esgob Urgell o Sbaen. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993 gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol yno. Er bod y cyd-dywysogion yn dal i fod yn arweinwyr y wlad, rôl anrhydeddus sydd ganddynt mewn gwirionedd.

Ceir poblogaeth o 64,000 yn y wlad, er bod llawer o'r rheiny'n hannu o Sbaen yn wreiddiol. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg er bod Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg hefyd yn cael eu siarad. Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth ac mae Andorra'n un o'r gwledydd sy'n defnyddio'r Ewro. Mae'n cynhyrchu ei fersiynau eu hunan o'r darnau Ewro, fel pob un arall o'r gwledydd sy'n rhan o'r Ewro.

Mae cofnodion am fodolaeth Andorra fel gwladwriaeth yn dyddio i 1278 pan gafodd y wlad ei rhoi dan gyd-arglwyddiaeth Esgob Urgell, yn Sbaen, a'r Cownt de Foix yn Ffrainc (ac yn ddiweddarach Coron Ffrainc). Heddiw mae'r drefn yn dal i fodoli, er bod arlywydd Ffrainc wedi cymryd lle'r Goron ffiwdal. Pasiwyd y cyfansoddiad seneddol cyntaf ym 1993, gan sefydlu cyd-dywysogaeth seneddol.

 
Map Andorra

Daearyddiaeth

golygu

Mae Andorra yn un o wledydd lleiaf Ewrop a'r byd. Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Ewrop rhwng Ffrainc a Sbaen. Amgylchynir y wlad yn gyfangwbl bron gan fynyddoedd y Pyreneau, ac eithrio yn y de-orllewin lle mae Dyffryn Andorra yn ymagor i dalaith Lerida yn Sbaen.

Diwylliant

golygu

Mae diwylliant Andorra wedi ei dylanwadu gan ei dau gymydog mawr, Ffrainc a Sbaen. Yr iaith swyddogol yw'r Gatalaneg, ond yn ogystal mae Sbaeneg ac, i raddau llai, Ffrangeg yn cael eu siarad.

Prif grefydd y wlad yw Cristnogaeth Gatholig.

Economi

golygu

Twristiaeth yw'r sector pwysicaf o lawer yn economi Andorra. Mae awyr braf y mynyddoedd, y cyfe i sgïo, a'r ffaith fod prisiau'n llai yn Andorra nag yn Ffrainc a Sbaen, yn denu miloedd o bobl yno ar eu gwyliau. Mae'r wlad yn yr ardal Ewro.

Cyfeiriadau

golygu
  NODES
Done 1
eth 37
see 2