DARLLENWCH ERTHYGLAU (4)
News
-?! MARWOLAETH Y PARCH D. RHAGFYR JONES, TREORCI. Blin gennym gofnodi marwolaeth ein hannwyl weinidog, yr hyn gymerodd le prydnawn Sadwrn, Ebrill 3ydd, wedi cystudd maith a chaled. Bydd yr angladd brydnawn ddydd Iau nesaf. Cvnhelir gwasanaeth ym Methania. W. PHILLIPS, Ysg.
News
Towyn a Bryncrug. CYVARPOD SliFYDI^U Y PARCH H. O. JONES. Cynhaliwyd cyfarfodydd sefydlu y Parch H. O. Jones (gynt o Frynaman) yn weinidog ar eglwysi Bethesda, Towyn, a Saron, Bryncrug, Mawrth a Mercher, Mawrth 30am a'r 31ain. Nos Fawrth, yn Nhowyn, dechreuwyd y gwas- anaeth gan y Parch T. R. Jones, Towyn, a phreg- ethwyd gan y Parch H. Williams, Machynlleth. Ym Mryncrug dechreuwyd y gwasanaeth a phregethwyd gan y Parch H. Seiriol Williams, Pontardawe. Bore dydd Mercher cynhaliwyd gwasanaeth yn Nhowyn yn unig, pryd y dechreuodd y Parch J. M. Williams, Penygroes (y cyn-weinidog), a phregethodd y Parch H. Seiriol Williams, Pont- ardawe. Cynhaliwyd y cyfarfod sefydlu yn Nhowyn yn y prydnawn. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch T. J. Rees, Bryncrug. Wedi i'r Parch D. S. Thomas, Towyn, roddi ychydig o hanes eglwysi Towyn a Bryncrug, siaradwyd yn fyr gan Mri John Mason, Towyn, a John Evans, Bryncrug (diaconiaid) ac yna siaradodd dau o ddiaconiaid eglwys Ebenezer, Bryna»nan. sef Mri Rees Morgan a Thomas Davies. Bu y Parch H. O. Jones yn weinidog gweithgar a llwyddiannus yn yr eglwys hon am J3 mlynedd. Wedi i'r gweinidog ddiolch i'r brodyr hyn am eu tystiolaethau caredig, canwyd emyn, a gweddi- wyd gan y Parch H. Williams, Machynlleth. Yna siaradwyd yn fyr gan y Parchn D. Bynner, Towyn; J. M. Williams, Penygroes; Rhys Davies, Corris Seiriol Williams, Pontardawe a T. R. Jones, Towyn (cynrychiolwr Cyngor Eglwysi Rhyddion Towyn a'r cylch). Terfynwyd y gwasanaeth drwy weddi gan y Parch Gwilym Roberts, Towyn. Yn yr hwyr cynhaliwyd gwasanaeth yn Nhowyn a Bryncrug. Yn Nhowyn dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch D. Thomas, Clydach, a phregethwyd gan y Parchn J. M. Williams, Penygroes, a Seiriol Williams, Pontardawe. Ym Mryncrug pregethwyd gan y Parch H. Williams, Machynlleth.
News
Hysbysiad Dirprwywyr Yswiriant. Hysbysir ni yn swyddogol fod y Dirprwywyr Yswiriant Cymreig wedi penderfynu fod enw Dr John Livingstone, Barry Dock, i'w ddileu oddiar Restr Meddygon Panel sir Forgannwg. Daethpwyd i'r penderfyniad hwn ar ol ystyr- ied adroddiad o'r Ymchwiliad a gynhaliwyd ar Chwefror iofed diweddaf gan Bwyllgor Ymchwil- iad a benodwyd o dan Reolau'r Dirprwywyr Cymreig (1913) ynglyn a Budd Meddygol o dan Yswiriant Cenedlaethol Iechyd. Cynhaliwyd yr Ymchwiliad ar ol derbyn datganiad oddiwrth Bwyllgor Yswiriant sir Forgannwg i'r perwyl y buasai parhau i ganiatau i enw Dr vingstone fod ar y Panel yn niweidio effeithiolrwydd y gwasanaeth meddygol a roddir i bersonau yswir- iedig yn y sir. Hwn yw yr ail dro i'r Dirprwywyr weithredu fel hyn mewn canlyniad i ddatganiad a wnaetli- pwyd gan Bwyllgor Yswiriant sir Forgannwg Gweithredwyd yn yr un modd yn ddiweddar ar ol Ymchwiliad a gynhaliwyd ar dderbyniad datganiad cyffelyb oddiwrth Bwyllgor Yswiriant sir Fflint. iLJ
News
berygl i Ddatgysylltiad ? Nid oes gennym 4 weledigaeth eglur o gwbl ar tactics y Blaid Gymreig, a'n gwir ddymuniad yw eu cynorthwyo i atal unrhyw beth i beryglu'r Ddeddf sydd eisoes wedi ei phasio. Felly, bodlonwn heddyw ar aros am y goleu, a diau gennym y bydd wedi dod erbyn yr adeg y daw y sylwadau hyn dan lygad y darllenydd. GwähanolJp, | Ystyron.^ y penderfyniad olygu amryw bethau. j(r) Yr ydym eisoes I' :«? —LJ Jvve(li gwrthod y syniad eu bod. am oiciii eu dwylo oddiwrth y mesur, heb gynnyg ei drafod na'i wrth- wynebu. Byddai hynny yn fradwriaeth ac yn blentyndra nas gallwn eu cysylltu o; gwbl a dynion cyfrifol ac effro fel yr aelodau Cymreig. (2) Os mai moddion ydyw i dalu'r pwyth yn ol i'r Iylywodraeth, ac yn enwedig. i'r Canghellor a'r Ysgrifennydd Cartrefol, am iddynt fel plaid gael eu hanwybyddu wrth barotoi'r mesu r, addefwn fod hynny yn ddigon naturiol i gig a gwaed, ac fod y Llywodraeth yn haeddu sen a cherydd. Ond ni ddylem yrru'r llong ar y creigiau, a pheri difrod a llanastr i'n mesurau a'n bywydau ein hunain, yn unig er mwyn speitio'r swydd- ogion sydd ar y bridge. Ein busnes yn awr yw achub y llong a'r cargo, a setlo'r cyfrif ar arweinwyr wedi eu cael i'r porthladd. Peth sobr fyddai i Gymru gael ei cholledu a'i gwaedu oherwydd ffrwgwd chwerw rhwng y swyddogion a'r criw, pa mor gyfiawn bynnag to cwyn y dwylo yn erbyn y capten a'i fet. Dywedwn yn ddibetrus na faddeuir byth i'r neb a ddalio ar gyfle fel hyn i dalu'r pwyth yn ol i neb-adeg pan mae'r llwyth gwerthfawr yn y perygl mwyaf. (3) Eithr os mai ffordd effeithiolach yw hon i ennill yr amcan sydd mewn golwg, ac fod yr aelodau Cymreig yn gweled hynny yn glir er i'w ffrindiau fod yn y niwl, yna dywedwn Duw yn rhwydd iddynt, a gallant ddibynnu ar gefnogaeth pob Cymro Ymneilltuol Rhyddfrydig yn eu hymdrech a'u hymgyrch. Ond dylent fod yn hollol sicr o effeithiolrwydd eu cynllun cyn mentro ar ddim fyddo'n rhwygo ein rhengoedd, neu yn peryglu'r Ddeddf, er yn anfwriadol. Dywed Mr Ivlewelyn Williams yn bendant mai cyf- eirio am y dibyn y maent, a chynhygiodd weddiant ar yr un llinellau yn union a phenderfyniadau'r cynadleddau a'r cyng- hrair. O'r ochr arall, dywedodd y Parch John Williams a'i ddirprwyaeth eu bod yn cymeradwyo yn galonnog bender- fyniad yr aelodau fel ffordd o weithredu (as a mode of procedure). Yr oedd Mr Mr Williams wedi sicrhau Cynhadledd y Gogledd y byddai'r Llywodraeth yn sicr o gario'r gwelliantau hawlid gennym yn y Mesur Oedi, ac yr oedd newydd weled y Canghellor pan yn dywedyd hyn. Beth mwy oedd eisiau nis gallwn ddyfalu. Ac eto cymeradwyai Mr Williams y cwrs fabwysiadwyd gan yr aelodau yn Llall- drindod. Rhaid felly nad oes unrhyw anghysondeb rhyngddynt, ac fod rhyw- beth i'w ennill trwy beidio trafod y Mesur Oedi o gwbl. Ond pa un o'r ddau Williams sy'n iawn, amser a ddengys. (4) Gall mai dyma'r ffordd oreu i alluogi'r Llywodraeth ddod allan o dry- bini'r Mesur Oedi, a dwyn i fewn Fesur newydd mewn cydymgynghoriad a' r Blaid Gymreig a'r Blaid Doriaidd ac Eglwysig fo'n rhagori ar y Mesur pigog hwn, ac yn sicrhau yr un pryd yr amcan- ion sydd i'r Ddeddf Datgysylltu yn ogystal ag i'r esgobion a'r clerigwyr sy'n grwgnach a beio. Weithiau mae gwneud llestr newydd yn rhwyddach na thincera'r hen, ac yn ami mae mwy o'r golwg nag sydd ar y wyneb yn helyntion a chyniluniau gwleidyddwyr a Seneddwyr. Buasai yn dda gennym gredu mai hyn sy dan y camre cyfrin gymer yr Aelodau Cymreig y tro hwn, a'u bod yn rhwyddhau'r ffordd yn y pen draw i wir ddiogelwch, ond mae rhybudd a gwrthdystiad Mr Ivlewelyn Williams fel hunllef ar ein hysbryd pan ddechreuwn freuddwydio hyn. Un peth sydd sicr, fe siomir Cymru hyd at anarchiaeth os y siomir hi yn awr gan neb tufewn neu tuallan i'r Weinyddiaeth, a gwae'r euogion  l i, Ir A'r mwyd f yte),r Ddiod. MAIC R golenni sydd wedi ei dailu gan y Ddirprwyaeth bwysig o wneuthurwyr arfau a darbodion rhyfel sydd wedi ymweled a'r Canghellor ar y difrod ofnadwy wneir gan y ddiod feddwol ar effeithiolwrydd eu gweithwyr ar yr adeg hollbwysig hon yn ein hanes wedi peri braw a dychryn i bob ddinesydd ystyriol o fewn y deyrnas. Ac o'i wybodaeth gyflawn a dirgel ei hun ategai y Canghellor yr oil a ddywedid, a chyhoeddodd yn ddifloesgni mai o'r tii gelyn mawr yr ymladdwn ar hyn o bryd yn ea herbYll-Germani, Awstlia a'r Ddiod —rnai'r mwyaf o'r tri yw'r Ddiod. Yfir i'r fath ormodedd gan weithwyr y dibynna ein llynges a'n milwyr arnynt am eu holl nerthoedd rhyfel, fel y mae cynnyrch y gweithfaoedd hyn yn llai nag ydoedd cyn y rhyfel. Hynny yw, lleddir ein meibion dewr ar dir a mor am fod gweithwyr Pryd- ain yn llymeitian a meddwi yn greulon ac annuwiol yn y tafarndai gartref Nid rhyfedd fod y ddirprwyaeth yn galw am waharddiad hollol, ac i'r Canghellor gyd- nabod fod yn rhaid wrth fesurau eithafol (drastic) i ddelio a'r drwg. Yn wir, mae'r Brenin yn teimlo mor ddwys ar y mater lies myned yn llwyrymwrthodwr tra pery y rhyfel. A phaham nad all Prydain ddilyn esiampl Ffrainc a Rwsia yn y mater hwn, a rhoi ei sawdl yn ddidrugaredd ar y gelyn bradwrus o fewn ei gwersyll ? Yn sicr, hid amser i gwiblo am ryddid yr unigol ydyw, pan mae bodolaeth ein teyrnas mewn perygl. Ni phetruswn ddy- wedyd fod ymddygiad a thrafodaeth Anui- bynwyr Seisnig y De yn eu Cynhadledd yr WythllOS ddiweddaf yn annheilwng o draddodiadau yr Enwad ac o wir ystyr rhyddid yr Efengyl. A ydym i ganiatau lleiafrif o weithwyr meddw i werthu teyrnas gyfan a dinistrio miloedd o fyw- ydau ein milwyr a'n morwyr dan gochl dyllog rhyddid yr unigol ? Wfft iddynt Y Diweddar Barch Rhagjyr Jones. PAN wedi sychu ein hys^rifell am yr wyth- nos hon, wele'r newydd galarus yn ein cyrraedd am farwolaeth :n han- nwyl frawd a chyfaill, y Parch D. Rhugfyr 1 Jones, Treorci, yn yr oedran cymharol gynnar o 57. Bu'n dioddef am amser hir oddiwrth glefyd pryderas a blin, ac yn ystod yr wythnosau diweddaf cymera: ei afiechyd ffurfiau poenus iawn iddo'i un ac i'w anwyliaid. Cafodd Mrs Jones, er yn wael a gwan ei hun, amser nodedig o bryderus, ond cafodd hi a'i merch hefyd nerth rhyfedd gan Dduw i weini yn gyson ar eu hanwylyd. Ni wnawn heddyw ond cyhoeddi'r newydd galarus yn unig, gan y bwriadwn roi ein blodeuglwm ar fedd Rhagfyr yn ein nesaf. Cleddir dydd Ian, yr 8fed, am 2.30. Gwasanaeth cyhoeddus ym Methania.