Ffrainc

gwladwriaeth sofran yng ngorllewin Ewrop

Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc (Ffrangeg: France); enw swyddogol: Gweriniaeth Ffrainc (République française). Mae'n ffinio â Môr Udd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.

Ffrainc
République française
ArwyddairLiberté, égalité, fraternité Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFfranciaid Edit this on Wikidata
PrifddinasParis Edit this on Wikidata
Poblogaeth68,373,433 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemLa Marseillaise Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMichel Barnier Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd593,865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Ewrop, Pyreneau'r Canoldir, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd643,801 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Udd, Cefnfor yr Iwerydd, Môr y Gogledd, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSbaen, Andorra, Gwlad Belg, Lwcsembwrg, yr Almaen, Y Swistir, yr Eidal, Monaco, Brasil, Swrinam, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47°N 2°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Ffrainc Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Ffrainc Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethEmmanuel Macron Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ffrainc Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMichel Barnier Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$2,957,880 million, $2,782,905 million Edit this on Wikidata
ArianEwro, CFP Franc Edit this on Wikidata
Canran y diwaith10 ±1 canran, 10 ±0.1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.99 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.903 Edit this on Wikidata

Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, unig iaith swyddogol y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocsitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r Maghreb yn bennaf, yn siarad Arabeg yn ogystal.

Yng nghyfnod yr Henfyd, adnabyddid rhan helaaeth y diriogaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau Celtaidd mewn sawl teyrnas frodorol annibynnol. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion Groegaidd dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni.

Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galaidd-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaid, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair. Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.

Yn 1337 dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.

Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Ffrainc yn un o'r Cynghreiriaid. Yn dilyn Brwydr Ffrainc ym 1940 rhannwyd Ffrainc fetropolitanaidd yn rhanbarthau a feddiannwyd gan yr Almaen a'r Eidal a rhanbarth Llywodraeth Vichy oedd yn cydweithio â Phwerau'r Axis. Yn ystod blynyddoedd y feddiannaeth, brwydrodd mudiad y résistance yn erbyn y meddianwyr a'r cydweithredwyr. Adferwyd sofraniaeth Ffrengig ym 1944 ac aeth y Cynghreiriaid ymlaen i ennill y rhyfel ym 1945.

Daearyddiaeth

golygu

Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Béthune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn y Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc.

Mae gan Ffrainc amrywiaeth mawr o ran tirwedd, o'r gwastadeddau arfordirol yn y gogledd a'r gorllewin i fynyddoedd yr Alpau a'r Pyreneau yn y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Yn yr Alpau Ffrengig y mae Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop gydag uchder o 4810 m. Mae ardaloedd mynyddig eraill yn ogystal, gan gynnwys y Massif central, y Jura, y Vosges, y massif armoricain a'r Ardennes. Mae sawl afon nodedig yn llifo trwy'r wlad, gan gynnwys Afon Loire, Afon Rhône (sy'n tarddu yn y Swistir), Afon Garonne (sy'n tarddu yn Sbaen), Afon Seine, ac Afon Vilaine.

Demograffeg

golygu
 
Dinasoedd yn Ffrainc a phoblogaeth o fwy na 100,000

Gyda phoblogaeth o 64.5 miliwn, saif Ffrainc yn 19eg ymysg gwledydd y byd. Mae tŵf naturiol (heb gynnwys mewnfudiad) y boblogaeth wedi cyflynu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2004, tyfodd y boblogaeth o 0.68%, tra yn 2006 roedd 299,800 mwy o enedigaethau nag o farwolaethau.

Yn 2004, ymfudodd 140,033 o bobl i Ffrainc, 90,250 ohonynt o wledydd Affrica a 13,710 o Ewrob. Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ystadegau ac Astudiaethau Economaidd, roedd tua 4.9 miliwn o bobl wedi ei geni mewn gwledydd eraill yn byw yn Ffrainc, 2 filiwn ohonynt wedi dod yn ddinasyddion Ffrengig.

Er fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, mae poblogaeth llawer o ardaloedd gwledig yn parhau i leihau. Yn y cyfnod 1960-1999, gostyngodd poblogaeth pymtheg o départements gwledig; y gostyngiad mwyaf oedd 24% yn Creuse.

Dinasoedd mwyaf Ffrainc yw:

Rhif Enw 1982 1990 1999 2007 Ardal
1. Paris 2.176.243 2.152.423 2.125.246 2.143.614 Île-de-France
2. Marseille 874.436 800.550 798.430 791.172 Provence-Alpes-Côte d’Azur
3. Lyon 413.095 415.487 445.452 479.288 Rhône-Alpes
4. Toulouse 347.995 358.688 390.350 445.164 Midi-Pyrénées
5. Nice 337.085 342.439 342.738 336.795 Provence-Alpes-Côte d’Azur
6. Naoned 240.539 244.995 270.251 278.308 Pays de la Loire
7. Strasbourg 248.712 252.338 276.391 277.716 Alsace
8. Montpellier 197.231 207.996 225.392 255.015 Languedoc-Roussillon
9. Lille 196.705 198.691 212.597 240.787 Nord-Pas-de-Calais
10. Bordeaux 208.159 210.336 215.363 236.202 Aquitaine
11. Rennes 194.656 197.536 206.229 209.101 Bretagne
12. Reims 177.234 180.620 187.206 198.597 Champagne-Ardenne
13. Le Havre 199.388 195.854 190.905 183.958 Haute-Normandie
14. Saint-Étienne 204.955 199.396 175.127 173.835 Rhône-Alpes
15. Angers 136.038 141.404 151.279 172.534 Pays de la Loire
16. Toulon 179.423 167.619 160.639 169.387 Provence-Alpes-Côte d’Azur
17. Grenoble 156.637 150.758 153.317 159.472 Rhône-Alpes
18. Nîmes 124.220 128.471 133.424 151.767 Languedoc-Roussillon
19. Aix-en-Provence 121.327 123.842 134.222 150.342 Provence-Alpes-Côte d’Azur
20. Dijon 140.942 146.703 149.867 148.986 Bourgogne

Rhaniadau gweinyddol

golygu

 

Ffrainc
4051 Cantons
36 697 Communes


Rhennir Gweriniaeth Ffrainc yn 27 région. Mae 21 ohonynt yn ffurfio'r Ffrainc gyfandirol, felly wrth gyfri Corsica hefyd, mae yna 22 région yn Ffrainc fetropolitanaidd. Y régions tramorGuadeloupe, Martinique, Réunion, Mayotte a Guiana Ffrengig — yw'r 5 arall.

Rhennir y régions ymhellach yn 101 département. Mae pob un o'r régions tramor hefyd yn département ynddi'i hun. Mae rhif gan bob département rhif a ddefnyddir ar gyfer codau post, cofrestru ceir ac yn y blaen. Rhennir pob un o'r départements metropolitanaidd yn sawl arrondissement, a rennir wedyn yn cantons llai. Rhennir y cantons yn communes - mae yna 36,697 commune, ac mae cyngor trefol etholedig gan bob un. Rhennir communes Paris, Lyon a Marseille yn arrondissements trefol yn ogystal.

Yr arrondissements dinesig enwocaf yw Arrondissements Paris, lle ceis 20 ohonynt.

Yn ogystal â'r uchod, mae sawl tiriogaeth dramor gan Weriniaeth Ffrainc.

Cyfeiriadau

golygu
Chwiliwch am Ffrainc
yn Wiciadur.
  NODES